Conwy and Denbighshire Public Services Board

Building better communities

  • Cymraeg
  • English

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych

  • Cartref
  • Amdanom ni
    • Rhaglen a Cofnodion
    • Newyddlen
    • Datganiad Hygyrchedd
    • Hygyrchedd
  • Asesiad o Les Lleol
  • Cynllun Lles Lleol (2023-2028)
    • Adroddiad Blynyddol
    • Cyngor Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
    • Addewidion Gwyrdd Cymunedol
  • Ein Partneriaid
  • Cysylltu â Ni

Cyfleoedd gwaith lleol

  • Beth sy’n digwydd rŵan…
  • Sut mae hyn yn cymharu efo’r gorffennol…
  • Beth rydym yn ei wybod neu’n ei ragweld ar gyfer y dyfodol...
  • Beth mae pobl wedi ei ddweud….

Mae mwy a mwy o dystiolaeth i ddangos cysylltiadau rhwng amddifadedd sylweddol a lles cyffredinol gwael. Mae’r ystadegau ar gyfer rhai sy’n byw mewn ardaloedd o amddifadedd yn dangos disgwyliad oes is ar gyfartaledd, mwy o achosion o iechyd meddwl gwael, mwy o ddiweithdra, mwy o achosion o drosedd ac anrhefn a chyrhaeddiad addysgol is. Er bod y rhesymau dros y rhain yn gymhleth, mae tlodi ariannol, diweithdra a chyflogaeth â chyflog isel yn ffactorau cyffredin. Cyflogaeth dda yw’r un mwyaf cyffredin, ac yn aml dyma’r dull mwyaf effeithiol o ddarparu’r cyllid sydd ei angen ar deulu er mwyn gwella sawl maes o les[i].

Nid nifer y swyddi sydd ar gael yw’r unig elfen, ond y mathau o gyfleoedd cyflogaeth y maent yn eu cynnig, a pha mor dda ydynt o ran cyfateb â’r newidiadau yn yr economi fyd-eang ynghyd â’r blaenoriaethau lleol. Mae cyflogaeth bendant gyda chyflog da yn effeithio ar les economaidd unigolion a chymunedau, ond gall gynorthwyo gyda lles meddyliol hefyd gan ei fod yn meithrin ymdeimlad o bwrpas ac ymdeimlad o berthyn o fewn cymdeithas.

Mae oddeutu 84,40o swyddi Talu wrth Ennill[ii] (PAYE) yn yr ardal (46,000 ym Mwrdeistref Sirol Conwy a 39,000 yn Sir Ddinbych) a 97,200 o breswylwyr sy’n gweithio (53,300 ym Mwrdeistref Sirol Conwy a 43,900 yn Sir Ddinbych)[iii]. Mae hyn yn anghydbwysedd o oddeutu 12,800 o swyddi, gan ddangos nad yw’r economi leol yn ddigonol er mwyn cefnogi’r rhai sy’n byw yma. Mae’r gyfran o bobl sy’n hunangyflogedig yn eithaf uchel – oddeutu 7,200 o bobl neu 11.0% o’r boblogaeth sy’n gweithio ym Mwrdeistref Sirol Conwy a 6,800 neu 11.0% yn Sir Ddinbych (o gymharu â 9.2% ar gyfer Cymru gyfan ac oddeutu 10.2% ar gyfer Prydain)[iv].

Mae data ar gyfer patrymau cymudo yn dangos bod oddeutu 9,600 o bobl naill ai’n byw ym Mwrdeistref Sirol Conwy ac yn teithio i weithio yn Sir Ddinbych neu i’r gwrthwyneb, sef oddeutu 10% o’r preswylwyr sy’n gweithio. Mae hyn yn tynnu sylw at yr angen ar gyfer cynllunio economaidd cydlynol ar draws y ddwy sir.

Mae’n anodd asesu faint o’r cymudo allan sydd o raid wrth chwilio am swyddi â chyflog uwch neu well statws, a faint sydd o ddewis. Fodd bynnag, efallai o ganlyniad i ddiffyg cyfleoedd cyflogaeth yn lleol, mae oddeutu 15,000 o bobl (17% o’r boblogaeth sy’n gweithio) yn teithio allan o Gonwy a Sir Ddinbych i gael cyflogaeth. Mae’r rhan fwyaf o’r cymudwyr allanol hyn yn teithio i ardaloedd yr awdurdodau ffiniol yng Nghymru (gweddill Gogledd Cymru a Phowys), er bod tua 5,000 o bobl yn teithio i Loegr i weithio[v].

