Mae nifer o safleoedd hanesyddol o bwysigrwydd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yng Nghonwy a Sir Ddinbych ac mae’r ddwy ardal yn gartref i nifer mawr o wyliau a digwyddiadau diwylliannol. Mae’r rhain yn cyfrannu at les diwylliannol yr ardal. Mae twristiaeth yn cynnig cyfle i ardaloedd y ddau awdurdod lleol i hyrwyddo eu hasedau diwylliannol ac mae’n cyfrannu’n sylweddol at les economaidd.
Mae addysg yn ffactor sy’n allweddol i roi’r gallu i ddatblygu diwylliant bywiog. Mae ein hysgolion a cholegau’n chwarae rhan allweddol drwy drwytho dysgwyr yn y celfyddydau a llenyddiaeth gan gynnwys traddodiadau cenedlaethol a lleol yn Gymraeg a Saesneg. Mae ein strwythurau addysgol hefyd yn cyfrannu’n benodol at ddiogelu a hyrwyddo’r Gymraeg fel cyfrwng mynegiant ar draws meysydd pwnc ac mewn bywyd masnachol a chymunedol.
Mae ymchwil ar lefel Cymru yn awgrymu bod y defnydd o’r Gymraeg yn dirywio dros y tymor hir. Mae angen rhagor o waith i gael mwy o ddealltwriaeth o dueddiadau lleol. Mae Cyfrifiad 2011 yn amcangyfrif bod 30,600 o bobl 3 oed a hŷn yng Nghonwy a 22,236 yn Sir Ddinbych sy’n gallu siarad Cymraeg. Mae hon yn gyfran sylweddol o’n poblogaethau (27.4% a 24.6% yn y drefn honno) felly mae’n bwysig bod ein gwasanaethau’n cael eu cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae cyfathrebu da yn hanfodol i iechyd da, yn enwedig rhwng defnyddwyr gwasanaethau a gweithwyr iechyd proffesiynol, felly mae hyrwyddo’r Gymraeg yn allweddol bwysig, yn enwedig, fel rydym wedi nodi, ymysg cleifion dementia a fydd o bosibl yn deall neu’n gallu cyfathrebu drwy eu hiaith gyntaf yn unig wrth i’r salwch ddatblygu.