Rydym yn falch o lansio ein menter Addewidion Gwyrdd Cymunedol i helpu grwpiau a sefydliadau cymunedol i wneud newidiadau sy’n cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd.

Pam bod hyn yn bwysig?
Os nad all y byd naturiol bellach gefnogi ein hanghenion mwyaf sylfaenol, yna bydd dinasyddiaeth yn chwalu yn sydyn…does dim camgymeriad. Newid hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf i ddiogelwch y mae pobl fodern erioed wedi’i wynebu.
Syr David Attenborough – Erthygl Newyddion ITV
‘O amgylch y byd, mae argyfwng Covid-19 wedi ymyrryd ar ein bywyd arferol. Mae’r pandemig wedi rhoi golau ar fywyd gwaith, bywyd teuluol, anghydraddoldebau, cludiant a’i effeithiau amgylcheddol, a’r busnesau a llywodraethau sy’n teyrnasu drosom.
Mae corwynt yn rhoi’r cyfle i ailadeiladu. Mae ymgyrchwyr mewn nifer o ochrau yn annog i gymdeithas fynd yn ôl i’r ‘arfer; ond hefyd i ddefnyddio hyn fel cyfle i drawsnewid a gwneud pethau’n well. Nid yw’r hen ddywediad gwleidyddol ‘plant yw ein dyfodol’ erioed wedi teimlo mor wir. ‘
Sophie Howe, Comisiynydd Lles Cenedlaethau’r Dyfodol – Erthygl iNews
Gwyddwn fod cymunedau wedi uno ac addasu yn ystod y pandemig ac mae’r newidiadau hyn hefyd wedi cael effaith amgylcheddol cadarnhaol. Mae nifer yn dweud y byddent yn cadw rhai o’r newidiadau amgylcheddol cadarnhaol ar ôl y pandemig. Amcan yr addewidion yw cydnabod cyfraniadau cadarnhaol i’n cymunedau trwy roi statws addewid efydd, arian, aur neu blatinwm i’w ddangos yn falch.
Cydnabyddwn fod newid hinsawdd yn parhau i fod y mater mwyaf arwyddocaol ein hoes. Rhaid i ni gymryd camau sylweddol rŵan er mwyn lleihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr a pharatoi a lliniaru effeithiau cynhesu byd-eang, cynnydd yn lefel y môr a digwyddiadau tywydd eithafol.
Trwy leihau ein heffaith ar yr amgylchedd, gallwn sicrhau y bydd gan genedlaethau’r dyfodol yr un cyfleoedd â ni heddiw. Rhaid i ymddygiadau a ffyrdd o fyw newid er mwyn cyflawni’r nod hwn. Trwy gofrestru, byddwch yn ymuno â chymuned unedig i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i bawb.
Beth yw Addewidion Gwyrdd Cymunedol?
Mae 5 Addewid Gwyrdd y gall grwpiau neu sefydliadau cymunedol gofrestru ar eu cyfer a dangos sut maent yn gwneud addewid i wneud gwahaniaeth. Gallwch awgrymu eich addewidion gwyrdd eich hunain hefyd os ydych yn credu ein bod wedi anghofio cynnwys rhywbeth!
- Adeiladau a chyfleusterau cymunedol
- Cludiant
- Lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu
- Cynnyrch lleol a moesegol
- Yr amgylchedd a natur
Mae nifer o fanteision i gofrestru, megis…
- Gwneud lle rydych yn byw/gweithio yn lle gwell
- Gwneud ffrindiau newydd
- Lleihau eich effaith amgylcheddol
- Addysgu eich cymuned
- Y teimlad da o wneud gwahaniaeth
- Rhannu syniadau da
Fodd bynnag, sicrhewch eich bod yn cydymffurfio â rheolau Coronafeirws (Covid-19) Llywodraeth Cymru wrth wneud unrhyw weithgareddau.
Mae cofrestru’n hawdd…
Treuliwch ychydig funudau er mwyn rhoi manylion i ni am eich grŵp neu sefydliad a rhowch wybod i ni beth ydych chi wedi gwneud. Yna byddwn yn anfon tystysgrif
Fideo Iaith Arwyddion Prydain
