- Beth sy’n digwydd rŵan…
- Sut mae hyn yn cymharu efo’r gorffennol…
- Beth rydym yn ei wybod neu’n ei ragweld ar gyfer y dyfodol...
- Beth mae pobl wedi ei ddweud….
Mae cysylltiad sicr rhwng sgiliau a chyfleoedd cyflogaeth, ar gyfer yr unigolyn a’r gweithlu ehangach. Mae gwella sgiliau yn gwella gallu’r rhai sy’n ddi-waith i ganfod gwaith. Ar yr un pryd mae gwella sgiliau yn cynorthwyo’r rhai mewn swyddi â chyflog is i symud ymlaen drwy’r farchnad lafur. Wrth i sylfaen sgiliau’r gweithlu gynyddu, mae’r ardal yn fwy deniadol i fuddsoddwyr posibl sy’n dymuno cyflwyno busnesau newydd[i].
Mae newid cyflym yn yr economi cenedlaethol ac economi’r byd, ochr yn ochr â thechnoleg sy’n datblygu’n gyflym, yn golygu bod yn rhaid i’r gweithlu cyfoes feddu ar fwy o sgiliau nag erioed o’r blaen. Mae’n rhaid i’r sgiliau hyn fod yn hyblyg, addasadwy ac y gellir eu trosglwyddo rhwng swyddi a rhwng sectorau cyflogaeth hefyd. Mae parhau i symud oddi wrth economi sy’n seiliedig ar gynhyrchiant i economi sy’n seiliedig ar wasanaeth yn golygu bod yn rhaid i’r gweithlu ddatblygu ei sgiliau cymdeithasol fwy a mwy, wrth i gyflogaeth ganolbwyntio mwy ar y cwsmer.
O’i gymharu â chyfartaledd Cymru, mae’r boblogaeth oedran gweithio ym Mwrdeistref Sirol Conwy a Sir Ddinbych yn fwy cymwys. Mae gennym lai o bobl heb unrhyw gymwysterau / lefelau isel iawn o gymwysterau, a mwy o bobl â chymwysterau lefel gradd neu uwch (NQF 4+). Mae gan fenywod gymwysterau uwch na dynion yn gyffredinol.
Tabl: lefelau cymwysterau uchaf a gynhelir gan boblogaeth oedran gwaith 2015
Ffynhonnell: Arolwg poblogaeth blynyddol, ONS
BS Conwy | Sir Ddinbych | Cymru | Y DU | |
Dim cymwysterau | 6.7 | 7.7 | 9.5 | 7.9 |
Is na lefel 2 | 13.1 | 13.3 | 13.4 | 13.6 |
NQF lefel 2 | 20.2 | 20.2 | 19.6 | 18.8 |
NQF lefel 3 | 21.6 | 20.5 | 21.4 | 20.2 |
NQF lefel 4-6 | 28.9 | 30.2 | 27.4 | – |
NQF lefel 7-8 | 9.6 | 8.2 | 8.6 | – |
NQF lefel 4 neu uwch | 38.4 | 38.3 | 36.1 | 39.5 |
Diffiniadau
Mae enghreifftiau o’r cymwysterau uchaf ar bob lefel yn cynnwys:
Is na lefel 2: NQF Lefel 1, cymwysterau lefel mynediad, Sgiliau Sylfaenol
Lefel 2: NQF lefel 2 neu gyfwerth, 5 TGAU neu fwy A* i C, 2 Lefel AS
Lefel 3: 2 Lefel A, 4 Lefel AS, NQF lefel 3, Bagloriaeth Cymru Uwch
Lefel 4-6 : Gradd gyntaf, graddau sylfaen, NQF lefel 4
Lefel 7-8: cymwysterau ôl-radd, NQF lefel 5.
