Mae Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn rhoi dyletswydd arnom ni fel partneriaid yn y sector cyhoeddus i weithio gyda’n gilydd a llunio cynllun sy’n helpu i wella lles nid yn unig y genhedlaeth hon ond i ystyried anghenion cenedlaethau’r dyfodol.
Yn gyntaf, rydym wedi casglu a dadansoddi cymaint o ddata, tystiolaeth, ymchwil a safbwyntiau â phosibl ar les trigolion. Dyma’r Asesiad Lles, bydd yn ein helpu i ddeall y sefyllfa bresennol, yn ogystal â sicrhau ein bod yn cynllunio ar gyfer y dyfodol.
Byddwn yn defnyddio canfyddiadau’r Asesiad Llesiant i adnabod a chynllunio sut y byddwn yn helpu i wella lles yng Nghonwy a Sir Ddinbych nawr, ac yn y dyfodol.
Crynodeb gweithredol o’r Asesiad o Les Lleol
- Cyflwyniad a chefndir
- Ymgynghori ac ymgysylltu
- Pori drwy thema lles
- Pori drwy nod lles
- Ardal Gymunedol
- Cyfeirlyfr testunau
- Dangosyddion lles cenedlaethol
Cyflwyniad a chefndir yr asesiad
Mae Cymru yn wynebu nifer o heriau yn awr ac yn y dyfodol, megis newid yn yr hinsawdd, tlodi, anghydraddoldebau iechyd a swyddi a thwf. Er mwyn mynd i’r afael â’r rhain, mae angen i ni weithio gyda’n gilydd. Er mwyn darparu bywyd o ansawdd da i’r cenedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol mae’n rhaid i ni ystyried effaith hir dymor y penderfyniadau a wnawn.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn rhoi pwrpas cyffredin cyfreithiol-rwymol – y saith nod lles – i lywodraeth genedlaethol, llywodraeth leol, byrddau iechyd lleol a chyrff cyhoeddus penodol eraill. Mae’n nodi’r ffyrdd y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus penodedig weithio a chydweithio i wella lles Cymru.
Mae’r Ddeddf yn nodi bod yn rhaid cynhyrchu Asesiad o Les Lleol i gefnogi’r cyrff cyhoeddus hyn i osod yr amcanion lles ac i gynhyrchu unrhyw gynlluniau sydd ar y gweill i wella lles pobl sy’n byw yn eu hardal. Yr adroddiad hwn yw cam cyntaf cynhyrchu’r Asesiad Lles hwnnw.
Sut y cynhyrchwyd yr asesiad hwn?
Byddai ceisio disgrifio’r holl agweddau o les yn dasg enfawr, felly mae’r Asesiad hwn yn ceisio darparu amlinelliad o’r materion strategol sy’n effeithio ar Sir Conwy a Sir Ddinbych. Rydym wedi defnyddio dull sy’n cael ei ‘arwain gan ymgysylltiad’ i gynhyrchu’r Asesiad hwn. Nid yw’r daith wedi dechrau gyda syniadau rhagdybiol neu ddadansoddiad data haniaethol, ond gydag ymgysylltiad helaeth gyda’r cymunedau lleol a’r staff sy’n gweithio gyda’r gwahanol sefydliadau o’r sector cyhoeddus. Anogwyd pobl i drafod cryfderau a gwendidau byw yn yr ardal neu ddarparu gwasanaethau cyhoeddus i’r bobl. Mae’r asesiad hwn yn dilyn yr asesiad a wnaethom a’i gyhoeddi yn 2017. Mewn mannau bu’n rhaid inni ddileu graffeg neu siartiau er mwyn bodloni safonau hygyrchedd, a hyderwn fod hynny’n gwneud yr asesiad yn haws ei ddarllen a’i ddeall.
