Conwy and Denbighshire Public Services Board

Building better communities

  • Cymraeg
  • English

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych

  • Cartref
  • Amdanom ni
    • Rhaglen a Cofnodion
    • Newyddlen
    • Datganiad Hygyrchedd
    • Hygyrchedd
  • Asesiad o Les Lleol
  • Cynllun Lles Lleol (2023-2028)
    • Adroddiad Blynyddol
    • Cyngor Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
    • Addewidion Gwyrdd Cymunedol
  • Ein Partneriaid
  • Cysylltu â Ni

Cefnogi rhai gydag iechyd meddwl gwael

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf sydd gennym ynglŷn â’r pwnc dan sylw’n seiliedig ar yr Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru.

  • Beth sy’n digwydd rŵan…
  • Sut mae hyn yn cymharu efo’r gorffennol…
  • Beth rydym yn ei wybod neu’n ei ragweld ar gyfer y dyfodol...
  • Beth mae pobl wedi ei ddweud….
  • Bylchau mewn gwybodaeth...

Mae Sefydliad Iechyd y Byd (2014) wedi diffinio iechyd meddwl fel:

‘a state of well-being in which every individual realizes his or her own potential, can cope with the normal stresses of life, can work productively and fruitfully, and is able to make a contribution to her or his community’

Mae teimladau o les a boddhad gyda bywyd yn gysylltiedig ag iechyd da. Mae teimladau cadarnhaol am eich bywyd (hunan-barch, rheolaeth, gwydnwch ac ymdeimlad o bwrpas) yn dylanwadu ar lefelau lles meddyliol, sy’n ei dro yn effeithio ar iechyd corfforol a meddyliol. Mae iechyd meddwl da (yn enwedig yn gynnar mewn bywyd) yn gallu lleihau anghydraddoldebau, gwella iechyd corfforol, lleihau ymddygiad sy’n peryglu iechyd a chynyddu disgwyliad oes (o 7.5 mlynedd yn ôl un astudiaeth[1]), cynhyrchiant economaidd, gweithredu cymdeithasol ac ansawdd bywyd[2]. Mae iechyd meddwl cadarnhaol yn lleihau achosion ac effaith salwch meddwl. Mae iechyd meddwl da a gwydnwch personol yn amddiffyn rhag hunan-niwed a hunanladdiad.

Mae problemau iechyd meddwl yn amrywio o’r pryderon yr ydym oll yn eu profi fel rhan o fywyd arferol i gyflyrau difrifol hirdymor. Gallant ddechrau yn gynnar mewn bywyd, yn aml o ganlyniad i amddifadedd gan gynnwys tlodi, ymlyniad anniogel, trawma, colled neu gam-drin[3]. Mae ffactorau risg ar gyfer iechyd meddwl gwael pan yn oedolyn yn cynnwys diweithdra; incwm isel; dyledion; trais; digwyddiadau bywyd anodd; a thai annigonol.

Mae ffactorau risg ar gyfer iechyd meddwl gwael yn cael effaith anghymesur ar bobl o grwpiau risg uwch ac ymylol. Mae grwpiau risg uwch yn cynnwys plant sy’n derbyn gofal; plant sy’n cael eu cam-drin; unigolion du a lleiafrifoedd ethnig; rhai ag anabledd deallusol; pobl ddigartref; mamau newydd; pobl lesbiaid, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol; ffoaduriaid a cheiswyr lloches a charcharorion[4].

Amcangyfrifir y bydd un o bob pedwar o bobl yn y Deyrnas Gyfunol yn cael problem iechyd meddwl bob blwyddyn (Mind, 2016), a allai fod ar ffurf gorbryder neu iselder. Wrth ymateb i Arolwg Cenedlaethol Cymru soniodd 9% o bobl sy’n byw yng ngogledd Cymru eu bod wedi cael triniaeth am afiechyd meddwl (2018-19 a 2019-20).

Mae sgôr y crynodeb o’r elfen feddyliol yn amcangyfrif y mae’r unigolyn yn ei wneud o’i (h)iechyd meddyliol ei hun, a po fwyaf yw’r sgôr y gorau yw’r iechyd. Yn ystod y cyfnod hwn bu iechyd meddwl pobl yng Nghonwy’n well na’r cyfartaledd ac roedd iechyd meddwl pobl yn Sir Ddinbych yn unol â’r cyfartaledd o gymharu â gweddill Cymru.[5] Canran gyfunol yr oedolion (16 oed a hŷn) a soniodd eu bod yn cael triniaeth am afiechyd meddwl yn 2018-19 a 2019-20 oedd 7% ym Mwrdeistref Sirol Conwy ac 11% yn Sir Ddinbych. 9% oedd y cyfartaledd yng ngogledd Cymru a 10% drwy Gymru gyfan.[6]

