Oeddech chi’n gwybod…
- Mae goleuo swyddfa arferol dros nos yn gwastraffu digon o ynni i gynhesu dŵr ar gyfer 1000 o baneidiau o de
- Dim ond 5% o’r pŵer a dynnir arno gan wefrwr ffôn a ddefnyddir i wefru ffôn – felly cofiwch ei ddiffodd ar ôl gorffen gwefru!
- Mae cynnydd o 2°c mewn tymheredd swyddfa dros flwyddyn yn creu digon o CO2 i lenwi balŵn aer poeth
Y Newidiadau Gwyrdd gallwch chi gofrestru ar eu cyfer
- Newid Gwyrdd 1 – peidio gwastraffu ynni (e.e. diffodd goleuadau, peiriannau ac offer gwefru a chau ffenestri)
- Newid Gwyrdd 2 – defnyddio ynni gwyrdd
- Newid Gwyrdd 3 – gwneud adeiladau cymunedol yn fwy ynni-effeithlon (e.e. gwres, goleuadau a dŵr)
Pwy sy’n gwneud y newid yn barod?
- Mae Cyngor Cymuned Bro Cernyw wedi gosod paneli solar ar eu toiledau cyhoeddus yn Llangernyw i gynhesu’r dŵr a phweru’r golau a’r sychwyr dwylo
- Mae nifer o gymunedau yng Ngogledd Cymru’n buddsoddi mewn cynlluniau trydan dŵr – holwch sut y llwyddodd Ynni Anafon yn Abergwyngregyn, Cydweithrediad Trydan Corwen a Phartneriaeth Ogwen ym Methesda i newid pethau
- Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi bod yn rhoi inswleiddiad gwlân mewn rhai o’u hadeiladau ers blynyddoedd – dysgwch fwy am hyn yma.
Syniadau i’ch rhoi ar ben ffordd
- Newid i fylbiau golau LED, gallai hyn leihau eich ôl troed carbon ac arbed £450 y flwyddyn
- Diweddaru eich ffenestri – gall hyn leihau swm yr ynni a gollir o 75%
- Buddsoddi mewn insiwleiddio – gall hyn arbed hyd at 80% o golledion gwresogi ac oeri
- Amnewid hen offer gydag offer effeithlon o ran ynni – gall hyn helpu lleihau eich biliau ynni yn yr hir dymor
Cyngor ac Arweiniad
Dyma rai awgrymiadau defnyddiol i wella effeithlonrwydd ynni ac archwilio syniadau creu ynni…
- Nyth – awgrymiadau gwych ar gyfer arbed ynni
- Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni – gwybodaeth ar greu ynni adnewyddadwy
- National Energy Action – rhestr gyfeirio i gynorthwyo cymunedau i wneud penderfyniadau i leihau costau tanwydd a gwella perfformiad amgylcheddol adeiladau a chyfleusterau cymunedol
- Y Ganolfan dros Ynni Cynaliadwy – nifer o adnoddau ar gyfer gwella adeiladau cymunedol a datblygu prosiectau arbed ynni ar draws y gymuned
Cyllid a Chymorth
Dyma rai ffynonellau cyllid posib a manylion am sut i ddod o hyd i gymorth arbenigol pellach – ond cofiwch, mae digon o ffynonellau eraill ar gael hefyd…
- Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru – cynllun grant cyfalaf i wella cyfleusterau cymunedol
- Cymunedau Cynaliadwy Cymru – yn cynnig cefnogaeth a chyngor rhad ac am ddim sydd ar gael i gymunedau ledled Cymru i’w helpu i wella effeithlonrwydd ynni yr adeiladau maen nhw’n eu cadw
- Mae Cymorth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych yn darparu cyngor a chymorth ar gyfleoedd cyllido
- Cronfa Gymunedol y Loteri – Yn darparu gwybodaeth ar grantiau cymunedol sydd ar gael yng Nghymru
- Cyllido Cymru – Porth Cyllido sy’n helpu elusennau, grwpiau cymunedol a sefydliadau cymdeithasol i ddod o hyd i gyfleoedd cyllido yn eu hardal leol
- Canolfan Cyngor ar Ynni Gogledd Cymru – menter gymdeithasol sy’n darparu cyngor di-duedd ar unrhyw faterion yn ymwneud ag ynni a grantiau sydd ar gael