Nod Cymunedau Cydlynus
Nod Mwy Cyfartal
Mae cydlyniant cymunedol yn yr ardal yn gryfach yn gyffredinol na chyfartaledd Cymru ym Mwrdeistref Sirol Conwy ac ychydig yn is yn Sir Ddinbych. Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru[1] yn darparu’r mesuryddion canlynol o gydlyniant cymunedol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Conwy a Sir Ddinbych.
- Mae canran yr unigolion sy’n cytuno fod ganddynt ‘ymdeimlad o berthyn i’r ardal leol’ yn 83% ym Mwrdeistref Sirol Conwy a 81% yn Sir Ddinbych o gymharu â ffigur Cymru gyfan o 82%.
- Mae canran yr unigolion sy’n cytuno fod ‘pobl yn yr ardal leol sydd o gefndiroedd gwahanol yn dod ymlaen yn dda gyda’i gilydd’ yn 81% ym Mwrdeistref Sirol Conwy a 80% yn Sir Ddinbych o gymharu â ffigur Cymru gyfan o 79%.
- Mae canran yr unigolion sy’n cytuno fod ‘pobl yn yr ardal leol yn trin ei gilydd gyda pharch ac ystyriaeth’ yn 83% ym Mwrdeistref Sirol Conwy a 75% yn Sir Ddinbych o gymharu â ffigur Cymru gyfan o 79%.
Mae gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru ddyletswydd statudol i ystyried sut y gallant gyfrannu’n gadarnhaol at gymdeithas decach yn eu gweithgareddau o ddydd i ddydd drwy roi sylw dyledus i waredu gwahaniaethu anghyfreithlon, datblygu cyfleoedd cyfartal a meithrin perthnasau da.
Gall amlygiad i anghydraddoldeb ddigwydd yn gynnar iawn mewn bywyd a gall fod yn rhwystr sy’n atal plant rhag cyflawni eu potensial o’r cychwyn cyntaf, a pharhau i fod yn bresenoldeb parhaus sy’n llechu drostynt wrth iddynt symud ymlaen drwy eu
Mae’r holl ffigurau yn pwyntio tuag at gynnydd mewn amrywiaeth yn ein poblogaeth. Mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn cydnabod nodweddion amrywiol ein poblogaeth wrth ddarparu ein gwasanaethau, er mwyn sicrhau cydraddoldeb mynediad a chyfleoedd i bawb. Mae’n rhaid i ni gydnabod yr amrywiaeth hwn wrth gynnwys pobl yn ein prosesau o wneud penderfyniadau ar gyfer ein cymunedau a’n gwasanaethau cyhoeddus, a sicrhau cynrychiolaeth gan ein holl bobl.
Ethnigrwydd
- Roedd y grŵp ethnig Prydeinig Gwyn yn ffurfio 95.4% o’r boblogaeth ym Mwrdeistref Sirol Conwy a 95.6% yn Sir Ddinbych yn ôl Cyfrifiad 2011 (Cymru=93.2%, Cymru a Lloegr = 80.5%). Yn 2001 roedd y grŵp yn ffurfio 96.8% o’r boblogaeth ym Mwrdeistref Sirol Conwy a 97.2% yn Sir Ddinbych.