Mae ystod o gymwysterau academaidd a chymwysterau sy’n gysylltiedig â gwaith wedi’u cynnwys yn yr ystod o sgiliau ar gyfer cyflogaeth. Nid yw’r llwybr ar gyfer addysg uwch a graddau prifysgol yn addas ar gyfer pawb sy’n gadael ysgol neu ddysgwyr sy’n oedolion, ac mae prentisiaethau a chyfleoedd dysgu yn y gwaith yn ffurfio rhan fawr o’r sylfaen sgiliau lleol. Ynghyd â graddedigion addysgedig, bydd economi gymysg wydn angen technegwyr, gweinyddwyr, gweithredwyr manwerthu medrus ac ati. Mae gan ddysgu wrth weithio, cynlluniau prentisiaeth ac addysg uwch ffurfiol rôl sylweddol o ran darparu sgiliau o fewn y farchnad gyflogaeth.
O gymharu â’r gyfradd genedlaethol, mae gwell darpariaeth ar gyfer prentisiaethau ym Mwrdeistref Sirol Conwy a Sir Ddinbych na’r cyfartaledd cenedlaethol, yn enwedig ar gyfer grŵp oedran 16-24. Mae’r cyfraddau cyffredinol ar gyfer dysgu yn seiliedig ar waith yn gymharol â chyfartaledd Cymru.
- Mae gan y ddwy ardal gyfran uwch o raglenni yn y sector iechyd a gwasanaethau cyhoeddus – 35% a 39% o brentisiaethau (33% yng Nghymru) a 29% a 33% o’r holl raglenni (24% yng Nghymru).
- Y sectorau eraill sydd â chyfran uwch o raglenni dysgu na chyfartaledd Cymru yw lletygarwch (Bwrdeistref Sirol Conwy a Sir Ddinbych); gweinyddu busnes a gwasanaethau manwerthu a chwsmeriaid (Bwrdeistref Sirol Conwy yn unig) a gweithgynhyrchu (Sir Ddinbych yn unig). Mae hyn yn adlewyrchu strwythurau cyflogaeth yr ardal, ac yn cael ei ddylanwadu gan y cyrsiau sydd ar gael mewn sefydliadau addysg bellach lleol.
- Mae rhaglenni dysgu yn y gwaith yn y sectorau rheoli a phroffesiynol a’r sector adeiladu yn cael eu tangynrychioli o gymharu â ffigurau Cymru gyfan.
Mae mwy o ferched na dynion yn derbyn prentisiaethau a chynlluniau dysgu yn seiliedig ar waith – mae 63% o’r prentisiaethau yn cael eu llenwi gan ferched ym Mwrdeistref Sirol Conwy a 56% yn Sir Ddinbych (Cymru= 57%).
Tabl: rhaglenni dysgu yn seiliedig ar waith 2014/15
Ffynhonnell: Dadansoddiad Rhwydwaith Dysgu, Llywodraeth Cymru (StatsCymru)
BS Conwy | Sir Ddinbych | Cymru | |||
Nifer | Cyfradd* | Nifer | Cyfradd* | Cyfradd* | |
Prentisiaethau | |||||
Pob un 16-64 oed | 1,840 | 27.7 | 1,515 | 27.3 | 24.5 |
16-24 oed | 925 | 88.0 | 765 | 81.1 | 69.2 |
Yr holl raglenni dysgu yn seiliedig ar waith | |||||
Pob un 16-64 oed | 2,210 | 33.3 | 1,810 | 32.6 | 33.2 |
16-24 oed | 1,135 | 107.9 | 990 | 104.9 | 105.6 |
*Y gyfradd yw fesul 1,000 o bobl yn y grŵp oedran hwnnw
Ynghyd â darparu sgiliau y mae pobl eu hangen ar gyfer cyflogaeth, gall prentisiaethau fod yn ddewis amgen atyniadol i addysg mewn prifysgol ar gyfer pobl ifanc sy’n methu â fforddio neu ddim yn dymuno derbyn y dyledion y gall addysg uwch ffurfiol ei roi i fyfyrwyr. Mae hyn wedi’i gydnabod gan y llywodraeth, a gyflwynodd deddfwriaeth fod yn rhaid i ysgolion hyrwyddo prentisiaethau cymaint ag y maent yn hyrwyddo’r llwybr addysg uwch.
