Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i gynnwys a gyhoeddwyd ar barth www.conwyanddenbighshirelsb.org.uk
Caiff y wefan hon ei rhedeg gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych. Mae wedi ei dylunio i gael ei defnyddio gan gymaint o bobl â phosibl. Dylai’r testun fod yn glir a syml i’w ddeall. Dylech allu:
- chwyddo hyd at 300% heb broblemau
- mordwyo’r mwyafrif o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- mordwyo’r mwyafrif o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- defnyddio’r mwyafrif o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Nid yw rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch. Er enghraifft:
- Efallai na fydd rhai tudalennau ac atodiadau dogfennau wedi eu hysgrifennu yn glir
- Nid oes penawdau rhesi mewn rhai tablau
- mae cyferbynnedd lliw gwael ar rai tudalennau
- nid yw rhai dogfennau yn hygyrch mewn fformat PDF
Sut i ofyn am gynnwys mewn fformat hygyrch
Os ydych angen gwybodaeth mewn fformat gwahanol cysylltwch â ni i ddweud wrthym:
- cyfeiriad gwefan (URL) y cynnwys
- eich enw a’ch cyfeiriad e-bost
- y fformat rydych ei angen, er enghraifft CD sain, Braille, Iaith Arwyddion Prydain neu brint bras, pdf hygyrch
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon
Os dewch chi o hyd i unrhyw broblemau nad ydyn nhw wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych chi’n meddwl nad ydyn ni’n cwrdd â’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni.
Gweithdrefn gorfodaeth
Os byddwch chi’n cysylltu â ni gyda chŵyn ac nad ydych chi’n hapus â’n hymateb cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).
Gwybodaeth dechnegol ynghylch hygyrchedd y wefan hon
Mae BGC Conwy a Sir Ddinbych wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â fersiwn 2.1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe safon AA.
Cynnwys anhygyrch
Amlinellir y cynnwys nad yw’n hygyrch isod:
- Pdfs – bydd unrhyw rai a ychwanegir o fis Medi 2020 yn hygyrch. Bydd y ffeiliau presennol a gyhoeddir ar ôl Medi 2018 naill ai’n cael eu disodli neu eu trosi i fod yn hygyrch erbyn Mawrth 2021.
- Efallai na fydd rhannau o’r asesiad anghenion mewn iaith syml – i gael sylw pan gyhoeddir asesiad anghenion newydd ym mis Mawrth 2022
- Byddwn yn gweithio i ymgorffori dogfennau fel tudalennau gwe yn hytrach na pdfs lle mae hyn yn ymarferol.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Nid oes angen i’r cynnwys canlynol gydymffurfio â’r gofyniad hygyrchedd tan fis Medi 2020, oherwydd iddo gael ei gyhoeddi cyn mis Medi 2018.
- Y Cynllun Lles
- Yr Asesiad Anghenion
- Cofnodion cyfarfodydd cyn mis Medi 2018
- Cylchlythyrau wedi’u cyhoeddi cyn mis Medi 2018
Sut y gwnaethom brofi’r wefan hon
Profwyd y wefan hon o ran cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe V2.1 lefel A a lefel AA, a chynhaliwyd y profion hyn yn fewnol.
Beth yr ydym am ei wneud i wella hygyrchedd
Rydym yn bwriadu nodi a datrys materion yn unol â’r amserlenni a ddangosir ar gyfer pob ardal uchod.
Paratowyd y datganiad hwn ar 14 Awst 2020.