Mae nifer y derbyniadau i ganolfannau iechyd meddwl wedi bod yn gostwng. Bu gostyngiad cyffredinol yn nifer y derbyniadau yng ngogledd Cymru. Nid ellir dweud ar sail y data a yw’r gostyngiad hwnnw o ganlyniad i leihad yn y galw ynteu oherwydd bod llai o welyau iechyd meddwl acíwt ar gael. Mae’r dull o ddarparu gofal iechyd meddwl wedi newid mewn blynyddoedd diweddar a cheir mwy o ddewisiadau yn lle gofal mewn gwelyau, yn enwedig felly i bobl hŷn. Er y bu nifer y derbyniadau’n gostwng dylid cadw mewn cof nad yw’r galw wedi lleihau, ond yn hytrach ei fod wedi’i drosglwyddo i fannau eraill, fel y gymuned, er enghraifft.[7]

Iechyd meddwl plant a phobl ifanc

Gall problemau iechyd meddwl ddechrau mewn plentyndod a gallant effeithio ar bobl ar hyd eu hoes, gan gynnwys cyrhaeddiad gwael, mwy o berygl o hunanladdiad a chamddefnyddio sylweddau, ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu.

Mae’r ffactorau risg yn cynnwys rhieni’n defnyddio alcohol, tybaco a chyffuriau yn ystod beichiogrwydd; straen ar y fam yn ystod beichiogrwydd; iechyd meddwl gwael gan rieni ; rhiant yn y carchar a rhieni di-waith. Mae’r risg o afiechyd meddwl hefyd yn uwch ymysg plant sy’n cael eu cam-drin; plant sy’n derbyn gofal; troseddwyr ifanc; plant ag anableddau deallusol; pobl ifanc 16-18 oed nad ydynt mewn gwaith, addysg na hyfforddiant (NEET); gofalwyr ifanc a phobl ifanc ag afiechyd corfforol (Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, 2010).

Dengys ffigurau Daffodil fod oddeutu 1,445 o blant a phobl ifanc ag anhwylderau meddyliol ym Mwrdeistref Sirol Conwy yn 2020. Roedd yno tua 1,300 yn Sir Ddinbych. Rhagwelir y bydd y nifer yn gostwng dros yr ugain mlynedd nesaf i tua 1,325 ym Mwrdeistref Sirol Conwy a 1,175 yn Sir Ddinbych yn 2040.[8] Daw hynny o ganlyniad i ostyngiad yn nifer y plant a phobl ifanc yn hytrach na disgwyliad y bydd anhwylderau iechyd meddwl yn lleihau.

Cyn y pandemig Covid-19, roedd un o bob pump o bobl ifanc yng Nghymru (19%) yn sôn fod ganddynt symptomau iechyd meddwl. Mae’r pandemig wedi gwaethygu problemau iechyd a lles meddyliol i blant a phobl ifanc.  Canfu ymchwilwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru y cafodd y pandemig effaith negyddol lethol ar bob agwedd ar les meddyliol ymysg plant a phobl ifanc. Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Llywodraeth Cymru wedi mynegi pryder ynglŷn â diffyg darpariaeth ar gyfer y rhai hynny y mae’n eu galw’n ‘y canol coll’. Mae a wnelo hynny â phlant a phobl ifanc y mae arnynt angen cymorth iechyd meddwl, ond nad ydynt efallai’n ddigon sâl i fodloni’r meini prawf ar gyfer gwasanaethau. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn yr Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru.

Gall profiadau cynnar effeithio’n hirdymor ar iechyd meddwl a datblygiad cymdeithasol plant a phobl ifanc (Iechyd Cyhoeddus Cymru, 2016b).

Iechyd meddwl a lles

Gall pobl â phroblemau iechyd meddwl fwynhau lles meddyliol da, tra gall eraill gyda phroblem iechyd meddwl heb ddiagnosis gael lles meddyliol gwael. Mae pobl â phroblemau iechyd meddwl yn fwy tebygol o fod mewn iechyd corfforol gwael. Mae afiechyd meddwl yn gysylltiedig ag afiechyd corfforol a disgwyliad oes is ac mae’r un peth yn wir y ffordd arall (Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, 2010). Mae iechyd meddwl gwael hefyd yn gysylltiedig ag ymddygiad mwy mentrus ac arferion afiach fel ysmygu, yfed alcohol i raddau peryglus, camddefnyddio cyffuriau a gwneud llai o weithgarwch corfforol (Llywodraeth Cymru, 2012).

