Conwy and Denbighshire Public Services Board

Building better communities

  • Cymraeg
  • English

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych

  • Cartref
  • Amdanom ni
    • Rhaglen a Cofnodion
    • Newyddlen
    • Datganiad Hygyrchedd
    • Hygyrchedd
  • Asesiad o Les Lleol
  • Cynllun Lles Lleol
    • Adroddiad Blynyddol
    • Cyngor Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
  • Addewid Gwyrdd i’r Gymuned
    • Ffurflen Addewid Hunanasesu
  • Ein Partneriaid
  • Cysylltu â Ni

Cefnogi gofalwyr

  • Beth sy’n digwydd rŵan…
  • Sut mae hyn yn cymharu efo’r gorffennol…
  • Beth rydym yn ei wybod neu’n ei ragweld ar gyfer y dyfodol...
  • Beth mae pobl wedi ei ddweud….

Gofalwyr di-dâl yw’r darparwyr gofal mwyaf i bobl gydag anghenion cefnogaeth yn ein cymunedau, ac maent yn arbed miliynau o bunnoedd i’r GIG a’r gwasanaethau cymdeithasol bob blwyddyn. Mae un rhagamcan yn nodi bod gwerth gofal di-dâl yn y DU yn £132 biliwn y flwyddyn – bron i ddwywaith yr hyn ydoedd yn 2001, ac yn agos at wariant iechyd blynyddol y DU [i].

Yn y degawdau diweddar mae nifer a chyfran yr unigolion sy’n cael eu geni gydag anableddau ac yn goroesi i fod yn oedolyn ac yn byw’n hirach wedi cynyddu’n sylweddol. Mae gwelliannau mewn gofal iechyd ac iechyd cyffredinol hefyd yn golygu bod mwy o bobl yn goroesi ar ôl salwch difrifol fel cancr neu strôc. Mae cynnydd yn nifer yr unigolion sy’n byw gyda chyflyrau hirdymor yn creu galw newydd a chymhleth ar ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sydd eisoes o dan bwysau oherwydd cyllidebau prin y GIG a gofal cymdeithasol. Mae gofal di-dâl sy’n cael ei ddarparu gan deulu, cyfeillion a chymdogion yn cynorthwyo fwy a mwy i ddiwallu’r cynnydd mewn galw a’r bylchau mewn gwasanaethau.

Fodd bynnag, mae strwythur poblogaeth y DU sy’n heneiddio’n gyflym a disgwyliadau oes hirach yn golygu bod nifer y rhai sydd angen gofal a chefnogaeth yn rhagori ar nifer yr aelodau oedran gwaith sy’n cael eu darparu. Mae’r gyfran uchel o drigolion hŷn yn yr ardal wedi golygu fod gan y ddwy sir un o’r cymarebau dibyniaeth uchaf yng Nghymru. Mae gan Fwrdeistref Sirol Conwy yn benodol gymhareb dibyniaeth sydd ymysg yr uchaf yn y DU, y gellir eu cymharu ag ardaloedd ymddeol glan y môr eraill fel y rhai ar arfordir de Lloegr. Er nad yw cymhareb dibyniaeth yn fesur uniongyrchol o’r anghenion neu ddarpariaeth gofal (mesur economaidd yw yn bennaf), gall, wedi’i baru gyda gwybodaeth ynglŷn â strwythur oedran ein poblogaeth, fod yn ddangosydd defnyddiol o’r gofyniad ar gyfer gofal di-dâl ymysg grwpiau oedran hŷn.

Gall gofalu am rywun arall roi pwysau ar unigolyn, a gall arwain at broblemau iechyd corfforol ar gyfer y gofalwyr eu hunain (drwy ymdrech gorfforol megis codi a chario, ac o flinder cyffredinol). Gall gofalwyr wynebu pwysau ar eu hiechyd meddwl hefyd, megis delio â straen a phoeni am yr unigolyn y maent yn gofalu amdanynt ac effaith eu salwch; arwahanrwydd cymdeithasol a diffyg amser i ganolbwyntio ar eu hunain; pryderon ariannol oherwydd llai o incwm yn y cartref a/neu gostau gofal cynyddol; a theimladau o rwystredigaeth a gwylltineb tuag at yr unigolyn y maent yn gofalu amdanynt a’r sefyllfa y maent ynddi.