Tabl: nodweddion poblogaeth ym Mwrdeistref Sirol Conwy a Sir Ddinbych
Grŵp cydraddoldeb | Disgrifiad | BS Conwy | Sir Ddinbych | Cymru | Cyfeiriad poblogaeth | Ffynhonnell a dyddiad | ||
Nifer | % | Nifer | % | |||||
Ethnigrwydd | Gwyn Prydeinig | 109,911 | 95.4% | 89,581 | 95.6% | 93.2% | Yr holl bobl | Cyfrifiad 2011 |
Gwyn arall | 2,638 | 2.3% | 1,673 | 1.8% | 2.4% | |||
Grŵp ethnig cymysg | 894 | 0.8% | 751 | 0.8% | 1.0% | |||
Grŵp ethnig arall | 1,785 | 1.5% | 1,729 | 1.8% | 3.4% | |||
Hunaniaeth genedlaethol | Wedi’u geni yng Nghymru | 62,720 | 54.4% | 54,469 | 58.1% | 72.7% | Yr holl bobl | Cyfrifiad 2011 |
Wedi’u geni yng ngweddill y DU | 47,553 | 41.3% | 35,383 | 37.7% | 21.9% | |||
Wedi’u geni y tu allan i’r DU | 4,955 | 4.3% | 3,882 | 4.1% | 5.5% | |||
Cymro / Cymraes / Sais / Saesnes / Albanwr / Albanes / Gwyddel neu Wyddeles o Ogledd Iwerddon / Prydeiniwr / Prydeinwraig | 111,973 | 97.2% | 91,233 | 97.3% | 96.1% | |||
Hunaniaeth Cymysg – Cymro / Cymraes / Sais / Saesnes / Albanwr / Albanes / Gwyddel neu Wyddeles o Ogledd Iwerddon / Prydeiniwr / Prydeinwraig ac arall | 410 | 0.4% | 352 | 0.4% | 0.4% | |||
Hunaniaethau cenedlaethol eraill yn unig | 2,845 | 2.5% | 2,149 | 2.3% | 3.4% | |||
Cyfanswm gyda hunaniaeth Gymraeg | 54,842 | 47.6% | 47,754 | 50.9% | 65.9% | |||
Oed | 0-15 | 18,904 | 16.3% | 17,160 | 18.1% | 17.9% | Yr holl bobl | Amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol 2015 |
16-24 | 10,515 | 9.0% | 9,434 | 10.0% | 11.8% | |||
25-44 | 23,524 | 20.2% | 19,909 | 21.0% | 23.8% | |||
45-64 | 32,386 | 27.9% | 26,133 | 27.6% | 26.3% | |||
65+ | 30,889 | 26.6% | 22,055 | 23.3% | 20.2% | |||
85+ | 4,687 | 4.0% | 2,631 | 2.8% | 2.6% |
Tabl: nodweddion poblogaeth ym Mwrdeistref Sirol Conwy a Sir Ddinbych (parhad)
Grŵp cydraddoldeb | Disgrifiad | BS Conwy | Sir Ddinbych | Cymru | Cyfeiriad poblogaeth | Ffynhonnell a dyddiad | ||
Nifer | % | Nifer | % | |||||
Rhyw | Gwrywod | 56,537 | 48.6% | 46,680 | 49.3% | 49.2% | Yr holl bobl | |
Benywod | 59,681 | 51.4% | 48,011 | 50.7% | 50.8% | |||
Anabledd | Salwch hir dymor cyfyngedig | 27,915 | 24.2% | 21,995 | 23.5% | 23.7% | Yr holl bobl | Cyfrifiad 2011 |
Anabledd sy’n cyfyngu’r gallu i weithio | 13,900 | 21.2% | 12,000 | 21.8% | 22.8% | Working age | Arolwg Poblogaeth Blynyddol 2015 | |
Crefydd / cred | Cristion | 74,506 | 64.7% | 60,129 | 64.1% | 57.6% | Yr holl bobl | Cyfrifiad 2011 |
Dim crefydd | 30,017 | 26.1% | 25,132 | 26.8% | 32.1% | |||
Crefydd arall | 1,693 | 1.5% | 1,287 | 1.4% | 2.7% | |||
Dim ymateb. | 9,012 | 7.8% | 7,186 | 7.7% | 7.6% | |||
Tueddfryd rhywiol | Heterorywiol | 95.0% | Yr holl bobl 16 oed neu hŷn | Arolwg Poblogaeth Blynyddol 2015 | ||||
Hoyw neu lesbiaid | 1.0% | |||||||
Deurywiol | 0.6% | |||||||
Arall | 0.5% | |||||||
Y Gymraeg | Siaradwyr Cymraeg: | 30,600 | 27.4% | 22,236 | 24.6% | 19.0% | Yr holl bobl 3 oed neu hŷn | Cyfrifiad 2011 |
Dim gwybodaeth o’r iaith Gymraeg | 67,716 | 60.6% | 58,440 | 64.6% | 73.3% | |||
Siaradwyr Cymraeg | 40,100 | 36.2% | 32,800 | 35.9% | 27.3% | Arolwg Poblogaeth Blynyddol 2015 |
- Roedd y grŵp ethnig ‘gwyn arall’ – gan gynnwys Gwyddelod, Ewropeaid gwyn eraill, Awstraliaid gwyn a phobl wyn o America – yn 2.3% o’r boblogaeth neu 2,650 o bobl yn 2011 ym Mwrdeistref Sirol Conwy, o gymharu â 2.2% yn 2001. Yn Sir Ddinbych roedd ffigurau 2011 yn 1.8% o’r boblogaeth neu 1,650 o bobl, o gymharu â 1.7% yn 2001. Y ffigur 2011 ar gyfer Cymru oedd 2.4% a 5.5% ar gyfer Cymru a Lloegr.