Gall iechyd meddwl unigolyn effeithio ar les corfforol. Er enghraifft, mae ymchwil presennol yn awgrymu y gall ysmygu 20 o sigarennau’r dydd ostwng disgwyliad oes o gyfartaledd o ddeng mlynedd. Er bod nifer yr unigolion sy’n ymysgu yn y boblogaeth gyfan oddeutu 20 i 25 y cant, mae nifer yr achosion ymysg pobl sydd â sgitsoffrenia oddeutu teirgwaith yn uwch – neu bron yn 90%, ac oddeutu 60 i 70% ar gyfer pobl sydd ag anhwylder deubegwn.  Mae cyfraddau marwolaeth ar gyfer pobl gyda Sgitsoffrenia ac anhwylder deubegwn yn dangos gostyngiad mewn disgwyliad oes o 25 mlynedd, oherwydd problemau iechyd corfforol yn bennaf.[9] Mae gordewdra, diet gwael a ffordd o fyw anweithgar hefyd yn ffactorau sy’n cyfrannu at salwch meddwl difrifol ac iechyd corfforol gwael.

Gall rhai mathau o ymddygiad sy’n deillio o iechyd meddwl gwael gynyddu’r perygl o digwyddiadau tân a lleihau gallu’r unigolyn i ddianc yn ddiogel.  Mae ymddygiad obsesiynol megis cronni a /neu rwystro drysau a ffenestri yn achosi peryglon tân er enghraifft. Mae arwahanrwydd cymdeithasol y gellir ei gysylltu ag iechyd meddwl gwael yn cynyddu’r perygl y bydd tân yn cynnau neu’n lledaenu heb sylwi, ac yn lleihau siawns unigolyn o ddianc heb anaf.

Mae iechyd meddwl gwael wedi’i nodi fel ffactor sy’n dwysau mewn ystod o feysydd gwaith y sector cyhoeddus sydd wedi’u trafod wrth ymgynghori â darparwyr gwasanaeth ar draws Gogledd Cymru wrth baratoi’r asesiad o les hwn.  Mae’n faes o bryder allweddol ar gyfer yr holl asiantaethau partner. Mae’r rhain yn cynnwys cynorthwyo teuluoedd mewn anawsterau, niferoedd sy’n ddigartref, digwyddiadau o gam-drin domestig, achosion o gamddefnyddio sylweddau (gan gynnwys alcohol), adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol, delio â sgiliau rhianta gwael a chefnogi pobl i dderbyn gwaith. Gall diffyg cydlyniad rhwng darparwyr iechyd, gofal cymdeithasol a darparwyr lles eraill (e.e. tai cymdeithasol) achosi problemau cyfansawdd ar gyfer y dioddefwyr, eu teulu, ffrindiau a’r gymuned y maent yn byw ynddi, ac ar gyfer y darparwyr gwasanaeth.

Gellir gwella iechyd meddwl a lles unigolion drwy hybu eu cadernid emosiynol drwy ymyriadau sydd wedi’u cynllunio i hybu hunan-barch a sgiliau ymdopi ar bob adeg mewn bywyd, o’r crud hyd henoed.[10] Mae deall sut fedr gwasanaethau ac asedau cymunedol hyrwyddo ac atgyfnerthu’r ffactorau amddiffynnol craidd hynny’n hanfodol er mwyn hybu lles meddyliol y boblogaeth. Mae’r ‘Pum Ffordd at Lesiant’ hefyd yn cynnig cyfres o gamau gweithredu sy’n seiliedig ar dystiolaeth i hybu lles meddyliol. Disgrifir pump o weithredoedd beunyddiol y gall unigolion, teuluoedd a chymunedau eu cyflawni er mwyn cynnal a gwella eu lles. Mae modd eu cynnwys hefyd wrth ddylunio a darparu gwasanaethau ac ymyriadau presennol.

  1. Cymryd sylw.
  2. Cysylltu.
  3. Bod yn egnïol.
  4. Dal i ddysgu.
  5. Rhoi.

 

Hunanladdiad a hunan-niweidio

Hunan-niweidio yw pan fu rhywun yn anafu neu’n difrodi eu corff yn fwriadol. Fel arfer, mae’n ddull o ymdopi neu fynegi trallod emosiynol llethol. Mae’n faes sy’n peri pryder cynyddol, yn enwedig ymysg plant a phobl ifanc. Mae gwahanol ffyrdd y gall pobl niweidio eu hunain yn fwriadol gan gynnwys torri neu losgi eu croen; pwnio neu daro eu hunain; gwenwyno eu hunain gyda thabledi neu gemegau gwenwynig; camddefnyddio alcohol a chyffuriau; llwgu eu hunain yn fwriadol (anorecsia nerfosa) neu orfwyta mewn pyliau (bwlimia nerfosa); ymarfer corff yn ormodol.

