Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych

Building better communities

  • Cymraeg
  • English

  • Cartref
  • Amdanom Ni
    • Rhaglen a Cofnodion
    • Newyddlen
    • Pecyn Cymorth Rhannu Gwybodaeth
  • Asesiad o Les Lleol
  • Cynllun Lles Lleol
    • Cyngor Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
  • Partneriaid
  • Hygyrchedd
  • Cysylltu â Ni
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych > Home > Asesiad o Les Lleol > Lles Economaidd

Lles Economaidd

Mae enillydd y wobr Nobel, Amartya Sen, yn disgrifio lles economaidd fel ‘galluoedd’ unigolyn i arwain y mathau o fywydau y maent yn eu gwerthfawrogi – a bod rheswm ganddynt i’w gwerthfawrogi. [i] Mae ystod o ffactorau sylweddol ac ansylweddol naill ai’n gwella neu’n rhwystro gallu pobl, gan gynyddu neu leihau eu cyfle o brofi lles.

Mae gallu unigolyn i ddiwallu eu hanghenion materol yn dibynnu ar eu hadnoddau eu hunain ac adnoddau’r gymuned ehangach y maent yn rhan ohoni. Prif adnoddau unigolyn neu gymuned yw’r sgiliau a’r wybodaeth (cyfalaf dynol) y gallant eu defnyddio i gael mynediad at adnoddau eilaidd (incwm a chyfoeth) y gellir ei gyfnewid am nwyddau a gwasanaethau sy’n darparu ar gyfer lles economaidd unigolyn.

Mae unigolion a chymunedau yn actorion o fewn ecosystem economaidd sy’n cynnwys deunyddiau crai, tir ac adeiladau, seilwaith cludiant a chyfathrebu a sefydliadau yn y sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Mae gan yr ecosystem economaidd rôl bwysig i benderfynu ar gyfleoedd ar gyfer unigolion a chymunedau.

[i] Amartya Sen, Development as Freedom

  • Asedau a Heriau Diwylliannol Presennol
  • Newid Diwylliannol a Ddisgwylir: Cyfleoedd a Risgiau
  • Testunau yn y Thema hon

Mewn perthynas â chyfalaf dynol mae tair thema yn flaenllaw mewn dadansoddiad o les economaidd yn y ddwy sir.

Sgiliau a Chymwysterau

Yng Nghonwy a Sir Ddinbych rydym wedi gweld tueddiadau sy’n gwella o ran sgiliau ymysg y boblogaeth oedran gwaith. Mae hyn yn cynnwys nifer cynyddol o bobl â chymwysterau NVQ4 neu uwch a gostyngiad yn nifer y bobl heb unrhyw gymwysterau.

Rydym hefyd wedi gweld gwelliant ar draws ystod o ddangosyddion cyrhaeddiad ysgolion gyda Chonwy a Sir Ddinbych yn lleihau bylchau hanesyddol mewn cyrhaeddiad, rhyngddynt hwy eu hunain a Chymru. Serch hynny, mae tystiolaeth o gymaryddion rhyngwladol yn awgrymu bod angen gwella’n sylweddol y tu hwnt i lefelau cyfredol Cymru o berfformiad addysgol, er mwyn cystadlu â’r gorau yn fyd-eang.

Mae’r cyswllt rhwng sgiliau a lefelau cymhwyso, cyflogadwyedd, incwm a chyfoeth yn hysbys iawn. Mae Conwy a Sir Ddinbych ar hyn o bryd yn cynnwys ardaloedd lle bo incwm yr aelwyd yn sylweddol is na rhannau eraill o’r DU a Chymru, a lle bo lefelau diweithdra yn sylweddol uwch.

Sgiliau a chymwysterau yw un maes lle gwelwn anghydraddoldebau. Mewn oedran ysgol gwelwn fylchau rhwng cyrhaeddiad bechgyn a merched, a’r rhai sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim a’r rhai nad ydynt yn gymwys. Yn y boblogaeth oedran gwaith mae gwahaniaethau o ran lefelau cymhwyso yn ôl oedran a rhwng gwahanol ardaloedd daearyddol.

Cyflogaeth a Diffyg Gwaith

Er bod sawl economegydd yn dadlau bod cyfradd gytbwys o ddiweithdra minimol yn ddymunol yn system y farchnad, gellir ystyried gormodedd o ddiweithdra fel tanddefnyddio cyfalaf dynol, gyda chanlyniadau negyddol ar gyfer yr ecosystem economaidd yn ei chyfanrwydd. Yn ogystal â hyn, mae natur grynodedig diweithdra yn y rhannau hynny o Gonwy a Sir Ddinbych sy’n profi lefel uchel o amddifadedd lluosog yn dangos y canlyniad negyddol ar gyfer cymunedau ac unigolion yn glir. Mae budd-daliadau lles yn darparu incymau isel yn unig. Mae niferoedd uchel o hawlwyr budd-daliadau, o bob math, yn cael effaith negyddol ar ecosystem unigol, cymunedol ac economaidd ac yn lleihau gallu pobl i gyflawni lles economaidd.