Rydym wedi dosbarthu’r hyn a ddywedodd pobl i destunau strategol ac wedi edrych ar y data a’r papurau ymchwil sydd ar gael i weld lle y mae tystiolaeth gadarn i gefnogi’r canfyddiadau a’r teimladau. Yn benodol, rydym wedi ceisio ystyried goblygiadau pob testun ar les yr unigolyn a sut y mae’n cyfrannu at y saith nod lles a nodwyd yn y Ddeddf.
Mae gennym oddeutu trigain o bynciau strategol gan gynnwys cludiant, gordewdra, sectorau economaidd allweddol, bioamrywiaeth, cydraddoldeb, y Gymraeg, trais domestig ac yn y blaen. Rydym hefyd wedi llunio proffiliau ardal ar gyfer y broydd bach yn y ddwy sir. Mae pob pwnc yn cynnwys dadansoddiad o’r sefyllfa sydd ohoni, sut mae hynny’n cymharu â’r gorffennol, sut olwg sydd ar y dyfodol, beth mae pobl wedi’i ddweud am y pwnc, yn ogystal â chwestiynau allweddol a meysydd ble mae angen mwy o waith ymchwil. Rydym wedi rhoi’r un pwysau i’r gwahanol bethau a ddywedodd pobl wrthym, ac wedi dewis amlygu’r wybodaeth hon gydol yr asesiad.
Ein nod oedd i’r gwaith ymgysylltu, y data a’r dadansoddiad o dueddiadau yn y dyfodol fod yn dra chydgysylltiedig. Drwy hyn bu modd inni ymchwilio i’r pethau y soniodd pobl yn eu cylch wrth ddadansoddi tueddiadau a data, ac arbrofi ar sail ein canfyddiadau o’r tueddiadau yn ein sgyrsiau â phobl. Mae’r dull yn un da ond bu’n heriol yn ymarferol, yn bennaf oherwydd anawsterau ymgysylltu yn ystod y pandemig Covid-19 (gweler isod hefyd).
Mae yno gymhlethdod aruthrol a thensiwn ar brydiau rhwng gwahanol bynciau a nodau, a dyma pam rydym wedi darparu crynodeb ar gyfer y saith o’r nodau lles. Hyderwn y bydd y crynodebau hyn yn cynorthwyo partneriaid a chymunedau i weld y cysylltiadau, y tensiynau a’r cyfleoedd sydd i’w canfod yn y swm aruthrol o wybodaeth. Mae pob crynodeb yn cynnwys cyfleoedd ar gyfer ymyriadau wedi’u targedu i fynd i’r afael â gwreiddiau problemau a’r materion a amlygwyd, yn ogystal â rhestr o gwestiynau allweddol a meysydd y dylid ymchwilio ymhellach iddynt. Ymhob pwnc strategol mae adran sy’n amlygu gwendidau, cyfyngiadau neu gyfleoedd i ganfod atebion i’n cwestiynau.
Rydym wedi gwneud pob ymdrech i ganolbwyntio ar dueddiadau hirdymor ac adnabod gwreiddiau rhai tueddiadau sy’n niweidio lles pobl. Wrth gynnal yr Asesiad hwn rydym hefyd wedi dechrau ymchwilio i’r gwahaniaethau mewn lles personol rhwng ardaloedd a chymunedau. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn ein crynodebau o’r saith o nodau lles.
Enghreifftiau o ffynonellau data a ddefnyddiwyd:
- Stats Cymru
- Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Tueddiadau’r Dyfodol Cymru
- Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol 2020
- Ymchwil Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru
- Ffynonellau data lleol
Cafodd rhai mathau o ddata, fel data iechyd y cyhoedd, eu dadansoddi gan arbenigwyr, a chafodd mathau eraill eu dadansoddi gan grŵp neu unigolion cysylltiedig â’r pwnc yn gyffredinol (e.e. cludiant).
Mae ein dadansoddiadau’n gyson â’r pedwar ysgogwr newid sylweddol a amlygir gan Lywodraeth Cymru yn ei adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol (Pobl a Phoblogaeth; Anghydraddoldebau; Iechyd a Therfynau’r Blaned a Thechnoleg). Yn wir, mae nifer o’n pynciau’n cynnwys dadansoddiadau ar draws y pedwar ysgogwr newid hyn.