Mae’n anodd dod i gasgliadau ar sail y data sydd ar gael ynglŷn â hunanladdiad yng ngogledd Cymru gan fod nifer yr achosion yn brin, ymysg rhesymau eraill. Nid yw’r cyfraddau hunanladdiad ar gyfer rhai 10 oed a hŷn yn yr un o’r ardaloedd cyngor lleol yng ngogledd Cymru yn fwy na’r cyfartaledd yng Nghymru ar sail arwyddocâd ystadegol (Jones et al., 2021). Roedd bron i dri chwarter y bobl a gofrestrwyd eu bod wedi marw drwy hunanladdiad yn 2020 yn ddynion, sy’n dilyn tueddiad cyson ers canol y 1990au  (y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2020).

Mae achosion hunanladdiad yn gymhleth (Jones et al., 2021). Mae yno nifer o ffactorau sy’n gysylltiedig â mwy o berygl o hunanladdiad, gan gynnwys rhyw (gwrywaidd); oedran (15 i 44 oed); amddifadedd economaidd-gymdeithasol; afiechyd seiciatryddol gan gynnwys iselder dwys; anhwylder deubegynol; anhwylderau gorbryder; afiechyd corfforol fel canser; hanes o hunan-niweidio a hanes o hunanladdiad yn y teulu.[11] Mae gofal iechyd meddwl yn fwy diogel i gleientiaid mewn amrywiaeth o ffyrdd, a gall gwasanaethau leihau’r risg mewn nifer o feysydd: wardiau mwy diogel; sylw cynnar wedi rhyddhau o’r ysbyty, dim derbyniadau y tu allan i’r ardal; timau argyfwng 24 awr y dydd; gwasanaeth diagnosis deuol; cynnwys teuluoedd wrth ‘ddysgu gwersi’; cyngor ar iselder; rheoli risg yn benodol i unigolion; trosiant staff isel (y Ganolfan Iechyd Meddwl a Diogelwch, 2016). Mae llawer o bobl sy’n marw drwy hunanladdiad â hanes o gamddefnyddio cyffuriau neu alcohol, ond ychydig iawn ohonynt a fu mewn cysylltiad â gwasanaethau camddefnyddio sylweddau arbenigol. Dylai fod y gwasanaethau arbenigol hyn ar gael i fwy o bobl, a dylent weithio’n agos â gwasanaethau iechyd meddwl (y Ganolfan Iechyd Meddwl a Diogelwch, 2016).

Mae ffermwyr wedi’u nodi fel grŵp galwedigaethol uchel ei risg, a hwythau â mwy o wybodaeth a mynediad at ffyrdd o ladd eu hunain (yn yr un modd â meddygon, nyrsys a gweithwyr amaethyddol eraill). Nodwyd rhai ffactorau penodol sy’n creu risg a straen i bobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig  sy’n ychwanegol i’r ffactorau risg hunanladdiad sy’n effeithio ar y boblogaeth yn gyffredinol: ynysigrwydd, incwm yn crebachu, bod yn wahanol yn y cyd-destun gwledig; mwy o stigma’n gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl; rhwystrau rhag mynediad at ofal priodol (diwylliant o hunanddibyniaeth, prinder darpariaeth gwasanaethau); rhwydweithiau cymdeithasol gwael; chwalfa gymdeithasol; y ffaith bod rhai dulliau o hunanladdiad ar gael (perchnogaeth arfau tanio); a grwpiau galwedigaethol uchel eu risg fel ffermwyr a milfeddygon (Llywodraeth Cymru, 2015a). Mae cynllun wedi’i lansio i ddarparu cymorth penodol i ffermwyr, a cheir mwy o wybodaeth drwy ddilyn y ddolen hon: https://www.fwi.co.uk/farm-life/health-and-wellbeing/mental-health-support-available-to-young-farmes.

Beth am Siarad â Fi yw strategaeth Llywodraeth Cymru i atal hunanladdiad a hunan-niweidio (Llywodraeth Cymru, 2015a)  ac mae Gweithgor Hunanladdiad a Hunan-niweidio Gogledd Cymru yn cydlynu gwaith atal hunanladdiad yn y rhanbarth.

Effaith Covid-19

Mae’n amlwg bellach y cafodd y pandemig effaith arwyddocaol ar iechyd meddwl y boblogaeth yn gyffredinol. Roedd lles pobl oedd eisoes â chyflyrau iechyd meddwl yn fwy tebygol o fod wedi dirywio. Mewn arolwg a gynhaliwyd gan Mind Cymru[12] (Argyfwng Iechyd Meddwl: Sut mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio ar ein hiechyd meddwl?, Mehefin 2020) soniodd mwy na hanner yr oedolion a thri chwarter y bobl ifanc bod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu yn ystod y cyfnodau clo.