Yn ogystal â’r anghydbwysedd rhwng nifer y swyddi a nifer y preswylwyr sy’n gweithio, mae gan yr ardal gyflogau wythnosol cyfartalog sy’n sylweddol is ar gyfer swyddi llawn amser na’r cyfartaledd cenedlaethol -£451 ym Mwrdeistref Sirol Conwy a £501 yn Sir Ddinbych, o gymharu â £540 ar gyfer Prydain[vi].  Mae cyfran uwch o swyddi rhan-amser ar gael yn yr ardal na’r cyfartaledd cenedlaethol – mae 46% o’r swyddi yn rai rhan-amser ym Mwrdeistref Sirol Conwy a 39% yn Sir Ddinbych, o gymharu â 32% ar draws Prydain a 35% yng Nghymru[vii].

Mae’r strwythur cyflogaeth yn yr ardal yn wahanol i un Prydain Fawr ar y cyfan.

  • Yng Nghonwy a Sir Ddinbych mae cyflogaeth yn y sectorau sgiliau uchel, cyflog uchel ar gyfer gwybodaeth a chyfathrebu, cyllid ac yswiriant, proffesiynol, gwyddonol a thechnegol, a gweinyddu busnes a gwasanaethau cefnogi yn eithaf isel, gan gyfrif ar gyfer 11% o’r holl gyflogaeth o gymharu â 24% ar draws Prydain ar y cyfan.
  • Mae dibyniaeth ar gyflogaeth y sector cyhoeddus yn eithaf uchel yn 28% ar draws yr ardal gyfan o gymharu â 25% ar gyfer Cymru a 18% ar gyfer Prydain Fawr. Mae’r gwahaniaeth hwn yn cael ei gymell gan gyflogaeth yn y sector iechyd, yn bennaf oherwydd presenoldeb Ysbyty Glan Clwyd sy’n cyfrannu’n sylweddol i 27% o gyflogaeth yn y sector hwnnw yn Sir Ddinbych.
  • Ym Mwrdeistref Sirol Conwy, mae cyflogaeth gweithgynhyrchu ymhell islaw’r gyfradd genedlaethol yn 3% o gymharu â 8% ar gyfer Prydain Fawr a 11% ar gyfer Cymru ar y cyfan. Mae cyfran cyflogaeth yn y sectorau adwerthu, llety a gwasanaethau bwyd, celfyddydau, adloniant a hamdden sy’n gysylltiedig â thwristiaeth yn uchel – cyfanswm o oddeutu 32% o’r holl swyddi o gymharu â 24% yn genedlaethol. Y sectorau hyn yw’r rhai sydd fwyaf tebygol o gynnwys cyflog isel, cyflogaeth ran-amser neu dymhorol.
  • Mae gweithgynhyrchu yn Sir Ddinbych o gwmpas yr un lefel â Phrydain o 8%. Mae cyflogaeth yn y gwasanaethau llety a bwyd tri phwynt canran yn uwch na’r ffigwr genedlaethol o bron i 11%.

[i]   A yw gwaith yn dda ar gyfer eich Iechyd a’ch Lles, Yr Adran Gwaith a Phensiynau 2006

[ii] Cofrestr busnes ac arolwg cyflogaeth, Swyddfa Ystadegau Gwladol

[iii] Arolwg Poblogaeth Blynyddol, Swyddfa Ystadegau Gwladol

[iv] Arolwg Poblogaeth Blynyddol, Swyddfa Ystadegau Gwladol

[v] Arolwg Poblogaeth Blynyddol, Swyddfa Ystadegau Gwladol

[vi] Dadansoddiad Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion Gweithle, Swyddfa Ystadegau Gwladol

[vii] Cofrestr busnes ac arolwg cyflogaeth, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Mae cyfanswm y swyddi’r cynllun Talu wrth Ennill ym Mwrdeistref Sirol Conwy a Sir Ddinbych wedi cynyddu o 5000 (6%) rhwng 2009 a 2015. Ar draws Cymru mae nifer o swyddi’r Cynllun Talu wrth Ennill wedi cynyddu o 2.9% yn yr un cyfnod ac o 5.7% ar gyfer Prydain Fawr.

Fodd bynnag, ni ddosbarthwyd y cynnydd yn gyfartal ar draws y sectorau cyflogaeth nac ar draws yr ardal. Roedd cynnydd yn CB Conwy o 6000 o swyddi, ond gostyngodd cyfanswm nifer y swyddi o tua 1,000 yn Sir Ddinbych.

Roedd gostyngiad yn y nifer swyddi mewn rhai sectorau – mae’r colledion mwyaf ers 2009 yn sectorau gweinyddol cyhoeddus ac amddiffyn (-750), manwerthu (-500) a chyfanwerthu (-300).

Siart: Newid yn y sectorau cyflogaeth 2009-2015

Ffynhonnell: Arolwg cofrestrau busnes a chyflogaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol, (NOMIS)

Gwelwyd y twf mwyaf yn y sector iechyd (oddeutu +1,350 o swyddi). Cafwyd y twf cyfrannol mwyaf yn y sector eiddo sydd wedi cynyddu o 45% ers 2009 (oddeutu 500 o swyddi). Sectorau twf sylweddol eraill ers 2009 yw proffesiynol, gwyddonol a thechnegol (+1,250), Masnach Ceir (+600), Cloddio, chwarela a chyfleustodau (+525), adeiladu (+500), cymorth/gweinyddu busnes (+250, twf i gyd yng Nghonwy) a gwasanaethau bwyd a llety (+1000, twf i gyd yng Nghonwy).