Wrth gydnabod y cyd-destun y mae cyrff cyhoeddus a Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus a chynghorau tref a chymuned yn gweithio ynddo, bu i Lywodraeth Cymru nodi dau ysgogwr gwasanaethau cyhoeddus (cyllid cyhoeddus a galw a thechnoleg ddigidol yn y sector cyhoeddus). Mae’r olaf o’r rhain wedi cael ei ystyried yn fwy cyffredinol yn ein dadansoddiadau, gyda rhywfaint o feddwl lefel uchel am wasanaethau a chyllid cyhoeddus yn y dyfodol mewn perthynas ag amcanestyniadau demograffig.
Cyfyngiadau’r asesiad hwn a’r camau nesaf
Nodyn am Covid-19 a Brexit
Ar hyn o bryd, nid yw’r Deyrnas Gyfunol wedi dechrau adfer yn iawn ar ôl Covid-19 eto ac rydym yn dal i weithio drwy ganlyniadau ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Mae’n bwysig cydnabod bod rhai dangosyddion ac ymchwil yn dangos problemau, yn enwedig felly oherwydd Covid-19, sy’n gwneud cynllunio ar adeg o ansicrwydd yn arbennig o anodd.
Yn ystod yr un cyfnod hwn, gwelwyd ergydion a diffyg parhad mewn dangosyddion economaidd a achoswyd gan Brexit, ac nid yw bob amser yn bosib cadw’r ddau ysgogwr newid hyn ar wahân.
O gadw hyn mewn cof, pan fo’n bosib ac yn briodol, darperir sylwebaeth ar effeithiau ymddangosiadol Covid-19 a Brexit ochr yn ochr â dadansoddiad o’r data.
Cyfyngiadau eraill
Yn ein hasesiad blaenorol o les amlygwyd amrywiaeth o fylchau yn y data ansoddol a meintiol yn lleol, yn enwedig felly ynglŷn â phobl â nodweddion a ddiogelir. Mae’r bylchau hynny’n dal i fodoli, ond mae’r asesiad lles hwn yn defnyddio data ac ymchwil cenedlaethol i ddod i gasgliadau ynglŷn â pha fathau o anghydraddoldeb sydd ym Mwrdeistref Sirol Conwy a Sir Ddinbych, ac yn benodol pa fathau o anghydraddoldeb lles sy’n debygol o barhau.[1] Ceir gwendidau o ran grwpiau ar y cyrion, eu lles a’u cadernid, yn enwedig felly eu cadernid rhag tueddiadau hirdymor megis newid hinsawdd. Byddwn yn adolygu ein dadansoddiadau i sicrhau eu bod yn adlewyrchu’r tueddiadau yn awr ac yn y dyfodol wrth i wybodaeth newydd ddod i’r amlwg (gan gynnwys cysylltu â’r Asesiad rhanbarthol o Anghenion y Boblogaeth).
Mae pob pwnc strategol yn cynnwys crynodeb o’r cyfyngiadau yn ein tystiolaeth neu ddadansoddiad. Byddwn yn mabwysiadu dull cydweithredol wrth fynd i’r afael â’r rhain, yn enwedig felly â phartneriaid a chymunedau ledled gogledd Cymru.
Gwyddom na fydd yr Asesiad hwn ond yn darparu amlinelliad neu fframwaith strategol er mwyn i gyrff y sector cyhoeddus gynhyrchu eu hamcanion lles. Mae’n darparu dadansoddiad eang ond eithaf sylfaenol o’r meysydd testun y mae’n ymdrin â nhw. Dim ond fel cam cyntaf y broses y mae’n cael ei gynhyrchu a bydd yn datblygu fel asesiad dros amser, yn enwedig wrth ddatblygu gwaith ymchwil ac ymgysylltu rhanbarthol (gan gynnwys cydgynhyrchu), cysylltiadau a phartneriaethau.