Cafod hyn effaith anghymesur ar rai grwpiau penodol, gan gynnwys:

  • Pobl ag anghenion cymorth iechyd meddwl eisoes.
  • Pobl yn derbyn incwm isel, pobl y mae eu statws cyflogaeth wedi newid neu bobl hunangyflogedig.
  • Gweithwyr y GIG a gweithwyr gofal, ac eraill sy’n gweithio yn y rheng flaen.
  • Pobl Ddu, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig.
  • Oedolion hŷn.
  • Plant a phobl ifanc.

Dywedodd adroddiad gan y Senedd ym mis Rhagfyr 2021 ei bod yn anodd rhagweld effaith hirdymor y cynlluniau ar gyfer diwallu anghenion am wasanaethau iechyd meddwl a allai gynyddu yn y dyfodol. Mae’r Ganolfan ar gyfer Iechyd Meddwl wedi darogan y bydd oddeutu 20% o’r boblogaeth (gwnaed dadansoddiad ar gyfer Lloegr ond mae’n debygol o fod yn berthnasol i Gymru) angen cymorth iechyd meddwl ychwanegol neu gymorth o’r newydd.

Er bod gwasanaethau iechyd meddwl wedi’u cyfrif yn hanfodol yn ystod y pandemig mae llawer o bobl wedi sôn na fedrent gael mynediad at wasanaethau neu fod yno oedi cyn cael cymorth a chefnogaeth.

Y ffactorau pennaf a arweiniodd at ddirywiad mewn iechyd meddwl a lles o ganlyniad i’r pandemig oedd:

  • Colli gwaith ac arian.
  • Arwahanrwydd cymdeithasol.
  • Ansefydlogrwydd ac ansawdd tai.
  • Gweithio mewn gwasanaeth rheng flaen.
  • Diffyg dulliau ymdopi.
  • Llai o fynediad at wasanaethau iechyd meddwl.[13]

Cyn Covid-19 (yn y flwyddyn a ddaeth i ben fis Mehefin 2019) roedd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn nodi sgôr cyfartalog o 4.3 allan o 10 ar gyfer gorbryder ymysg pobl anabl. Wedi dechrau Covid-19 cynyddodd y sgôr cyfartalog ar gyfer gorbryder ymysg pobl anabl i 5.5 allan o 10 ym mis Ebrill 2020 cyn gostwng i 4.7 allan o 10 ym mis Mai 2020. Roedd 41.6% o bobl anabl, o gymharu â 29.2% o bobl nad oeddent yn anabl, yn dal â sgôr uchel (6 allan o 10) ar gyfer gorbryder ym mis Mai 2020.

Effaith ar bobl hŷn

Mae un o bob tri o bobl hŷn yn cytuno bod eu gorbryder bellach yn waeth neu’n llawer gwaeth nag yr oedd cyn dechrau’r pandemig. Mae’r gyfran o bobl hŷn na 70 sydd ag iselder wedi dyblu ers dechrau’r pandemig.

Cydraddoldeb ac iechyd meddwl “Anghydraddoldeb yw un o’r pethau sy’n dylanwadu fwyaf ar iechyd meddwl ac mae afiechyd meddwl yn arwain at fwy o anghydraddoldeb.”

Mae’r ffactorau amddiffynnol craidd sy’n dylanwadu ar les meddyliol yn cynnwys hyrwyddo cynhwysiad cymdeithasol. Mae’n hysbys fod grwpiau sy’n rhannu’r un nodwedd a ddiogelir yn fwy tebygol o gael eu hallgáu’n gymdeithasol a bydd angen ystyried hynny wrth asesu unigolion. Mae yno lawer iawn o groestorri rhwng iechyd meddwl a nodweddion eraill a ddiogelir. Er enghraifft, mae pobl o leiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o gael eu dal o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl (Hil ac Iechyd Meddwl – Troi’r Dafol, Mind, 2019). Mae oddeutu 30% o bobl â chyflwr iechyd corfforol hirdymor hefyd â chyflwr iechyd meddwl, sef iselder neu orbryder gan amlaf (Kings Fund, 2020).

Gall problemau iechyd meddwl ddechrau’n gynnar yn ein bywydau, yn aml o ganlyniad i amddifadedd, tlodi, ymlyniadau ansefydlog, trawma, profedigaeth neu gamdriniaeth (Llywodraeth Cymru, 2012). Mae’r ffactorau risg ar gyfer iechyd meddwl gwael pan rydym yn oedolion yn cynnwys diweithdra, incwm is, dyled, trais, digwyddiadau ingol mewn bywyd a thai anaddas (Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, 2010).

