Cymeradwywyd y Cynllun Lles Lleol Conwy a Sir Ddinbych yn Ebrill 2018, ac mae’n nodi’r amcanion lleol y byddwn ni fel Bwrdd yn eu cymryd i wella lles economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol yr ardal.
Mae cyhoeddi’r Cynllun Llesiant Lleol yn cwblhau gwaith a ddechreuodd yn Ebrill 2016, ac mae’n cynrychioli ein casgliadau ar yr hyn mae’r asesiad o les wedi eu nodi fel meysydd sy’n cynnig cyfleoedd allweddol ar gyfer cydweithio. Dyma le y teimlwn y gall y BGC wneud y cyfraniad mwyaf heb ddyblygu gwaith da sydd eisoes yn cael ei wneud o fewn partneriaethau a sefydliadau presennol.
Ein blaenoriaethau yw:
- Pobl– Lles meddyliol da i rai o bob oed
- Cymuned– Rhoi grym i gymunedau
- Lle– Gwytnwch amgylcheddol
Mae’r Bwrdd hefyd wedi ymrwymo i 4 egwyddor ychwanegol sy’n cefnogi’r blaenoriaethau –
- Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a thrin pawb yn gyfartal.
- Cefnogi a hyrwyddo’r Gymraeg.
- Cefnogi’r gallu i gael llety addas.
- Osgoi dyblygu.
Er bod llawer o waith wedi’i wneud yn barod i gyrraedd y pwynt yma, dim ond dechrau taith y BGC yw hwn. Mae’r cynllun hwn yn amlinellu beth yr hoffem ei gyflawni, ond mae mwy o waith i’w wneud i ddatblygu ein rhaglen waith. Byddem yn croesawu eich mewnbwn i hyn fel rhan o’n sgwrs barhaus gyda’n cymunedau.
Cliciwch yma i weld fersiwn crynodeb Cynllun Lles Lleol Conwy a Sir Ddinbych.
Cliciwch yma i weld fersiwn technegol Cynllun Lles Lleol Conwy a Sir Ddinbych.