Yr iaith Gymraeg yw un o ieithoedd lleiafrifol mwyaf cadarn Ewrop, wedi goroesi er gwaethaf ei hagosrwydd at iaith gryfaf y byd yn y ddwy ganrif ddiwethaf (Saesneg). Mae’r iaith Gymraeg yn rhan allweddol o ddiwylliant a hunaniaeth yr ardal, ac yn brif iaith a siaradir yn rhai o’n cymunedau, ynghyd â chael presenoldeb sylweddol mewn sawl gweithle, sefydliadau dysgu, ac ar strydoedd ein trefi a’n pentrefi. Mae sgiliau Cymraeg yn cael eu hystyried fel sgiliau cyflogaeth allweddol mewn nifer o’r sectorau sy’n dod i’r amlwg, megis y cyfryngau, sectorau bwyd a thwristiaeth, a chynhyrchu cynnwys digidol. Mae Cyfrifiad 2011 yn amcangyfrif bod 52,850 o bobl 3 oed neu hŷn ym Mwrdeistref Sirol Conwy a Sir Ddinbych yn gallu siarad Cymraeg. Yn gyffredinol, mae nifer y siaradwyr Cymraeg a’r rhai sydd wedi’u geni yng Nghymru yn cynyddu tuag at y gorllewin, ac wrth i rywun deithio’n fwy mewndirol. Mae’r gallu i siarad Cymraeg ar ei uchaf yn ward wledig Uwchaled yn ne’r fwrdeistref sirol (71% o siaradwyr Cymraeg) ac ar ei isaf yng nghymuned arfordirol Tywyn a Bae Cinmel (llai na 12% o siaradwyr Cymraeg)[i]. Mae data o arolwg defnydd yr iaith Gymraeg 2013-15[ii] yn dangos bod: Ym mlwyddyn ysgol 2017/18, roedd 38 o’r 99 o ysgolion cynradd yn yr ardal yn ysgolion Cymraeg iaith gyntaf neu ysgolion dwyieithog (BS Conwy=22 ysgol, Sir Ddinbych=16 ysgol). Roedd 4,900 o ddisgyblion yn yr ysgolion hyn, a oedd yn 27% o’r holl ddisgyblion ysgol gynradd (Conwy=2,500 o ddisgyblion, sef 28% o’r holl ddisgyblion; Sir Ddinbych= 2,400 sef 27%; Cymru=24%). Mae pump o’r 14 o ysgolion uwchradd yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog (BS Conwy= 2 ysgol; Sir Ddinbych =3 ysgol). Roedd 4,200 o ddisgyblion yn yr ysgolion hyn, sef 33% o’r holl ddisgyblion uwchradd. (Conwy=1,200 ddisgyblion, sef 19% o’r holl ddisgyblion; Sir Ddinbych = 3,000 sef 49%; Cymru=20%)[iii]. [i] Cyfrifiad poblogaeth 2011, Swyddfa Ystadegau Gwladol [ii] Arolwg y defnydd o’r Gymraeg 2013-15, Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru [iii] Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol Ar Lefel Disgyblion (PLASC), Llywodraeth Cymru Er bod nifer y siaradwyr Cymraeg yn yr ardal wedi cynyddu rhwng 1981 a 1991 maent wedi gostwng mewn nifer yn y blynyddoedd diwethaf. Mae cyfran y siaradwyr Cymraeg yn y boblogaeth wedi bod yn gostwng yn raddol ers sawl cenhedlaeth ym Mwrdeistref Sirol Conwy a Sir Ddinbych. Tabl: Siaradwyr Cymraeg Ffynhonnell: Cyfrifiad poblogaeth, ONS Canran y rhai sy’n 3 oed neu’n hŷn Yn genedlaethol, gostyngodd y lefelau rhuglder rhwng arolygon defnydd y Gymraeg 2004-6 a 2013-15. Er mwyn goroesi, mae’n rhaid i’r Gymraeg fod yn iaith ar gyfer cyfathrebu. Mae cyflwyno’r Gymraeg fel pwnc gorfodol mewn ysgolion wedi atal neu o leiaf arafu tuedd 1901-1981 a fyddai wedi arwain at ‘ddim siaradwyr Cymraeg’ a ragwelwyd erbyn 2041, ond mae’n rhaid gwneud mwy. Mae tystiolaeth a gasglwyd ar gyfer Strategaeth y Gymraeg[i] gan Lywodraeth Cymru yn awgrymu bod [i] Iaith fyw: iaith byw, Strategaeth y Gymraeg 2012-17, Llywodraeth Cymru Roedd pobl yn teimlo bod angen i ni arddel ymdriniaeth wahanol tuag at y Gymraeg mewn ysgolion fel bod pobl ifanc yn dysgu i ddefnyddio’r iaith yn gymdeithasol, nid dim ond er mwyn pasio arholiad. Mae hefyd angen sicrhau fod digon o lefydd mewn ysgolion lleol ble gellir dysgu plant drwy gyfrwng y Gymraeg. Ar gyfer oedolion, mae angen gwell cynlluniau darllen ar gyfer dysgwyr Cymraeg a mwy o gefnogaeth ar gyfer rhieni di-Gymraeg sydd eisiau helpu plant sy’n ddisgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Roedd pryderon fod angen i ni ystyried effaith gor-ddatblygu mewn trefi a chymunedau ar iaith a diwylliant. Mae angen rheoli hyn yn well nag sy’n digwydd ar hyn o bryd.
BS Conwy
Sir Ddinbych
Cymru
Nifer
%
Nifer
%
%
2011
30,600
27.4%
22,236
24.6%
19.0%
2001
31,042
29.2%
23,540
26.1%
20.5%
1991
31,431
30.6%
23,316
26.7%
18.7%
1981
30,266
32.7%
22,909
28.5%
19.0%
Mae’n rhaid trin y cynnydd calonogol o ran nifer y bobl ifanc sy’n siarad Cymraeg ar ôl i Ddeddf yr Iaith Gymraeg gyflwyno Cymraeg fel pwnc gorfodol mewn ysgolion â gofal. Roedd mwyafrif y bobl ifanc hyn yn dysgu Cymraeg fel ail iaith, a’u hamlygiad i’r iaith a’u lefel o ruglder yn debygol o fod yn gyfyngedig o gymharu â phlant sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg. Mae’r ffigurau diweddaraf o’r Cyfrifiad yn awgrymu nad yw gallu Cymraeg y mae plant yn ei ddysgu fel plant yn cael ei gynnal pan yn oedolyn o reidrwydd.