Yng Nghymru, mae 24% o’r rhai hynny sy’n ddi-waith yn hirdymor neu byth wedi gweithio yn dweud fod ganddynt gyflwr iechyd meddwl, o gymharu â 9% o’r oedolion sy’n rheolwyr a gweithwyr proffesiynol. Canfu arolwg diweddar fod mwy o gleifion a fu farw drwy hunanladdiad wedi cael problemau economaidd, gan gynnwys digartrefedd, diweithdra a dyled (y Canolfan ar gyfer Iechyd Meddwl a Diogelwch, 2016).

Mae ffactorau risg ar gyfer anghenion iechyd meddwl yn cael effaith anghymesur ar bobl mewn grwpiau uwch eu risg a grwpiau ar y cyrion.  Mae grwpiau uwch eu risg yn cynnwys plant sy’n derbyn gofal a gafodd eu cam-drin; pobl Ddu a phobl o leiafrifoedd ethnig; pobl ag anableddau deallusol; pobl ddigartref; mamau newydd; pobl lesbiaidd, hoyw a thrawsrywiol; ffoaduriaid a cheiswyr lloches a charcharorion (Panel Cydgomisiynu Iechyd Meddwl, 2013).

Mae cael rhwydwaith gefnogol eang, tai gwerth chweil, ansawdd bywyd da, ysgolion da, cyfleoedd i ymgymryd â swyddogaethau cymdeithasol a werthfawrogir ac amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon a hamdden yn medru diogelu iechyd meddwl pobl (yr Adran Addysg, 2016).

[1] Danner D D, Snowdon D A, Friesen W V (2001) Positive emotions in early life and longevity:

findings from the nun study. Journal of Personality and Social Psychology, 80:804–813

[2] Datganiad Sefyllfa Coleg Brenhinol Seiciatryddion PS4 (2010) No health without public mental

health: the case for action

[3] Coleg Brenhinol Seiciatryddion  (2010) No health without public mental health: the case for

action. Llundain: Coleg Brenhinol y Seiciatryddion

[4] Panel Comisiynu ar y Cyd ar gyfer iechyd meddwl (2013) ‘Guidance for commissioning public

mental health services’

[5] Ffynhonnell: Tabl Ystadegau Cymru iechyd 5012, Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

[6] Ffynhonnell:  Tabl Ystadegau Cymru iechyd 5052, Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

[7] Ffynhonnell:  Llywodraeth Cymru, casgliad o ddata ynghylch derbyniadau, newidiadau mewn statws a chadw cleifion dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (KP90), Ystadegau Cymru tabl HLTH0712

[8] Ffynhonnell:  Daffodil – Amcangyfrif o nifer y plant (5-16 oed), ag unrhyw broblem iechyd meddwl, 2020

[9] Law yn Llaw at Iechyd Meddwl: Strategaeth ar gyfer Iechyd Meddwl a Lles yng Nghymru – Llywodraeth Cymru, 2012

[10] K. Tudor, ‘Mental Health Promotion: Paradigms and Practice’, 1996

[11] Price, S., Weightman, A., Morgan, H., Mann, M. and Thomas, S. (2010) ‘Suicide prevention: update of the summary of evidence’. Public Health Wales

[12] Mind, Mehefin 2020 – Argyfwng Iechyd Meddwl: Sut mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio ar ein hiechyd meddwl?

[13] Ffeithlun Covid-19 Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru.

Yn ôl Mind, yr elusen iechyd meddwl, mae nifer cyffredinol y bobl sy’n sôn am broblemau iechyd meddwl wedi bod ar gynnydd mewn blynyddoedd diweddar.

  • Cynyddodd nifer y bobl â phroblemau iechyd meddwl cyffredin 20% rhwng 1993 a 2014 ymysg dynion a menywod.
  • Cynyddodd canran y bobl sy’n sôn am symptomau iechyd meddwl dwys mewn unrhyw wythnos benodol o 7% ym 1993 i fwy na 9% yn 2014.
  • Mae nifer y menywod ifanc sy’n sôn am broblemau iechyd meddwl cyffredin wedi bod yn cynyddu.[1]

[1] https://www.mind.org.uk/information-support/types-of-mental-health-problems/statistics-and-facts-about-mental-health/how-common-are-mental-health-problems/#References

Mae iechyd meddwl yn elfen allweddol o wydnwch, asedau iechyd, galluoedd ac addasiad cadarnhaol er mwyn galluogi pobl i ymdopi, ffynnu a phrofi iechyd a chanlyniadau cymdeithasol da.

Mae iechyd meddwl gwell yn darparu buddion sylweddol ar gyfer iechyd ac ansawdd bywyd, ar gyfer unigolion a chymunedau: nid yw’r buddion hyn o ganlyniad i absenoldeb salwch meddwl yn unig neu o reidrwydd, ond o ganlyniad i agweddau o iechyd meddwl cadarnhaol.