- Roedd pobl ag ethnigrwydd cymysg yn ffurfio 0.8% o’r boblogaeth ym Mwrdeistref Sirol Conwy a Sir Ddinbych yn 2011. Mae hyn yn cymharu â 0.4% ym Mwrdeistref Sirol Conwy yn 2001 a 0.5% yn Sir Ddinbych. Mae hyn oddeutu 1,650 o bobl yn 2011 (900 ym Mwrdeistref Sirol Conwy, 750 yn Sir Ddinbych). Mae’n cymharu â chanrannau o 1.0% yng Nghymru a 2.2% yng Nghymru a Lloegr.
- Roedd pob ethnigrwydd arall wedi’u cyfuno yn 1.5% o’r boblogaeth neu oddeutu 1,800 o bobl ym Mwrdeistref Sirol Conwy, wedi cynyddu o 0.7% o’r boblogaeth neu 750 o bobl yn 2001. Yn Sir Ddinbych y ffigurau yn 2011 oedd 1.8% neu 1,750 o bobl o gymharu â 0.7% o’r boblogaeth neu 650 o bobl yn 2001. Mae hyn yn cymharu â chanlyniadau Cyfrifiad 2011 o 3.4% ar draws Cymru a 11.8% yng Nghymru a Lloegr. Y grŵp ethnig mwyaf o fewn y cyfanswm hwn ym Mwrdeistref Sirol Conwy yw Tsieiniaid gyda 0.3% o’r boblogaeth neu oddeutu 400 o bobl. Yn Sir Ddinbych y grŵp mwyaf yw Asiaid eraill (gan gynnwys ethnigrwydd y Dwyrain Pell) gyda 0.6% o’r boblogaeth (oddeutu 300 o bobl).
Hunaniaeth genedlaethol
- Yn ôl Cyfrifiad 2011 mae oddeutu 97% o bobl ym Mwrdeistref Sirol Conwy a Sir Ddinbych wedi nodi fod ganddynt hunaniaeth genedlaethol sy’n gysylltiedig â chenhedloedd y DU yn unig (Cymro/Cymraes, Sais/Saesnes, Albanwr/Albanes, Gwyddel/Gwyddeles o Ogledd Iwerddon, Prydeiniwr/Prydeinwraig).
- Mae gan 2.5% o boblogaeth Bwrdeistref Sirol Conwy a 2.3% o boblogaeth Sir Ddinbych hunaniaeth(au) genedlaethol heblaw Cymro/Cymraes/ Sais/Saesnes / Albanwr/Albanes / Gwyddel/Gwyddeles o Ogledd Iwerddon / Prydeiniwr / Prydeinwraig. Roedd gan 0.4% arall ym Mwrdeistref Sirol Conwy a Sir Ddinbych hunaniaethau cymysg y DU a hunaniaethau cenedlaethol eraill.
- Nid oes data hanesyddol i gymharu sut y mae hyn wedi newid dros amser. Fodd bynnag yn 2001, roedd 3.3% o boblogaeth preswylwyr Bwrdeistref Sirol Conwy a 2.8% o boblogaeth Sir Ddinbych wedi’u geni y tu allan i’r DU, o gymharu â 4.3% ym Mwrdeistref Sirol Conwy yn 2011 a 4.1% yn Sir Ddinbych (ffigur Cymru gyfan yn 2011=5.5%, Cymru a Lloegr=13.4%).
Oed
- Mae gan Fwrdeistref Sirol Conwy a Sir Ddinbych strwythurau poblogaeth sy’n gymharol hŷn na’r cyfartaledd cenedlaethol. Mae ganddynt gyfrannau uchel o bobl hŷn yn y boblogaeth, ac mae bwlch amlwg yn y strwythur oedran ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau hwyr ac ugeiniau cynnar.
- Mae mwy o wybodaeth am boblogaeth pobl ifanc yn adran 2.2 ‘Lleihau nifer y bobl ifanc sy’n mudo allan’.
- Mae mwy o wybodaeth am bobl hŷn yn adran 2.3 ‘Heneiddio’n dda’.