Fel rhan o’i ymgais i gynyddu prentisiaethau cyhoeddodd y llywodraeth Ardoll Prentisiaeth newydd ar ddiwedd 2015, sy’n ‘dreth cyflogau’ newydd i gynorthwyo i ariannu cynnydd mewn prentisiaethau. Wedi’i osod yn 0.5% o fil cyflog y cyflogwyr ac i’w gasglu drwy’r cynllun Talu wrth Ennill, mae’r ardoll eisoes wedi cael effaith sylweddol ar y diwydiant, gyda nifer o gyflogwyr mwy yn creu rhaglenni prentisiaeth newydd o ganlyniad i hynny.
Ar gyfer pobl ifanc sydd â llai o ddiddordeb mewn mynd i’r brifysgol ac sy’n awyddus ennill wrth iddynt ddysgu, mae’r ardoll yn debygol o greu llwybr deniadol arall i gyflogaeth. Er bod yr ardoll yn cael ei groesawu’n gyffredinol gan gyflogwyr, mae rhannu’r wybodaeth gyda budd-ddeiliaid allweddol eraill yn anoddach. Mae stigma yn gysylltiedig â phrentisiaethau – mae rhieni a phobl ifanc yn gweld mynd i brifysgol fel mesur o lwyddiant.
Mae sgiliau y tu allan i’r system addysg ffurfiol hefyd yn bwysig er mwyn derbyn a chadw cyflogaeth. Mae hyn yn cynnwys sgiliau bywyd sylfaenol megis cadw at amser, magu hunanhyder, datblygu sgiliau rhyngbersonol a glendid personol. Mae’n rhaid i ysgolion dderbyn rôl allweddol i ddarparu’r sgiliau hyn i’w disgyblion, yn enwedig ar gyfer plant sy’n dod o gefndiroedd difreintiedig sy’n methu â’u darparu â’r elfennau cymdeithasol sy’n ofynnol i weithredu’n llwyddiannus yn y gweithle ac yn y gymdeithas ehangach. Mae angen cefnogaeth hefyd ar gyfer pobl ar raglenni hyfforddiant i dderbyn gwaith. Nid yw cymhwyster neu leoliad gwaith ar ei ben ei hun yn ddigon i dderbyn cyflogaeth hir dymor a gwella hyder unigolyn yn eu gallu i ymdopi ym myd gwaith. Efallai y bydd pobl a’r sefydliadau sy’n eu cyflogi angen rhywun i ‘ddal eu dwylo’ am beth amser ar ôl i’r cynllun neu leoliad swyddogol ddod i ben er mwyn osgoi gadael.
[i] The Role of Skills from Worklessness to Sustainable Employment with Progression – UK Commission for Employment and Skills Medi 2011
Siart: y boblogaeth oedran gwaith â chymwysterau NQF lefel 4 ac uwch*, a heb unrhyw gymwysterau
Ffynhonnell: arolwg poblogaeth blynyddol, ONS
* Cyfwerth â NQF 4 ac uwch = Diploma Cenedlaethol Uwch, Gradd a chymhwyster lefel Gradd Uwch
Mae lefelau cymhwyster ym Mwrdeistref Sirol Conwy a Sir Ddinbych wedi bod yn gwella flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac mae’r ffigurau ar gyfer y rhai â chymwysterau NQF Lefel 4 neu uwch yn awr ymhell uwchlaw cyfartaledd Cymru ar gyfer y ddwy ardal awdurdod unedol. Mae’r ffigurau ar gyfer y rhai heb unrhyw gymwysterau yn dangos tuedd gadarnhaol, gan ddangos gostyngiad parhaus, ac mae’r ddau awdurdod islaw lefelau’r DU ar gyfer y data diweddaraf[i].
Mae Bwrdeistref Sirol Conwy a Sir Ddinbych wedi llwyddo i gynyddu sgiliau drwy ddysgu yn seiliedig ar waith a rhaglenni prentisiaeth.
