Disodlwyd Ymddiriedolaeth Prawf Cymru gan ddau sefydliad newydd ar 1 Mehefin 2014:
- Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru
- Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol Cyrmu
Rôl Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru yw lleihau aildroseddu a gwneud Cymru’n ddiogelach drwy adsefydlu cymunedol. Mae staff profiadol yn darparu gwasanaethau prawf yn y gymuned ar gyfer tua 8,000 o droseddwyr risg isel a chanolig ac yn gweithio gyda nhw i fynd i’r afael ag achos eu hymddygiad.