Mae nifer o ardaloedd a nodweddion tirweddau Cymru yn brin, unigryw a gwerthfawr. Tra bo 81% o’r boblogaeth yn byw ar yr arfordir, mae Conwy a Sir Ddinbych yn bennaf yn ardaloedd gwledig. Mae’r ardaloedd gwledig yn cynnwys ardaloedd ffermio dwys gyda phocedi o werth bioamrywiaeth uwch yn yr iseldiroedd, tra bo’r berthynas fel arall yn yr ucheldiroedd gyda mwy o ardaloedd bioamrywiaeth wedi’u gwasgaru ymysg tir ffermio dwys a choedwigaeth. Mae ardaloedd mawr o Gonwy a Sir Ddinbych yn gynefinoedd â phwysigrwydd rhyngwladol sydd wedi’u diogelu fel Ardaloedd Cadwraeth Arbennig. Mae’r cynefinoedd cymwys y mae’r safleoedd hyn yn ceisio eu hamddiffyn yn cynnwys glaswelltiroedd calchaidd sych a rhosydd sych, coetiroedd pisgwydd ac onnen, llynnoedd ucheldiroedd â diffyg maeth, traethellau a morfa heli. Mae rhai o’r safleoedd hyn mewn cyflwr anffafriol i gefnogi’r nodweddion cymwys gan gynnwys rhywogaethau â blaenoriaeth. Gall hyn fod o ganlyniad i reolaeth amhriodol o dir amaethyddol, gan gynnwys gor/tan bori, arferion hanesyddol megis draenio rhostir, diffyg rheolaeth prysgwydd, peidio â thynnu rhywogaethau goresgynnol nad ydynt yn gynhenid, llosgi cynefinoedd heb reolaeth, a diffyg rheolaeth aildyfiant naturiol ger coedwigoedd. Mae pwysau ychwanegol o ran mynediad ar gyfer dibenion hamdden. Mae’r safleoedd yn cynnwys: Mae rhannau o bump Ardal Amddiffyn Arbennig, sydd wedi’u dosbarthu oherwydd adar prin a diamddiffyn ac oherwydd bod rhywogaethau mudol yn digwydd yn aml, o fewn Conwy a Sir Ddinbych. Mae safleoedd alltraeth dynodedig Ewropeaidd yn cynnwys y Fenai/Bae Conwy, Aber Afon Dyfrdwy a Bae Lerpwl sydd oll â phwysigrwydd rhyngwladol. Mae’r dynodiadau yn adlewyrchu gwaddodion morol cyfoethog y dyfroedd a’u lloches sy’n darparu cynefinoedd cyfoethog ar gyfer ystod eang o rywogaethau a warchodir a rhywogaethau pwysig. Mae safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig sydd o bwysigrwydd cenedlaethol mewn cyfran dda o’r ardal o dir yng Nghonwy a Sir Ddinbych. Mae’r rhain yn cynnwys dynodiadau Ewropeaidd a chenedlaethol. Mae’r safleoedd o bwysigrwydd cenedlaethol hyn yn cynnwys ystod eang o gynefinoedd o dwyni tywod a cherrig mân arfordirol, drwy forfa heli, gwely cyrs, glaswelltir heb eu gwella, cynefinoedd rhostir uchel ac amrywiaeth o fathau o goetiroedd. Yn bennaf y tu allan i’r safleoedd dynodedig, mae coetiroedd yn gorchuddio 13.5% o Sir Conwy a Sir Ddinbych – yn debyg i gyfartaledd Cymru. Er bo cyfran sylweddol o’r ardal hon o ganlyniad i blanhigfeydd conwydd yng Nghoed Gwydir yn Nyffryn Conwy a Choedwig enfawr Clocaenog, mae rhan fwyaf o ardaloedd y siroedd yn nodedig oherwydd bod blociau bach o goetiroedd collddail ffermydd gyda grwpiau mawr ohonynt ar stadau gwledig. Gellir canfod cynefinoedd gwerthfawr eraill drwy’r holl dirweddau ffermio, yn bennaf perthi sydd â rôl bwysig i gysylltu cynefinoedd coetiroedd, glaswelltiroedd corsiog sy’n cefnogi rhywogaethau cenedlaethol o rydwyr, a grwpiau o byllau sy’n cefnogi amrywiaeth o rywogaethau gan gynnwys madfallod dŵr cribog. Mae cynnal a chadw amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach yn gonglfaen y nod ar gyfer Cymru gydnerth. Yn ogystal â hyn, mae gan gynefinoedd naturiol Conwy a Sir Ddinbych rôl allweddol i gyfrannu at ddarparu’r mwyafrif o’r chwe nod lles arall