Rhyw
- Mae mwy o fenywod na gwrywod yn y boblogaeth, yn bennaf oherwydd y ffaith bod merched yn byw’n hirach na dynion. Cymhareb gwrywod:benywod yn 2015 oedd 100:104 (Cymru a Lloegr=100:103)
- Cymhareb gwrywod:benywod ar gyfer plant ym Mwrdeistref Sirol Conwy a Sir Ddinbych yw 100:94. Mae hyn yn gymharol â’r cymarebau ar gyfer Cymru a’r DU. Nid yw’r gymhareb yn gyfartal, gan fod mwy o fechgyn yn cael eu geni na merched.
- Cymhareb gwrywod:benywod ar gyfer y grŵp oedran gwaith yw 100:102, sydd ychydig yn uwch nag ar gyfer Cymru gyfan a’r DU (100:101).
- Mae cymhareb gwrywod:benywod ar gyfer y grŵp oedran 65+ yn 100:118. Mae hwn yn ffigur cymharol i ffigur Cymru gyfan, sef 100:119 (cymhareb y DU yw 100:121).
Anabledd
- Mae nifer yr unigolion gyda salwch hirdymor cyfyngol ym Mwrdeistref Sirol Conwy wedi cynyddu o 25,750 yn 2001 i 27,900 yn 2011, ac o 21,750 i 22,000 yn Sir Ddinbych. Mae’r rhai gyda salwch hirdymor cyfyngol yn ffurfio 24.2% o boblogaeth Bwrdeistref Sirol Conwy a 23.5% yn Sir Ddinbych, o gymharu â ffigur Cymru o 23.7%.
- Rhagwelir y bydd nifer yr unigolion gyda salwch hirdymor cyfyngol ym Mwrdeistref Sirol Conwy a Sir Ddinbych yn cynyddu o oddeutu 3,000 yr un rhwng 2015 a 2035.
- Nid oes data dibynadwy ar nifer yr unigolion sy’n byw gydag anabledd, felly mae hwn yn fesur procsi.
Crefydd
- Er bod y niferoedd wedi gostwng ers 2001, Cristnogaeth oedd y grefydd fwyaf gyda 64.7% o’r boblogaeth yn nodi eu bod yn Gristnogion ym Mwrdeistref Sirol Conwy a 64.1% yn Sir Ddinbych. Rhwng 2001 a 2011 bu gostyngiad yng nghyfran y bobl sy’n nodi eu bod yn Gristnogion a chynnydd yn y rhai sy’n adrodd nad oes ganddynt unrhyw grefydd.
- Ar y cyfan, mae nifer yr unigolion gyda chrefydd heblaw Cristnogaeth bron wedi dyblu rhwng 2001 a 2011 o 950 i 1,700 neu 1.5% o’r boblogaeth ym Mwrdeistref Sirol Conwy ac o 800 i 1,300 neu 1.4% o’r boblogaeth yn Sir Ddinbych. O fewn y niferoedd hyn, Mwslimiaid oedd y grŵp crefyddol mwyaf gyda 0.5% o’r boblogaeth yn y ddwy ardal.
- Y cwestiwn am grefydd yw’r unig gwestiwn gwirfoddol ar y cyfrifiad ac roedd oddeutu 8% o’r boblogaeth heb ateb y cwestiwn yn 2011 (yn debyg i gyfraddau peidio ag ymateb yn 2001).
Tueddfryd rhywiol
- Nid oes data dibynadwy am faint y boblogaeth hoyw, lesbiaid neu ddeurywiol yn y DU. Mae amcangyfrifon o amrywiol ffynonellau yn amrywio o 0.3% i 10%, ond nid ydynt yn caniatáu ar gyfer pobl nad ydynt yn adrodd neu’n cam-adrodd ac felly mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn credu nad yw’r un o’r rhain yn darparu sylfaen ddigonol ar gyfer rhagamcan. Yr unig ystadegau sydd gennym ar lefel Cymru gyfan yw Arolwg Poblogaeth Blynyddol / Arolwg Integredig o Gartrefi sy’n rhoi amcanestyniad o ddim ond oddeutu 2% o’r boblogaeth yn hoyw/lesbiaid/deurywiol neu arall.
- Mae hwn yn faes sensitif. Ni fydd rhai unigolion yn fodlon rhannu gwybodaeth am eu hunaniaeth rywiol a gall cynnwys cwestiynau am hyn atal pobl rhag ateb arolygon neu gymryd rhan mewn ymgynghoriad, felly mae’n anodd ei fesur.