Tueddiadau demograffig

Mae’r ddwy sir hefyd yn dioddef elfen ychwanegol sef colli cyfalaf dynol. Mae allfudiad pobl ifanc wedi cyfrannu at boblogaeth oedran gwaith cynnar sy’n llai na rhannau eraill o’r wlad. Mae’r rhesymau dros golli’r cyfalaf dynol hwn yn gysylltiedig â materion yn yr ecosystem economaidd. Yn bennaf, diffyg argaeledd addysg uwch, cyfleoedd am swyddi a thai fforddiadwy. Ar yr un pryd mae poblogaeth fawr o bobl sydd wedi ymddeol yn cael effaith ar yr ecosystem economaidd. Ar un llaw gall y cynnydd mewn pobl sydd ag anghenion cymhleth gyflwyno her ar gyfer y gymuned, ond ar y llaw arall, mae argaeledd unigolion medrus a gwybodus sydd wedi ymddeol sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol a gwirfoddoli yn cyflwyno ased cymunedol.

Mae’r ecosystem economaidd yng Nghonwy a Sir Ddinbych yn nodweddiadol oherwydd y sector cyhoeddus enfawr, nifer o fusnesau bach, a sectorau twristiaeth ac amaethyddiaeth o bwysigrwydd strategol. Mae rhywfaint o dystiolaeth bod y ddwy sir yn cael trafferthion o ran gwerth ychwanegol gyda’r bwlch rhwng Conwy a Sir Ddinbych a’r DU, o ran Gwerth Ychwanegol Gros y pen, yn cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf.

Mae dyfodol y sector amaethyddiaeth yn ansicr. Mae risgiau yn cynnwys effaith negyddol posibl oherwydd BREXIT drwy leihau cymhorthdal ffermydd ac amodau masnachu llai ffafriol sy’n cael effaith negyddol ar allforio. Ar y llaw arall, gallai BREXIT arwain at amodau masnachu sy’n fwy ffafriol ar gyfer amaethyddiaeth gan fod punt wan yn gwella cystadleurwydd allforio ac mae allforio drytach yn gwella galw prynwyr am gynnyrch lleol.

Nid yw effaith BREXIT ar y diwydiant twristiaeth yn eglur o gwbl. Unwaith eto mae sefyllfa gadarnhaol lle bo cynnydd mewn ymwelwyr o’r DU gan fod gwyliau yn Ewrop yn llai dymunol. Ar y llaw arall, efallai y bydd gostyngiad mewn ymwelwyr tramor yn cael effaith negyddol ar y sector.

Mae Ardaloedd Menter Gogledd Cymru a phrosiectau allweddol Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn cyflwyno cyfleoedd sylweddol mewn cyflogaeth a’r gadwyn gyflenwi. Er nad yw Conwy a Sir Ddinbych yn cynnal Ardaloedd Menter eu hunain, mae eu lleoliad canolog yn golygu eu bod o fewn pellter teithio hawdd i Ardaloedd Menter Ynys Môn, Eryri a Glannau Dyfrdwy.

Datgelodd gwaith ymgysylltu bod llawer o ddiddordeb gan y cyhoedd yn natblygiad pellach y sector ynni adnewyddadwy, sydd yn darparu manteision ar gyfer cynaliadwyedd economaidd ynghyd â gwydnwch amgylcheddol. Mae angen archwilio cyfleoedd masnachol y sector hwn ymhellach.

  • Cyfleoedd gwaith lleol
  • Cyraeddiadau addysgol a datblygiad cymdeithasol ehangach
  • Gwella sgiliau ar gyfer gwaith
  • Ased allweddol – cefnogi busnesau bach
  • Sector cyflogaeth allweddol – twristiaeth
  • Sector cyflogaeth allweddol – amaethyddiaeth a choedwigaeth
  • Sector cyflogaeth allweddol – gofal cymdeithasol ac iechyd

Hawlfraint © 2017 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych . Cedwir pob hawl.

Ymwadiad | Preifatrwydd

MENU
  • Cartref
  • Amdanom Ni
    • Rhaglen a Cofnodion
    • Newyddlen
    • Pecyn Cymorth Rhannu Gwybodaeth
  • Asesiad o Les Lleol
  • Cynllun Lles Lleol
    • Cyngor Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
  • Partneriaid
  • Hygyrchedd
  • Cysylltu â Ni