Mae nifer yr unigolion gyda phroblemau iechyd meddwl yn debygol o gynyddu ar draws Gogledd Cymru yn yr 20 mlynedd nesaf. Gellir defnyddio nifer yr achosion o Arolwg Iechyd Cymru i ragweld sut y bydd cyfanswm nifer yr unigolion gyda phroblemau iechyd meddwl cyffredin yn newid. Mae’r nifer yn aros yn eithaf tebyg rhwng 2015 a 2035 ar gyfer Bwrdeistref Sirol Conwy, ond yn cynyddu o 13,000 i 14,000 yn Sir Ddinbych.

Ein casgliad yn sgil yr Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru yw:

  • mae nifer y bobl â phroblemau iechyd meddwl yn debygol o aros yn sefydlog. Gallai’r nifer gynyddu eto, fodd bynnag, pe byddai dwysâd mewn ffactorau risg ar gyfer afiechyd meddwl fel diweithdra; incwm is; dyled; trais; digwyddiadau ingol mewn bywyd; a thai anaddas. Nid yw’r rhagestyniadau ynglŷn ag iechyd meddwl yn y dyfodol wedi ystyried effaith y pandemig Covid-19 ac felly dylid cymryd pwyll wrth ymdrin â hwy.[1]
  • Yr afiechydon meddwl y sonnir amdanynt fynychaf yw gorbryder ac iselder. Rhagwelir cynnydd yn nifer y bobl â phroblemau iechyd meddwl cyffredin. Rhagwelir gostyngiad mewn achosion o gyflyrau eraill.[2]
  • Tueddir i ddarparu gwasanaethau ar gyfer pobl â dementia fel rhan o wasanaethau i bobl hŷn. Efallai nad yw hynny’n bodloni anghenion pobl iau â dementia cynnar. Gwasanaethau iechyd meddwl sy’n aml yn cefnogi pobl â Syndrom Korsakoff, math o ddementia a achosir gan amlaf gan gamddefnyddio alcohol (Gweler ein ‘Mae pobl yn gwneud dewisiadau iach ar gyfer eu ffordd o fyw’ am ragor o wybodaeth). Mae gwasanaethau camddefnyddio sylweddau hefyd yn debygol o fod yn gweithio â rhywun â Syndrom Korsakoff, gan ganolbwyntio ar y problemau cyffuriau ac alcohol wrth i’r gwasanaethau iechyd meddwl ddarparu cymorth ar gyfer y symptomau.
  • Mae ymchwil yn awgrymu nad yw nifer fawr o bobl â phroblemau iechyd meddwl yn ceisio cymorth.

Mae’r gwasanaethau yn adrodd cynnydd mewn materion sy’n fwy cymhleth o ganlyniad i amddifadedd, profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a chamddefnyddio sylweddau. Maent hefyd yn adrodd cynnydd mewn unigolion â diagnosis o anhwylder personoliaeth ond nid yw’n eglur a yw hyn yn gynnydd oherwydd rhesymau cymdeithasol neu newid yn y modd y rhoddir diagnosis ar gyfer y cyflwr.

Oherwydd bod iechyd meddwl gwael yn effeithio ar ystod eang o ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus, mae angen dulliau traws-asiantaethol i gynorthwyo’r rhai gydag iechyd meddwl gwael. Yn benodol byddai dull cydlynol yn gymorth i atal pobl rhag disgyn drwy’r bylchau cefnogi sy’n gallu bodoli rhwng y pwyntiau sbardun ar gyfer gwahanol lefelau neu fathau o gefnogaeth.

[1] Nifer y bobl 16 oed a hŷn y rhagwelir y bydd ganddynt broblem iechyd meddwl gyffredin, gogledd Cymru, 2020 – 2040. Ffynhonnell:  Llywodraeth Cymru, Daffodil

[2] Amcangyfrif o nifer yr oedolion yng ngogledd Cymru sydd â phroblemau iechyd meddwl (2020 a 2040). Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Daffodil

Dywedodd sawl ymatebydd i’r Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru nad oes “dim byd” yn gweithio’n dda yn y gwasanaethau iechyd meddwl, gan ddod i’r casgliad bod “y system wedi torri i raddau helaeth”.  Y neges gyson gan lawer o ymatebwyr oedd bod bwlch anferth yn y gwasanaethau iechyd meddwl plant, bod rhestrau aros yn rhy hir a bod teuluoedd yn cael trafferth ymdopi.