Yn ôl cyfrifiad 2011, mae dros 13,600 o bobl ym Mwrdeistref Sirol Conwy (11.8% o boblogaeth y Sir) a dros 11,600 o bobl yn Sir Ddinbych (12.4% o boblogaeth y Sir) yn darparu gofal heb dâl. Mae bron i 30% o’r gofalwyr hyn (bron i 4,000 o bobl ym Mwrdeistref Sirol Conwy a 3,400 yn Sir Ddinbych) yn darparu 50 awr neu fwy o ofal bob wythnos. Bydd bod â lefelau cyn uched o ddarpariaeth gofal di-dâl yn effeithio’n enfawr ar les economaidd a chymdeithasol y gofalwyr yn ogystal â’r rhai y gofelir amdanynt. Bydd effaith hefyd ar iechyd corfforol a meddyliol y gofalwyr. Mae’r rheiny sy’n darparu gofal am dros 50 awr yr wythnos ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn sâl na phobl nad ydynt yn ofalwyr. [ii]. Mae oddeutu dau draean o’r gofalwyr di-dâl yn 50 oed neu’n hŷn – ym Mwrdeistref Sirol Conwy mae 30% yn 65+ oed; 27% yn Sir Ddinbych.

Gofalwr ifanc yw rhywun dan 18 oed sy’n helpu i ofalu am aelod o’u teulu, neu ffrind, sy’n sâl, yn anabl neu sy’n camddefnyddio cyffuriau neu alcohol. Mae gofalwyr ifanc yn gallu bod yn ‘guddiedig’, hynny yw, nid yw asiantaethau yn gwybod amdanynt ac nid ydynt yn derbyn cefnogaeth deuluol. Ers 2016 mae gwell dulliau adnabod gofalwyr ifanc, mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’u hanghenion a chyflwyno modelau cefnogi pwrpasol a hyrwyddwyr gofalwyr mewn ysgolion [iii] wedi arwain at gynlluniau peilot gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru (a oedd yn cynnwys 2 ysgol yn Sir Ddinbych ac 1 yng Nghonwy) a chefnogaeth i ofalwyr ifanc gan sefydliadau eraill yng ngogledd Cymru (ymgysylltu â 33 o ysgolion gan gynnwys 6 yn Sir Ddinbych a 4 yng Nghonwy).

[i] Valuing carers 2015; the rising values of carers’ support, CareUK
[ii] Arolwg State of Caring 2017, Carers Wales
[iii] Supporting Young Carers in Schools

Mae nifer a chyfran yr unigolion sy’n darparu gofal heb dâl wedi cynyddu ers Cyfrifiad 2001 – cynnydd o oddeutu 1,350 ym Mwrdeistref Sirol Conwy a 950 yn Sir Ddinbych. Mae mwy na hanner y cynnydd hwnnw (56% o’r cynnydd cyffredinol ym Mwrdeistref Sirol Conwy a 65% yn Sir Ddinbych) wedi bod yn bobl sy’n darparu 50+ awr o ofal heb dâl bob wythnos.

Siart: darpariaeth gofal di-dâl 2001 a 2011

Ffynhonnell: Cyfrifiad poblogaeth 2001 a 2011, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Roedd y cynnydd yn cynnwys pobl 65+ oed sy’n darparu gofal heb dâl yn bennaf, sydd wedi cynyddu o dros 1,050 ym Mwrdeistref Sirol Conwy a dros 850 yn Sir Ddinbych. Roedd hyn yn gynnydd o 12.6% i 14.4% o’r holl bobl 65+ oed ym Mwrdeistref Sirol Conwy ac o 12.9% i 15.9% yn Sir Ddinbych.