Siart: rhaglenni dysgu yn seiliedig ar waith, cyfradd fesul 1,000 o’r boblogaeth*
Ffynhonnell: Dadansoddiad Rhwydwaith Dysgu, Llywodraeth Cymru (StatsCymru)
* Y gyfradd yw fesul 1,000 o bobl yn y grŵp oedran hwnnw
Fodd bynnag, er gwaethaf y gwelliannau hyn mewn lefelau cymhwyso yn y ddau ddegawd diwethaf, canfu arolwg Mehefin 2011 ym Mwrdeistref Sirol Conwy fod 31% o’r 200 o fusnesau lleol sydd wedi ymateb wedi nodi problemau o ran recriwtio staff â’r sgiliau digonol[i]. Dangosodd arolwg tebyg a gynhaliwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn 2015 fod mwy na 50% o fusnesau a oedd yn cyflogi rhai a oedd wedi gadael yr ysgol yn gweld nad oeddent yn barod ar gyfer byd gwaith. Roedd mwy na 35% yn gweld nad oedd rhai a oedd wedi gadael y coleg yn barod a’r ffigur ar gyfer graddedigion prifysgol oedd 21%. Canfu arolwg o 400 o fusnesau yn Sir Ddinbych bod 15% o’r busnesau yn adrodd eu bod yn cael anhawster canfod staff gyda’r sgiliau cywir. Fodd bynnag, mae mwyafrif helaeth y busnesau (79%) wedi adrodd nad oeddent yn profi unrhyw un o’r anawsterau recriwtio a restrwyd[ii].
Roedd yr arolygon hyn yn ymwneud â nifer o sectorau cyflogaeth gwahanol ac yn cadarnhau’r ymchwil cenedlaethol bod bwlch rhwng y sgiliau sy’n cael eu darparu gan addysg a’r sgiliau y mae cyflogwyr eu heisiau. Y prif anawsterau a nodwyd oedd diffyg sgiliau cyfathrebu sylfaenol, ymwybyddiaeth gwasanaeth cwsmer, analluedd i weithio ar eu liwt eu hunain a datrys problemau syml, sgiliau rhifedd gwael a sgiliau gweithio mewn tîm gwael[iii].
Mae’r arolygon hefyd yn dangos bod cyflogwyr yn yr ardal yn pryderu o ran diffyg sgiliau TG ymysg eu gweithlu. Mae technoleg yn newid yn gyflym iawn a bydd angen mynd i’r afael â’r ffaith bod yn rhaid i fusnesau lleol addasu ar gyfer y newid hwn.
[i] Archwiliad Cenedlaethol Sgiliau Strategol Cymru 2011 a ‘The Employability Challenge’ – Comisiwn y DU ar gyfer Cyflogaeth a Sgiliau, 2009.
[ii] Arolwg Busnes Sir Ddinbych 2015, Cyngor Sir Ddinbych
[iii] Arolwg Busnes Conwy 2015, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
[i] Arolwg Poblogaeth Blynyddol, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ar gyfer y sector cyhoeddus, ynghyd â chyfrannu at yr ardoll prentisiaeth, bydd hefyd yn ofynnol iddynt ddiwallu’r gofynion deddfwriaethol a nodwyd yn y Bil Menter. Bydd y ddeddfwriaeth hon yn amodi ei bod yn ofynnol i holl sefydliadau’r sector cyhoeddus sicrhau bod 2.3% o’u gweithlu yn brentisiaid ar unrhyw adeg. Bydd hyn yn newid sylweddol o bosib i’r modd y mae sefydliadau’r sector cyhoeddus yn recriwtio a hyfforddi staff.
Cynhyrchodd Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau gyfres o adroddiadau yn 2015 sy’n tynnu sylw at yr heriau y mae sectorau cyflogaeth allweddol yn eu hwynebu[i].