Mae ein hasesiad lles diwygiedig yn cynnwys gwell dadansoddiadau o’r bwlch lles i bobl â nodweddion a ddiogelir neu bobl sy’n byw mewn tlodi. Ni fu modd inni wella ein dadansoddiadau o grwpiau ar y cyrion, eu lles a’u cadernid (troseddwyr, er enghraifft), yn enwedig felly eu cadernid rhag tueddiadau hirdymor heriol. Byddwn, serch hynny, yn ymchwilio ymhellach i’r bylchau hyn ar y cyd â’n partneriaid.
Mae un gwendid a ddaeth i’r amlwg y tro diwethaf – gwead cymdeithasol a diwylliannol rhwydweithiau cymdeithasol – yn dal yn faes y mae angen ei ddatblygu. Ni fu modd gwneud dadansoddiad trylwyr o hynt rhwydweithiau cymdeithasol a diwylliannol yn y dyfodol, y sector cymunedol, ac arwyddocâd yr economi anariannol (er enghraifft, gofal di-dâl, banciau bwyd, trosglwyddo asedau cymunedol), ac mae hynny’n rhannol oherwydd yr heriau wrth gynllunio yn ystod pandemig.
Rydym wedi diwygio ein proffiliau ardal. Mae’r rhain yn awr yn rhoi gwell dealltwriaeth o’r heriau sy’n bodoli mewn gwahanol ardaloedd yng Nghonwy a Sir Ddinbych, a pha gymunedau penodol sy’n gadarn neu’n ddiamddiffyn rhag tueddiadau yn awr ac yn y dyfodol. Credwn ein bod wedi dechrau egluro rhai o’r tueddiadau hyn drwy amlygu gwahaniaethau neu feysydd lle mae llai o gadernid rhag tueddiadau hirdymor. Gallem wneud mwy o waith ar wahaniaethau gofodol mewn gwahanol bynciau, fel pwysau geni isel, er enghraifft, ac o ran llunio cymariaethau rhwng ardaloedd. Felly hefyd o ran dadansoddi goblygiadau ysgogwyr newid eang a thueddiadau a ragwelir mewn perthynas â’n dadansoddiadau sir ac ardal leol. Mae gan rai ardaloedd lleol ddadansoddiadau mwy manwl nag eraill. Yn rhannol, mae hyn yn adlewyrchu ein gallu cyfredol i ddarparu’r dadansoddiadau hyn yn ogystal â’r ffaith nad yw rhai ardaloedd lleol wedi gwreiddio cymaint ag eraill, gyda mwy o hunaniaeth ofodol.
Mae rhoi ystyriaeth bellach i sut y gellir defnyddio asedau naturiol ardaloedd lleol i helpu mynd i’r afael â rhywfaint o’r anghenion lles a nodwyd o fewn yr asesiad ehangach yn faes y gellir ei ddatblygu. Mae angen i ni hefyd sicrhau ein bod yn ystyried yr hyn sy’n arbennig neu’n arwyddocaol am le o fewn y cymunedau a nodwyd, yn enwedig o ran asedau naturiol. Gallai dadansoddiad ar lefel gymunedol o fannau gwyrdd a glas lleol gynnwys hawliau tramwy cyhoeddus a llwybrau teithio llesol, yn ogystal â sut y defnyddir y safleoedd hyn ar hyn o bryd a sut y gellid eu rheoli yn y dyfodol. Dywedodd un ymatebwr i’n hymgynghoriad ar yr asesiad lles drafft y byddai’n fuddiol archwilio sut y mae pobl yn ymgysylltu ag asedau naturiol o fewn y gymuned ar hyn o bryd, a’r rôl y gallent ei chwarae yn y dyfodol, er enghraifft i helpu gyda llifogydd, ansawdd aer ac ati.