Mae’n anodd gwneud rhagamcan rhesymol ynglŷn â dyfodol darpariaeth gofal di-dâl, gan ei fod yn cael ei ddylanwadu gan ryngweithiad cymhleth o ffactorau megis newid mewn darpariaeth gofal cymdeithasol, tueddiadau hirdymor mewn iechyd a lles, polisi tai a rhwydweithiau teuluol a chyfeillgarwch. Fodd bynnag, mae cymhwysiad syml o’r cyfraddau presennol i’r poblogaethau amcanestynedig ar gyfer y dyfodol yn awgrymu y gallai nifer yr unigolion sy’n darparu 50+ awr o ofal di-dâl gynyddu i oddeutu 4,300 ym Mwrdeistref Sirol Conwy a 3,950 yn Sir Ddinbych erbyn 2035 – cynnydd mewn canran o 8.4% ym Mwrdeistref Sirol Conwy a 16.4% yn Sir Ddinbych ers 2011.

Disgwylir i nifer yr unigolion 65+ oed sy’n darparu gofal di-dâl gynyddu o oddeutu 1,400 ym Mwrdeistref Sirol Conwy a Sir Ddinbych – cynnydd mewn canran o oddeutu 35.3% ym Mwrdeistref Sirol Conwy a 45.0% yn Sir Ddinbych ers 2011. Gallai cynnydd mewn dibyniaeth ar ofalwyr hŷn – sydd efallai ag anghenion lles eu hunain sy’n gysylltiedig â’u hoedran – fod yn beryglus[i]. Mae tueddiadau’r boblogaeth genedlaethol a chyflwr iechyd yn dangos bod y rhan helaeth o ofalwyr yn debygol o fod yn gofalu am bobl hŷn, yn enwedig pobl hŷn â dementia.

Mae nifer y plant gydag anabledd yn cynyddu’n raddol ar draws Cymru gyfan. Bydd hyn yn cynyddu nifer y rhieni neu warchodwyr sydd angen darparu gofal di-dâl. Mae goblygiadau hefyd wrth i’r plant anabl hyn heneiddio ac wrth i’w gofalwyr heneiddio, gan newid natur y gefnogaeth sy’n ofynnol o bosib.

Mae’r amcanestyniadau hyn yn cyflwyno goblygiadau sylweddol ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghonwy a Sir Ddinbych. Mae cefnogi gofalwyr drwy ddarparu gofal seibiant a gwasanaethau eraill yn flaenoriaeth allweddol i gynorthwyo pobl i gynnal eu hannibyniaeth yn eu cartrefi eu hunain a lleihau’r pwysau hirdymor ar y GIG a gwasanaethau’r cyngor.

[i] Pobl 16 oed a hŷn yr amcangyfrifir y byddant yn darparu gofal di-dâl, yn ôl oedran a’r oriau gofal sy’n cael eu darparu, rhagamcan hyd at 2035, http://www.daffodilcymru.org.uk

Amlygwyd pwysigrwydd gofal a chefnogaeth anffurfiol gan ffrindiau, cymdogion a theulu. Roedd pobl hefyd yn bryderus bod gofalwyr angen cefnogaeth a chyfleoedd i rwydweithio.

Copyright © 2020 Conwy & Denbighshire Public Services Board. All rights reserved
This website uses cookies to improve your experience. We'll assume you're ok with this, but you can opt-out if you wish. Cookie settingsACCEPT
Privacy & Cookies Policy

Privacy Overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these cookies, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may have an effect on your browsing experience.
Necessary
Always Enabled

Necessary cookies are absolutely essential for the website to function properly. This category only includes cookies that ensures basic functionalities and security features of the website. These cookies do not store any personal information.

Non-necessary

Any cookies that may not be particularly necessary for the website to function and is used specifically to collect user personal data via analytics, ads, other embedded contents are termed as non-necessary cookies. It is mandatory to procure user consent prior to running these cookies on your website.

Conwy & Denbighshire PSB
  • Cartref
  • Amdanom ni
    • Rhaglen a Cofnodion
    • Newyddlen
    • Datganiad Hygyrchedd
    • Hygyrchedd
  • Asesiad o Les Lleol
  • Cynllun Lles Lleol
    • Adroddiad Blynyddol
    • Cyngor Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
  • Addewid Gwyrdd i’r Gymuned
    • Ffurflen Addewid Hunanasesu
  • Ein Partneriaid
  • Cysylltu â Ni