Ar sail ein gwaith ymgysylltu dywedodd pobl fod arnynt eisiau gweld mwy o fuddsoddiad mewn ffactorau sy’n cefnogi lles pobl ifanc:

  • Buddsoddi mewn gweithgareddau i bobl ifanc, fel prosiectau cymunedol, dosbarthiadau ymarfer corff i bobl ifanc a chlybiau ieuenctid, er enghraifft, fel bod gan bobl ifanc rywle i fynd. Gellid gwneud yn fwy atyniadol drwy gynnig gweithgareddau gwell a chreu mwy o gyhoeddusrwydd fel bod pobl ifanc yn gwybod amdanynt).
  • Cymorth i wella iechyd meddwl pobl ifanc, yn enwedig ar ôl y pandemig Covid-19.
  • Cynnwys pobl ifanc yn fwy ym mhenderfyniadau’r Cyngor.
  • Gwella canolfannau hamdden a chyfleusterau i ddenu pobl ifanc, er enghraifft, clybiau gwell, dosbarthiadau sy’n cael eu hysbysebu’n effeithiol a’u targedu at bobl ifanc.

Covid-19

Mae holl effeithiau’r pandemig ar iechyd meddwl a lles pobl yn dal i ddod i’r amlwg. Fel y gwelwyd wrth gynnal yr asesiad lles a’r Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru, mae llawer o bobl wedi teimlo mwy o orbryder am amryw resymau ers mis Mawrth 2020.  Mae nodyn briffio gan y Ganolfan ar gyfer Iechyd Meddwl (2020) yn argymell y dylid darparu cymorth gydag ansefydlogrwydd ariannol, sy’n medru achosi problemau iechyd meddwl, cymorth iechyd meddwl rhagweithiol i bobl â Covid-19 a staff iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â defnyddio dulliau sy’n canolbwyntio ar drawma wrth gefnogi ysgolion, y sector iechyd a gofal cymdeithasol a busnesau. Dylai hyn fod wrth wraidd unrhyw gynlluniau adfer ar gyfer iechyd meddwl a lles.

Cam-drin Domestig

Mae yno berthynas arwyddocaol rhwng iechyd meddwl gwael a chamdriniaeth ddomestig. Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl yn amcangyfrif bod trais domestig yn creu costau gofal iechyd meddwl o £176 miliwn (Walby: 2014).

Yn ogystal â hynny mae ymchwil yn awgrymu fod menywod sy’n profi camdriniaeth ddomestig yn fwy tebygol o fod â chyflwr iechyd meddwl, a bod menywod â chyflwr iechyd meddwl yn fwy tebygol o brofi camdriniaeth ddomestig. Mae 30-60% o fenywod â chyflwr iechyd meddwl wedi profi camdriniaeth ddomestig (Howard et al.: 2009).

Oherwydd y cysylltiadau rhwng camdriniaeth ddomestig ac iechyd meddwl mae’n hanfodol fod gweithwyr proffesiynol yn cael hyfforddiant er mwyn gwella eu gallu i adnabod arwyddion camdriniaeth ddomestig ymysg y garfan hon o’r boblogaeth.

Er gwaethaf y cysylltiadau cryf rhwng camdriniaeth ddomestig ac iechyd meddwl gwael, fodd bynnag, nid oes unrhyw setiau data penodol ar gyfer camdriniaeth ddomestig yn genedlaethol nac yn rhanbarthol y gellid ymchwilio iddynt er mwyn canfod mor gyffredin yw camdriniaeth ddomestig ymysg pobl ag iechyd meddwl gwael. Mae hyn yn dangos fod bwlch arwyddocaol yn y data y mae angen mynd i’r afael ag ef.

Conwy & Denbighshire Public Services Board © 2026

This website uses cookies to improve your experience. We'll assume you're ok with this, but you can opt-out if you wish. Cookie settingsACCEPT
Privacy & Cookies Policy

Privacy Overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these cookies, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may have an effect on your browsing experience.
Necessary
Always Enabled
Necessary cookies are absolutely essential for the website to function properly. This category only includes cookies that ensures basic functionalities and security features of the website. These cookies do not store any personal information.
Non-necessary
Any cookies that may not be particularly necessary for the website to function and is used specifically to collect user personal data via analytics, ads, other embedded contents are termed as non-necessary cookies. It is mandatory to procure user consent prior to running these cookies on your website.
SAVE & ACCEPT
Conwy & Denbighshire PSB
  • Cartref
  • Amdanom ni
    • Rhaglen a Cofnodion
    • Newyddlen
    • Datganiad Hygyrchedd
    • Hygyrchedd
  • Asesiad o Les Lleol
  • Cynllun Lles Lleol (2023-2028)
    • Adroddiad Blynyddol
    • Cyngor Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
    • Addewidion Gwyrdd Cymunedol
  • Ein Partneriaid
  • Cysylltu â Ni