Roeddem wedi gobeithio gweithio â’n partneriaid yn y rhanbarth wrth ymchwilio i dueddiadau a chyfleoedd ar lefel ranbarthol, yn enwedig felly lle gallai tensiynau godi (er enghraifft, twristiaeth yn erbyn gordwristiaeth). Hyderwn y caiff hyn sylw o hyn ymlaen drwy’r gefnogaeth ymchwil y mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn ei hwyluso ar gyfer y rhanbarth.
Y camau nesaf
Er mwyn symud ymlaen o’r asesiad hwn rydym yn argymell bod gwasanaethau cyhoeddus yn ystyried blaenoriaethu nifer o feysydd testun, ac yna’n comisiynu dadansoddiad manylach o bob un o’r rhain. Bydd hyn yn golygu y gellir rheoli’r Asesiad hwn ac y bydd yn cael effaith. Bydd cam nesaf proses yr Asesiad yn ceisio darparu cyswllt amlwg rhwng y testunau strategol a drafodwyd â’r ymateb sydd ei angen gan y gwasanaethau cyhoeddus sy’n gweithio mewn partneriaeth gyda’r cymunedau.
Bu i ymatebwyr i’r ymgynghoriad ar ein hasesiad lles drafft roi adborth ar ddyfnder ac ehangder y wybodaeth a’r dystiolaeth a gynhwyswyd yn ein hasesiad lles. Teimlai nifer y gallai’r wefan fod yn haws ei defnyddio, mewn Cymraeg neu Saesneg mwy clir, gyda mwy o ffeithluniau, siartiau, delweddau, dyfyniadau uniongyrchol o’n gwaith ymgysylltu ac yn fwy ymarferol (er enghraifft, cynnwys bar chwilio). Mae’r rhain yn welliannau gwe y byddwn yn eu hystyried yn y dyfodol. Yn y cyfamser, rydym wedi cynhyrchu ffeithlun sy’n crynhoi ein crynodeb gweithredol.
[1] Bydd cyhoeddi data Cyfrifiad 2021 yn fuddiol i ryw raddau wrth lenwi rhai o’r bylchau yn ein data.
Sut ddefnyddir yr Asesiad hwn
Diben yr Asesiad hwn yw cynorthwyo’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’r partneriaid unigol i bennu eu hamcanion lles ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
Fel y soniwyd eisoes, mae yno gymhlethdod aruthrol a thensiynau ar brydiau rhwng pynciau a nodau. Yn ogystal â’r crynodebau o’r saith o nodau lles rydym hefyd wedi llunio crynodeb o’r materion allweddol a chyfleoedd, yn seiliedig ar yr wybodaeth sydd gennym ynglŷn â thueddiadau yn y dyfodol. Mae a wnelo’r materion allweddol a chyfleoedd hynny â nifer o wahanol nodau, ac mae eu harwyddocâd yn amrywio mewn gwahanol ardaloedd o’r ddwy sir. Nod ein proffiliau ardal yw rhoi syniad o’r cryfderau a’r heriau yn yr ardaloedd dan sylw, ac yn bwysicaf oll, cynnwys lleisiau’r bobl eu hunain.
Bydd trafodaethau ynglŷn â’r Asesiad hwn yn canolbwyntio ar y cwestiynau allweddol hyn:
- Beth mae’r Asesiad yn ei ddweud wrthym am les?
- Pa mor arwyddocaol yw’r broblem? Ar ei phen ei hun ac yng nghyd-destun popeth arall?
- A yw’r dulliau presennol yn ddigon da?
- Pa weithgarwch ychwanegol sydd ei angen, a pha gamau cydweithredol a fedrai fynd i’r afael â’r problemau?
Rydym yn bwriadu cynnwys gwaith ymgysylltu fel rhan o’r cynllun, a fydd yn mynd i’r afael â, ac yn cefnogi, syniadau ar gyfer y dyfodol.
