Mae hwn yn faes asesu sydd angen gwaith pellach ac yn fwlch gwybodaeth ar hyn o bryd. Mae wedi’i nodi fel maes pryder drwy ymgynghoriad, ond ychydig iawn o ymchwil a thystiolaeth leol sydd ar gael ar y testun ar hyn o bryd. Mae mynediad i ddewisiadau cludiant effeithlon a fforddiadwy yn fater allweddol sy’n tanategu lles ac yn gwella cynhwysiant cymdeithasol a chysylltedd. Mae cysylltiadau cludiant da yn hwyluso perthnasau presennol ac yn gallu datblygu rhai newydd – mewn cyd-destun economaidd ar gyfer busnesau, darparwyr gwasanaeth a’u gweithlu, ond hefyd ar gyfer pobl a chymunedau, gan fod cysylltedd cludiant yn effeithio ar ryngweithio cymdeithasol, mynediad at fanwerthu a gwasanaethau hanfodol, a’r cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol a hamdden. Yn benodol mae pobl mewn perygl o gael eu heithrio’n gymdeithasol yn profi gwir anawsterau cyrraedd gwahanol leoedd. Nid yw gwasanaethau cludiant cyhoeddus rheolaidd a dibynadwy ar gael ym mhob cymuned bob amser, ac weithiau nid ydynt yn fforddiadwy i bobl ar incwm isel neu efallai nad ydynt yn mynd â phobl i’r man y maent eisiau ei gyrraedd. Efallai na fydd beicio a cherdded yn ddewisiadau addas i gael mynediad at wasanaethau sy’n bell neu mewn amgylcheddau lle bo lefelau traffig a chyfraddau damweiniau yn uchel. O fewn yr economi, mae cludiant yn effeithio ar allu busnesau i gyflawni masnach gyda chwsmeriaid a chyflenwyr ac i recriwtio gweithlu. Gall argaeledd llwybrau cludiant da mewn ardal ddylanwadu ar leoliad busnes ac annog buddsoddiad newydd. Mae newid yn economi ehangach y DU o ddiwydiannau sy’n seiliedig ar gludo sectorau cynradd/eilaidd i’r sector gwasanaeth yn golygu efallai na fydd nifer o’n llwybrau cludiant presennol yn addas ar gyfer y ffyrdd newydd o weithio. Er gwaethaf cynnydd mewn traffig mae ffigurau cyffredinol yn awgrymu bod damweiniau traffig ffyrdd ac anafiadau yn lleihau dros amser. Mae’r cynnydd mewn damweiniau sy’n digwydd gan nad yw’r gyrrwr yn canolbwyntio oherwydd y defnydd o ffonau symudol yn bryder fodd bynnag. Mae cludiant yn gyfrifol am oddeutu 30% o holl allyriadau carbon y DU[i]. Mae potensial sylweddol ar gyfer cyrff y sector cyhoeddus i gynorthwyo i leihau allyriadau cludiant drwy systemau a seilwaith cludiant wedi’i ariannu gan lywodraeth leol, a chynllunio teithio y gellir ei gyflawni gan yr holl sefydliadu sector cyhoeddus. Mae hyrwyddo cerbydau glanach yn ein fflydoedd cludiant ein hunain a hwyluso darparu pwyntiau tanwydd amgen (er enghraifft pwyntiau gwefru ceir trydan) hefyd o fewn cylch gwaith sefydliadau’r sector cyhoeddus. Y prif ddulliau ar gyfer cyrraedd, gadael a theithio o fewn yr ardal yw’r A55 ar hyd yr arfordir (Euroroute E22), y rheilffordd gyfochrog o Fanceinion a Llundain i Gaergybi a ffordd yr A5 tua’r de. Yng Nghonwy, mae’r A470 yn darparu ffordd gyswllt y gogledd i’r de sy’n gyfochrog â rheilffordd sy’n cysylltu Cyffordd Llandudno gyda Blaenau Ffestiniog. Yn Sir Ddinbych mae’r A525 yn rhedeg o’r gogledd i’r de ac yn cysylltu trefi marchnad Llanelwy, Dinbych a Rhuthun. Rhai o’r materion sy’n ymwneud â chludiant y mae’n rhaid i ni eu deall yn well yw: [i] Ystadegau swyddogol allyriadau chwarterol dros dro y DU Ch1 2016, Adran Ynni a Newid Hinsawdd