drwy gynyddu gwydnwch i ddigwyddiadau llifogydd, cyfrannu at incymau ffermydd ac arallgyfeirio, gwella iechyd drwy hamdden sydd am ddim ar y pwynt mynediad, lleihau allyriadau carbon, a chefnogi’r sector twristiaeth a hamdden awyr agored pwysig sy’n hynod ddibynnol ar dirweddau naturiol. Mewn sawl ardal, megis ar ymylon gorllewinol Dyffryn Conwy a Mynydd Hiraethog, mae ardaloedd o werth bioamrywiaeth uchel i gymedrol yn cyd-fynd ag ardaloedd o bwysigrwydd hanesyddol ac archeolegol uchel ac mae amddiffyn yr ardaloedd hyn yn hyrwyddo’r nod o gael Cymru gyda diwylliant bywiog. Mae gan goedwigoedd a choetiroedd fuddion hamdden a chadwraeth sylweddol, ynghyd â buddion economaidd. Mae coedwig Clocaenog yn ffurfio rhan o ardal chwilio strategol ar gyfer datblygiad fferm wynt ac yn gartref i’r wiwer goch. O ran coetir llydanddail, mae’r coedwigoedd yn llawn derwen ac onnen ac yn gartref i bathewod mewn rhai ardaloedd. Mae heriau o ran sefydlu coedwigoedd llydanddail newydd oherwydd difrod wiwerod llwyd; ychydig o gymhelliad ariannol i blannu a rheoli coetiroedd; diffyg argaeledd tir i blannu oherwydd diffyg cymhelliant a sylfaen contractwyr isel. Mae sensitifrwydd hefyd yn bodoli yn yr ucheldiroedd rhwng cynefinoedd ucheldiroedd a rheoli coedwigoedd (megis coed yn atgynhyrchu ar safleoedd cadwraeth agored). Er hynny mae’r sector coedwigaeth yn ffynhonnell werthfawr o gyflogaeth yn yr ardaloedd gwledig, tra bo’r defnydd o goed ar y fferm yn cynorthwyo i gadw costau’n isel a chyfrannu at hyfywedd y daliadau. Felly mae coetiroedd a choed yn darparu amrywiaeth o fuddion ar gyfer lles. Maent yn cynorthwyo i reoleiddio ein hinsawdd, darparu incwm a swyddi o goed a gweithgareddau eraill, storio carbon; cyfrannu at leihau perygl llifogydd a llif afonydd isel; diogelu priddoedd; gwella ansawdd aer; lleihau sŵn; a rheoleiddio plâu a heintiau. Mae ganddynt rôl bwysig ar gyfer peillio, ffurfio priddoedd, ailgylchu maethynnau, ailgylchu dŵr a chynhyrchu ocsigen, ac maent oll yn bwysig i gefnogi lles. Yng nghanolbarth Cymru, mae coetiroedd wedi cynorthwyo i glustogi dŵr ffo a thra bo dyffryn Elwy wedi bod yn destun astudiaethau gan Gyfoeth Naturiol Cymru mae angen ymchwil pellach ar gyfer plannu strategol ar gyfer coetiroedd newydd yn yr ardal at y diben hwn. Mae gan berthi, ynghyd â bod yn gynefin bywyd gwyllt pwysig, rôl bwysig i ddarparu lloches ar gyfer stoc a chynyddu cynhyrchiant ffermydd. Mae astudiaethau academaidd i ddangos buddion lloches o’r fath ar gyfer ffermio ar y gweill. Gall cynefinoedd mawnog dderbyn rôl bwysig i reoli dŵr, arafu dyfroedd llifogydd a lleihau perygl llifogydd i lawr yr afon. Drwy ryddhau dŵr yn araf yn ystod y cyfnodau sych, mae mawn yn gymorth i leihau effaith sychder ar gyflenwadau dŵr ac ar lif afonydd a nentydd. Mae mawndiroedd iach hefyd yn suddfan carbon pwysig. Mae prosiectau i adfer mawndiroedd wedi’u cynnal yng Nghonwy ac ardaloedd uwch Elwy. Mae ein profiadau a’n rhyngweithiad gyda thirweddau naturiol wedi dangos eu bod yn cael effaith gadarnhaol ar ein hiechyd a’n lles. Mae tirweddau deniadol, harddwch naturiol, treftadaeth ddiwylliannol a llonyddwch yn darparu cyfleoedd a buddion ar gyfer cymunedau iach, hamdden, twristiaeth a gweithgarwch economaidd. Mae tirweddau naturiol yn darparu lleoliadau lle y gellir canfod