Gwersi a ddysgwyd
Bu i ni weithio’n dda fel grŵp traws-sirol amlasiantaeth a lywiodd y golygyddion i ailedrych ar bynciau presennol a gwella ein sail dystiolaeth a’n dadansoddiadau. Rydym wedi gweithio’n dda i gydlynu dadansoddiadau rhwng yr asesiad hwn a’r asesiad o anghenion y boblogaeth a gynhyrchwyd gan Gydweithredfa Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Gogledd Cymru. Rydym wedi cynhyrchu asesiad cynhwysfawr ac eang o les ac wedi crynhoi ein canfyddiadau mewn crynodeb gweithredol sy’n haws ei ddeall.
Gallem weithio’n agosach gyda’n Partneriaeth Diogelwch Cymunedol.
Roeddem wedi gobeithio gweithio gyda’n partneriaid yn y rhanbarth wrth ymchwilio i dueddiadau a chyfleoedd ar lefel ranbarthol, yn enwedig lle gallai tensiynau godi (er enghraifft, twristiaeth yn erbyn gor-dwristiaeth), ond ni fu hyn yn bosib hyd yma. Hyderwn y caiff y mater hwn sylw o hyn ymlaen drwy’r gefnogaeth ymchwil y mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn ei hwyluso ar gyfer y rhanbarth.
Mae nifer o fylchau o ran tystiolaeth neu ddadansoddiadau yn cael eu hamlygu drwy’r asesiad cyfan, yn arbennig cyhoeddiad canlyniadau Cyfrifiad 2021. Dylai’r bylchau mewn gwybodaeth yr ydym wedi’u nodi helpu sicrhau y canolbwyntir ar fynd i’r afael â diffygion yn yr asesiad lles dros y pum mlynedd nesaf. Mae angen i ni wneud mwy i ymgorffori gwaith ymgysylltu o amrywiaeth o ddigwyddiadau ymgysylltu presennol neu rai sydd wedi’u trefnu, o fewn ein siroedd ein hunain ac ar draws y rhanbarth. Unwaith yn rhagor, rydym yn gweithio i wireddu hyn gyda’n partneriaid rhanbarthol – yn enwedig mewn perthynas â grwpiau nas clywir yn aml.
Ond mae yna ddiffyg difrifol o ran capasiti ymchwil yn y ddwy ardal a ledled y rhanbarth, ac mae’n annhebygol y caiff hyn ei ddatrys drwy ein cydweithrediad rhanbarthol. Mae gennym fwlch o ran gallu monitro a rheoli’r dystiolaeth. Mae yn berygl na fyddwn yn diweddaru’r asesiad lles hwn yn rheolaidd.
Fel y crybwyllwyd uchod, mae pob pwnc strategol yn cynnwys crynodeb o’r cyfyngiadau yn ein tystiolaeth neu’n dadansoddiad. Byddwn yn cydweithio i fynd i’r afael â’r rhain, er nad ydym wedi cytuno ar gynllun hyd yma ar gyfer sut i wneud hyn yn ymarferol.
Ymgynghori ac ymgysylltu
Yn unol â’n hasesiad diwethaf, ein nod y tro hwn oedd sicrhau bod ein hasesiad yn cael ei arwain gan broses ymgysylltu. Mae aelodau o’r cyhoedd, grwpiau cymunedol, pobl ifanc, busnesau lleol a staff sy’n gweithio ar draws ein sefydliadau partner yn y sector cyhoeddus i gyd wedi cyfrannu eu profiad o fyw neu weithio yng Nghonwy a Sir Ddinbych, neu ymweld â nhw. Gwnaed hyn drwy weithdai ac arolygon ar-lein, lle buont yn trafod yr hyn a oedd yn bwysig iddynt a beth sydd angen ei wella.
Roedd yn fwriad i’n dull o ymgysylltu, data a’r gwaith dadansoddi tueddiadau yn y dyfodol fod yn gydgysylltiedig. Archwiliwyd yr hyn yr oedd pobl yn ei ddweud wrthym ac ategwyd hyn yn ein hymchwil, tueddiadau a data. Mae’r dull yn gadarn ond mae wedi bod yn heriol wrth i ni ymgysylltu yng nghanol pandemig Covid-19. Yr her fwyaf amlwg oedd sut i ymgysylltu gyda chynifer yn gweithio gartref, cyfleoedd cyfyngedig i gynnal cyfarfodydd cyhoeddus a ‘blinder zoom’ posibl.
