Cymunedau cydnerth yw rhai sy’n gallu ymaddasu i newid yn llwyddiannus. Mae cyfrifoldebau anorfod gan awdurdodau lleol y ddwy ardal i gyrraedd targedau ar gyfer ailgylchu a lleihau allyriadau carbon er mwyn diogelu’r amgylchedd lleol a’r byd ehangach.
Mae Llywodraeth y DU wedi gosod targedau ar gyfer lleihau allyriadau carbon o 34% erbyn 2020 a 80% erbyn 2050 (o’r llinell sylfaen ym 1990) o dan Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008. Mae’r targedau hyn ar gyfer lleihau allyriadau carbon yn ymestynnol iawn ac yn gymwys i gyrff yn y sectorau domestig, masnachol a chyhoeddus.
Mae lleihau ac ailgylchu gwastraff yn gryfder yn ardaloedd y ddau awdurdod lleol o’u cymharu â rhannau eraill o Gymru, gan fod y duedd yn gwella o ran canran y gwastraff a gafodd ei ailddefnyddio, ei gompostio neu ei ailgylchu dros y degawd diwethaf a mwy. Er hynny, mae hyn yn her o hyd ac mae’n bosibl y bydd angen buddsoddi’n sylweddol i gwrdd â’r targed Ewropeaidd o 70% erbyn 2025.
Yn ogystal ag ymdrechion i atal a lleihau difrod i’r amgylchedd, mae’r angen i addasu i’r newid yn yr hinsawdd yn fater sydd eisoes yn pwyso. Mae sicrhau bod cymunedau’n gydnerth yn wyneb tywydd eithafol, yn enwedig llifogydd, yn her fawr.
Mae’r angen i addasu i’r newid yn yr hinsawdd hefyd yn creu cyfleoedd a heriau economaidd drwy ddatblygu technoleg newydd. Mae’r datblygu ar gynhyrchu ynni adnewyddadwy a’r chwyldro digidol, sy’n gallu lleihau’r angen i deithio, eisoes yn cyfrannu at ddyfodol mwy cynaliadwy i Gonwy a Sir Ddinbych ac mae llawer o le i’w ehangu ymhellach.
Mae rheolaeth ar ein hamgylcheddau naturiol yn galw am fuddsoddi yng nghyd-destun y pwysau cynyddol ar gyllid y sector cyhoeddus. Mae diogelu’r amgylchedd naturiol hefyd yn her allweddol i’r economi wledig oherwydd y rhan y mae ffermwyr a pherchenogion tir eraill yn ei chwarae mewn rheolaeth amgylcheddol.
Un her bwysig i gymunedau fydd ymaddasu i’r proffil oedran newydd sydd wedi’i achosi gan newid demograffig. Y tueddiadau y disgwylir eu gweld yw cynnydd yn niferoedd y bobl hŷn ac allfudo parhaus gan bobl ifanc. Mae’n fwyfwy tebygol y bydd y newidiadau hyn yn arwain at ddibyniaeth gynyddol ar ofal di-dâl sy’n deillio o’r boblogaeth hŷn. Oherwydd y pwysau ar y GIG a gallu’r sector gofal cymdeithasol i ddarparu gwasanaethau i gwrdd â’r galw cynyddol, bydd cymunedau’n gorfod bod yn fwyfwy hunanddibynnol er mwyn aros yn gydnerth.
Yn nifer o’n trefi, gwelwyd cynnydd yng nghyfraddau’r eiddo masnachol sy’n wag. Er bod datblygiadau manwerthu sylweddol wedi bod hefyd yn y ddwy ardal yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r angen i sicrhau hyfywedd trefi llai fel canolfannau masnachol a manwerthu yn her ychwanegol. Mae hyn yn berthnasol i ystyriaethau ynghylch y gallu i gyrraedd gwasanaethau a hyfywedd cyffredinol cymunedau hanesyddol.
Mae newid technolegol hefyd yn cynnig heriau a chyfleoedd o ran sicrhau cymunedau cydnerth. Byddai’r defnydd cynyddol o dechnoleg ddigidol yn gallu lleihau dibyniaeth ar gludiant a helpu i dorri allyriadau carbon. Byddai mwy o hyblygrwydd a gweithio yn y cartref yn gallu golygu bod pentrefi a threfi bach yn fwy bywiog yn ystod y dydd nag y maent wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf. Ar yr un pryd, mae technoleg yn dod â’r bygythiad o arwahanrwydd cymdeithasol yn ogystal â seiberfwlio, ac mae’r posibilrwydd o wahaniaethau wrth fabwysiadu technolegau newydd hefyd yn codi’r posibilrwydd o ehangu’r rhaniad digidol.