cyfleoedd ar gyfer mynediad a mwynhad, gan ddenu pobl a chyfrannu at ffyrdd o fyw iach a lleihau pwysau yn yr holl grwpiau oedran. Mae chwarae naturiol yn gwella datblygiad plant ac mae cleifion mewn ysbytai gyda golygfa o fannau gwyrdd a natur yn gwella’n gyflymach. Mae tirweddau yn darparu lleoliadau a chyfleoedd ar gyfer mynediad a mwynhad, gan ddenu ffyrdd o fyw iach a lleihau pwysau yn yr holl grwpiau oedran. Mae astudiaethau wedi dangos bod cysylltiadau cadarnhaol sylweddol rhwng lles meddyliol a chorfforol a chynyddu coed a mannau gwyrdd mewn ardaloedd trefol. Mae gan blant sy’n byw mewn ardaloedd gyda mwy o goed ar y stryd, er enghraifft, llai o achosion o asthma. Gall ardaloedd naturiol lleol ddarparu cyswllt pwysig i’n hymdeimlad o falchder cenedlaethol, diwylliant a hunaniaeth leol. Mae gan rwydweithiau llwybrau, coetiroedd trefol, ardaloedd arfordirol a seilwaith gwyrdd arall sy’n ceisio gwella ansawdd a hygyrchedd yr amgylchedd lleol rôl bwysig i wella iechyd a lles pobl yng Nghymru. Er bod gan Gonwy a Sir Ddinbych nifer o Warchodfeydd Natur Lleol a safleoedd hygyrch eraill o fewn ac o amgylch yr ardaloedd trefol, mae eu hyrwyddo a’u defnyddio gan grwpiau sy’n anodd eu cyrraedd yn her barhaus. Mae nifer o weithgareddau hamdden awyr agored yn rhad ac am ddim ar eu pwynt defnydd, gan alluogi cyfranogaeth ar draws a rhwng y cymunedau. Gall yr awyr agored gynnig cyfleoedd i bawb; a gall hyrwyddo, cyfleusterau a chyfleoedd mynediad priodol wella cynhwysiant cymdeithasol. Ynghyd â manteision iechyd, gall cerdded a beicio chwarae rôl allweddol ar gyfer yr anghenion cludiant lleol. Mae’r hyn sy’n cael eu cyfrif fel ‘teithiau bob dydd’ i’r gwaith ar droed neu ar feic yn costio llai ac yn gymorth i gadw pobl yn heini ynghyd â darparu mwynhad. Mae’r math hwn o daith yn cael ei ddisgrifio fel ‘teithio llesol’ yn awr. Mae’r math hwn o deithio hefyd yn cyfrannu at gynorthwyo i fynd i’r afael â thagfeydd, llygredd a newid hinsawdd sy’n gysylltiedig â dibyniaeth ar geir. Mae gwerth economaidd mewn tirweddau naturiol fel cyrchfannau ar gyfer ymwelwyr, ond hefyd fel mannau i gymunedau ffynnu. Mae tirweddau Cymru â gwerth o £8 biliwn y flwyddyn (gyda £4.2 biliwn o dwristiaeth), a gwerth diwydiannau sy’n seiliedig ar Goedwigaeth yw £400 miliwn y flwyddyn i economi Cymru, er gwaethaf y ffaith ein bod yn parhau i fewnforio 63% o goed meddal a 94% o bren caled. Os ydym am wireddu’r buddion y mae coetiroedd a choed yn eu darparu, mae’n rhaid i ni greu mwy o goetiroedd newydd neu reoli’r coetiroedd presennol mewn modd sy’n gallu cynhyrchu pren sy’n cael ei ddefnyddio’n lleol mewn cynnyrch ac yn y byd adeiladu – gan gefnogi swyddi a’r economi, ac yn darparu buddion iechyd cymunedol a bioamrywiaeth ar yr un pryd. Awgrymodd cymunedau y dylem wneud mwy i annog pobl iau i chwarae eu rhan mewn materion amgylchedd ac y dylid cefnogi cymunedau i helpu i ddiogelu’r amgylchedd. Roedd pobl yn bryderus na ddylid gor-ddatblygu (yn enwedig o ran adeiladu tai) ac y dylid cydbwyso cadwraeth natur a datblygu gan ddiogelu’r hyn sy’n brin ac yn unigryw. Yr amgylchedd naturiol – y mynyddoedd a’r traethau – yn anad dim arall, sy’n cynnal twristiaeth a’r economi a rhaid gofalu amdano. Cawsom hefyd sylwadau y dylid annog amrywiaeth yn hytrach na ‘diwylliant mono’ mewn amaeth.