Yn anffodus, mae hyn wedi cyfrannu at gyfradd ymateb fach sydd wedi bod yn ddarlun cyffredin ledled Cymru. Ceisiwyd lliniaru hyn drwy fapio adborth ymgysylltu dienw o’r 2 flynedd ddiwethaf. Felly, er bod hyn wedi golygu nad yw ein hymgysylltiad yn ddemograffig nac yn ddaearyddol gynrychioliadol fel yr oeddem yn bwriadu, rydym wedi rhoi’r un pwyslais ar yr hyn y mae pobl wedi’i ddweud wrthym, ac wedi dewis tynnu sylw at y wybodaeth hon drwy gydol yr asesiad. Fodd bynnag, dim ond dechrau’r sgwrs yw hyn a byddwn yn parhau i ymgysylltu â phobl wrth i ni gwblhau’r asesiad a datblygu ein hamcanion llesiant a chynllunio wrth symud ymlaen.
Dyma rai o’r gweithgarwch ymgysylltu a lywiodd ein hasesiad llesiant, gan gynnwys –
- adolygu cymaint o wybodaeth ag a oedd ar gael eisoes o ddigwyddiadau ac ymgynghoriadau diweddar. Pwrpas hyn oedd osgoi gofyn yr un cwestiynau ac ailadrodd yr hyn a allai fod wedi’i ofyn eisoes i bobl. Buom yn edrych yn fewnol ar draws yr holl wasanaethau, yn siarad â’n partneriaid yn lleol ac yn ystyried arolygon rhanbarthol a chenedlaethol diweddar.
- cynnal Sgwrs y Sir gyda phobl ar draws Conwy a Sir Ddinbych, drwy weithdai a holiaduron rhithwir. Er bod y dulliau ymgysylltu ychydig yn wahanol yn y ddwy sir, roedd ein cwestiynau’n debyg er mwyn rhannu ein hadborth ymgysylltu. Dilynwyd yr un strwythur gennym drwy ofyn cwestiynau penagored gydag ystyriaethau hirdymor er mwyn caniatáu i ymatebion gynnig darlun manylach a chasglu data ansoddol.
- Gweithdai rhithwir – Oherwydd pandemig Covid-19 cynhaliwyd pob un o grwpiau ffocws Sgwrs y Sir yn rhithwir (yn unol â chyfyngiadau Llywodraeth Cymru oedd yn eu lle adeg yr ymgysylltu).
- Yn Sir Ddinbych cynhaliwyd nifer o grwpiau ffocws cyhoeddus, gyda hwylusydd annibynnol, ar gyfer gwahanol ardaloedd o fewn y siroedd. Er enghraifft, canolbwyntiodd Sir Ddinbych ar eu Grwpiau Ardal Aelodau (MAG) sef y Rhyl, Prestatyn, Elwy, Dinbych, Rhuthun a Dyffryn Dyfrdwy.
- Yng Nghonwy hwyluswyd y gweithdai gan staff Conwy ac roeddent yn agored i’r cyhoedd ac i staff. Cynhaliwyd y rhain yn ôl thema ac roeddent yn canolbwyntio ar amcanion llesiant Conwy (gan gynnwys poblogaeth fedrus ac addysgedig, teimlo’n ddiogel, tai, iach ac egnïol, economi, yr amgylchedd, diwylliant a llais). Roedd gan bob gweithdy banel gwrando oedd yn cynnwys uwch swyddogion ac Aelodau Etholedig. Roedd y ffocws yma ar ofyn i bobl am eu profiadau a gwrando ar yr hyn oedd ganddynt i’w ddweud. Sgwrs yn anad dim yn hytrach nag ymgynghoriad, oedd hon.