Mae ein patrymau cymudo ar hyn o bryd yn debyg iawn i’r patrymau ddeg mlynedd yn ôl.

Mae’r economi yn anodd iawn ei ragweld, ac yn cael ei ddylanwadu’n drwm gan gyflyrau marchnad cenedlaethol a rhyngwladol sydd y tu hwnt i gwmpas dylanwad cenedlaethol a rhyngwladol yn fwy a mwy. Dros y blynyddoedd nesaf, mae’n debyg y bydd pleidlais Brexit yn cael dylanwad sylweddol gan gynnig bygythiadau a chyfleoedd ar gyfer yr economi leol a chenedlaethol.

Ceir pryderon ar hyn o bryd ynghylch y posibilrwydd o ddirywiadau economaidd cenedlaethol a byd-eang, oherwydd materion fel cynhyrchiant isel y DU o’i gymharu â chystadleuwyr, twf yn arafu mewn economïau sy’n datblygu megis Tsieina, a gostyngiad mewn prisiau olew byd-eang.

Mae’r economi leol yn dangos gor-ddibyniaeth ar y sector cyhoeddus i ddarparu cyflogaeth. Mewn cyfnod o galedi parhaus a phwysau ar wariant cyhoeddus, mae rhai o’r swyddi hyn mewn perygl. Mae’n debyg y bydd effeithiau eilaidd unrhyw gyfyngiad ar gyflogaeth sector cyhoeddus ac/ neu wasanaethau o fewn yr economi ehangach, gan fod nifer o fusnesau bach lleol a masnachwyr yn seilio eu busnes ar gyflenwi nwyddau a gwasanaethau i sefydliadau mwy’r sector cyhoeddus.

Hoffai pobl wedi cyfleoedd cyflogaeth a busnes a fyddai’n creu ffyniant, yn darparu mynediad at nwyddau a gwasanaethau yn lleol ac yn cadw neu’n denu pobl ifanc i fyw yn yr ardal.

Siaradodd pobl am yr angen i roi sylw i ddiffyg cyfleoedd gwaith parhaol, nid dim ond gwaith tymhorol ar gyfer pawb ond yn benodol pobl ifanc. Roedd pobl yn gweld yr angen i greu swyddi a fyddai’n datblygu gyrfaoedd y tu allan i dwristiaeth a lletygarwch, er eu bod yn cydnabod pa mor bwysig yw twristiaeth i’r economi leol. Roeddent hefyd yn teimlo y gellid gwneud mwy i gefnogi’r rhai hynny sy’n gweithio ym maes amaeth.

Codwyd peth pryder ynghylch diffyg cyfleoedd i bobl ag anableddau gael swyddi da.

Roedd pobl hefyd yn teimlo y dylid buddsoddi mwy yn yr ardaloedd gwledig, gan gynnwys cyngor arbenigol penodol ar gyfer cefn gwlad ac unedau dechrau hyblyg a ‘deor’ y gellid eu darparu mewn lleoliadau lleol, megis blaen siopau.

Pethau eraill yr hoffai pobl eu gweld yw:

  • swyddi o well safon gyda chyflogau uwch.
  • cwmnïau’n ‘rhoi yn ôl’ i’r gymuned.
  • cydraddoldeb mewn cyflogaeth, yn arbennig o ran cyflogau.
  • cefnogaeth ar gyfer busnesau lleol gyda threthi a rhenti llai a gwell telerau prydlesu.

Conwy & Denbighshire Public Services Board © 2026

This website uses cookies to improve your experience. We'll assume you're ok with this, but you can opt-out if you wish. Cookie settingsACCEPT
Privacy & Cookies Policy

Privacy Overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these cookies, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may have an effect on your browsing experience.
Necessary
Always Enabled
Necessary cookies are absolutely essential for the website to function properly. This category only includes cookies that ensures basic functionalities and security features of the website. These cookies do not store any personal information.
Non-necessary
Any cookies that may not be particularly necessary for the website to function and is used specifically to collect user personal data via analytics, ads, other embedded contents are termed as non-necessary cookies. It is mandatory to procure user consent prior to running these cookies on your website.
SAVE & ACCEPT
Conwy & Denbighshire PSB
  • Cartref
  • Amdanom ni
    • Rhaglen a Cofnodion
    • Newyddlen
    • Datganiad Hygyrchedd
    • Hygyrchedd
  • Asesiad o Les Lleol
  • Cynllun Lles Lleol (2023-2028)
    • Adroddiad Blynyddol
    • Cyngor Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
    • Addewidion Gwyrdd Cymunedol
  • Ein Partneriaid
  • Cysylltu â Ni