- Mae’r Adran Masnach a Diwydiant yn rhoi amcangyfrif swyddogol bod 5-7% o boblogaeth Prydain yn hoyw, lesbiaid neu ddeurywiol.
Y Gymraeg
- Mae Cyfrifiad 2011 yn amcangyfrif bod 52,850 o bobl 3 oed neu hŷn ym Mwrdeistref Sirol Conwy a Sir Ddinbych sy’n gallu siarad Cymraeg.
- Mae hyn yn 26.1% o’r boblogaeth. (Bwrdeistref Sirol Conwy = 30,600 o bobl neu 27.4%. Sir Ddinbych = 22,250 neu 24.6%).
- Ar gyfer Cymru gyfan, dim ond 19% o’r boblogaeth sy’n gallu siarad Cymraeg.
- Dim ond ychydig mwy na hanner poblogaeth yr ardal oedd wedi’u geni yng Nghymru (56% ar y cyfan – 54% ym Mwrdeistref Sirol Conwy a 58% yn Sir Ddinbych), sy’n cyfri’n rhannol am y gyfran is o’r boblogaeth sy’n gallu siarad Cymraeg o gymharu â’r rhanbarthau cyfagos i’r Gorllewin (mae 65% o siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd).
- Mae mwy o wybodaeth yn adran 2.34 ‘Hybu’r Iaith Gymraeg’
Bylchau data
- Nid oes data ar gael am bobl sy’n drawsryweddol ar lefel awdurdodau unedol nac ar lefel genedlaethol.
- Nid oes ffynhonnell gynhwysfawr o ddata ynglŷn ag anabledd. Mae Cyfrifiad 2011 yn darparu gwybodaeth ynglŷn â salwch cyfyngol tymor hir a gofalwyr di-dâl ar lefel awdurdod unedol. Mae cofrestr o bobl â nam corfforol a / neu nam ar y synhwyrau a phobl ag anableddau dysgu sy’n defnyddio’r gwasanaethau cymdeithasol, ond dim ond gwybodaeth am y bobl hynny sy’n defnyddio gwasanaethau’r Cyngor yw hynny.
- Yr unig ffynhonnell ddata am ymlyniad crefyddol ar lefel awdurdod unedol yw Cyfrifiad 2011.
- Y data mwyaf dibynadwy ar gyfer ffigurau ethnigrwydd ar gyfer poblogaeth ar lefel awdurdod unedol yw Cyfrifiad 2011. Mae ffigurau sy’n fwy cyfredol ar gael ar lefel Cymru gyfan. Mae Cyfrifiad Ysgolion yn darparu data ethnigrwydd diweddar ar gyfer disgyblion ysgol yn unig.
- Mae ffigurau hunaniaeth genedlaethol ar gael ar gyfer awdurdodau unedol o Gyfrifiad 2011 yn unig.
- Mae gan Gyfrifiad 2011 ddata manwl am yr iaith Gymraeg. Mae’n darparu data am sgiliau iaith Gymraeg, a dadansoddiad o siaradwyr Cymraeg yn ôl oedran, cenedligrwydd a daearyddiaeth. Mae’r Cyfrifiad Ysgolion hefyd yn darparu data am ddisgyblion sy’n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg ac am ddisgyblion yn yr holl ysgolion sy’n gallu siarad Cymraeg.
- Mae’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol yn cynhyrchu ffigurau ar gyfer awdurdodau unedol, ond oherwydd y cyfyngiad o ran maint y sampl, nid ydynt yn cael eu hystyried fel ffynhonnell ddata gadarn ar y lefel hon. Felly nid ydynt yn cael eu hargymell i’w defnyddio ar lefel Awdurdod Unedol ac nid ydynt wedi’u cynnwys yn y tabl uchod. Mae ffigurau Cymru wedi’u cynnwys gan eu bod yn cael eu hystyried fel data cadarn.
[1] Arolwg Cenedlaethol Cymru 2014-2015, Llywodraeth Cymru
Roedd pobl yn bryderus ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn enwedig fin nos a dros nos, ac yn teimlo fod hyn yn rhywbeth sydd angen ei daclo er mwyn i bobl deimlo’n ddiogel ac yn hapus i fynd allan i’r gymuned.
Roedd pobl hefyd yn teimlo bod angen cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau rhyng-genhedlaeth er mwyn dod â phobl at ei gilydd.