- Er bod presenoldeb yn y gweithdai rhithwir yn isel yn y ddwy sir, cafwyd adborth adeiladol, manwl, o ansawdd i’n cwestiynau yn y sesiynau.
- Holiaduron – dyma’r math mwyaf poblogaidd o ymgysylltu ac ar y cyfan roedd yr ymatebion a gafwyd wedi eu hystyried yn llawn ac yn cynnig adborth adeiladol o ansawdd da. Cawsom tua 270 o ymatebion i’r arolwg ar-lein.
- Er mwyn sicrhau bod yr arolwg ar gael i bob aelod o’r gymuned, roedd copïau caled ar gael ym mhob llyfrgell ar draws y ddwy sir. Roeddent hefyd ar gael mewn Siopau Un Stop yn Sir Ddinbych.
- Hyrwyddwyd y gweithdai a’r holiaduron rhithwir drwy ddatganiadau i’r wasg, e-byst wedi’u targedu i restr ddosbarthu ein budd-ddeiliaid, postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol, a thrwy Gynghorwyr Tref a Chymuned.
- Cynhaliwyd grwpiau ffocws rhithwir pellach gyda’r Cyngor Ieuenctid ac ysgolion uwchradd amrywiol yn Sir Ddinbych i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed. Yng Nghonwy mae’r Cyngor Ieuenctid mewn cyfnod o adolygu. Rydym wedi mynychu grwpiau ieuenctid ac mae gennym gytundeb y gallwn barhau â’r sgwrs hon gyda nhw dros y misoedd nesaf.
- Roedd y bobl ifanc y buom yn siarad â nhw yn y ddwy sir yn dangos diddordeb mawr a rhoddwyd ymatebion aeddfed. Daeth llawer o themâu cyffredin i’r amlwg yn dangos diddordebau a blaenoriaethau cyffredin ymhlith pobl ifanc.
- Comisiynwyd fforwm llais cymunedol rhyngweithiol rhanbarthol ar gyfer cynrychiolwyr grwpiau ‘nas clywir yn aml’ drwy’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a mynychodd dros 50 o sefydliadau. Cynigiwyd gweithdai ychwanegol i fforymau Pobl Fyddar a Nam ar eu Golwg.
- Drwy arweinwyr swyddogion cyfathrebu BGC, cafodd staff eu hannog i gwblhau’r arolwg ar-lein yn ogystal â mynychu’r gweithdai rhithwir. Roedd yn galonogol gweld staff o wahanol wasanaethau o fewn y cynghorau yn gallu cynnal trafodaethau diddorol o wahanol safbwyntiau. Fodd bynnag, yn anffodus nid oedd yn ymddangos bod staff o sefydliadau BGC eraill wedi mynychu’r gweithdai.
- Mae ymgysylltu ag aelodau etholedig wedi digwydd drwy grwpiau ffocws amrywiol a bydd yn parhau wrth i ni gyflwyno canfyddiadau’r Asesiad Llesiant a fydd yn adnodd allweddol wrth ddatblygu’r amcanion a’r cynllun llesiant. Mae cynrychiolwyr o bob sefydliad partner BGC wedi cael cyfle i gyfrannu at yr asesiad hwn.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn amlinellu saith nod lles sydd angen eu hystyried wrth lunio amcanion lleol. Mae disgrifiad o bob nod lles a’r materion a nodwyd o fewn y thema honno wedi’u nodi isod. Mae’r holl faterion a nodwyd yn y dadansoddiad anghenion hwn yn drawsbynciol ac yn effeithio ar fwy nag un o’r themâu lles hyn.
Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas.
Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu inewid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd).
Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibla lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol.
Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd).
Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da.
Diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden.
Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang.
Conwy
Sir Ddinbych
(1) Llewyrchus | (2) Cydnerth | (3) Iachach | (4) Mwy cyfartal | (5) Cydlynus | (6) Diwylliant | (7) Byd-eang |