- Iechyd a gofal cymdeithasol – mae cynnydd mewn galw am ofal, cynnydd o ran disgwyliadau cleifion/defnyddwyr gwasanaeth, gwelliannau o ran triniaethau a thechnolegau ac anogaeth wleidyddol a chymdeithasol ar gyfer defnyddio adnoddau’n effeithlon yn golygu bod disgwyl i’r sector iechyd a gofal cymdeithasol fod yn fwy hyblyg nag yn y gorffennol. Gellir gweld hyn, er enghraifft, yn rôl gynyddol y ffisiotherapydd i ddarparu cefnogaeth ailalluogi mewn lleoliadau cymunedol, a nyrsys cynorthwyol yn cynyddu eu harbenigaeth a thwf o ddarparu swyddogaeth gefnogaeth yn wreiddiol i dderbyn dyletswyddau clinigol ychwanegol. Mae pryderon recriwtio ar gyfer y dyfodol hefyd. Mae’r gweithlu presennol yn bennaf yn fenywod, gyda phroffil oedran hŷn, ac yn fwy cymwys na’r economi yn ei gyfanrwydd. (gweler adran 2.21 ‘Sector cyflogaeth allweddol – gofal cymdeithasol ac iechyd’ ac adran 2.12 ‘Pwysau cynyddol ar y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol’ i gael rhagor o wybodaeth)
- Sector manwerthu – Mae technoleg newydd yn golygu bod yn rhaid i weithwyr ddiweddaru eu sgiliau TG, sy’n gallu bod yn her ar gyfer gweithwyr hŷn sy’n llai tebygol o feddu ar sgiliau TG da na’r gweithwyr iau. Mae gan y sector cyfanwerthu a manwerthu weithlu â chymwysterau cymharol is, gyda dim ond 22% yn meddu ar gymhwyster mwy na QCF Lefel 4. Mae’r amcanestyniadau yn awgrymu erbyn 2022 bydd meddu ar gymwysterau ar y lefel hon yn rhagofyniad ar gyfer 34% o’r swyddi cyfanwerthu a manwerthu a hanner y swyddi ar draws yr holl ddiwydiannau. Er mwyn diwallu’r sgiliau a ragwelir bydd angen i fanwerthwyr wella sgiliau gweithwyr presennol a denu gweithwyr newydd gyda sgiliau priodol. Mae Arolwg Comisiwn y DU ar gyfer Sgiliau Cyflogwyr 2013 yn dangos bod 55% o’r sefydliadau manwerthu gyda bylchau sgiliau yn nodi bylchau yn sgiliau trin cwsmeriaid eu staff presennol. Mae 60% o gyflogwyr y sector gyda swyddi gwag oherwydd bylchau sgiliau yn cael anhawster recriwtio gweithwyr gyda’r sgiliau hyn.
- Sector ynni – Mae polisi ynni sy’n datblygu, technolegau newydd a newid i economi rhad ar-garbon yn hyrwyddo newidiadau mawr o ran defnydd, rheolaeth a storio ynni. Disgwylir i’r cyfuniad o sgiliau y mae cyflogwyr y sector eu hangen ddatblygu yn y dyfodol, i gynnwys sgiliau meddal, sgiliau technegol megis dadansoddi data, ynghyd â gwybodaeth o dechnolegau newydd wrth iddynt ddod i’r amlwg. Mae hwn yn sector sgiliau uchel gyda chyflenwad cyfyngedig o weithwyr medrus a phrofiadol oherwydd bod cystadleuaeth gref ar gyfer sgiliau rhwng yr is-sectorau, sectorau a gwledydd eraill; nifer sy’n derbyn y cymwysterau STEM mwyaf perthnasol i’r sector heb ddiwallu galw’r cyflogwr; gwelededd gwael (a diddordeb o ganlyniad i hynny) yn y sector ynni fel gyrfa ymysg pobl ifanc a newydd-ddyfodiaid o ddiwydiannau eraill.
- Sectorau digidol a chreadigol – Yr heriau recriwtio mwyaf yw’r rhai sy’n ceisio gweithwyr gyda sgiliau digidol. Mae recriwtio graddedigion yn ffynhonnell bwysig o weithwyr ar gyfer y sector, ond mae pryderon bod nifer o raddedigion yn gadael y brifysgol heb y sgiliau technegol diweddaraf, neu’r sgiliau meddal sy’n ofynnol er mwyn bod yn effeithiol yn y gweithle. Mae datblygiadau technolegol cyflym yn arwain at fylchau sgiliau ymysg y gweithlu presennol. Ar yr un pryd, mae cyflogwyr yn wynebu llai o anawsterau recriwtio i rolau sy’n fwy creadigol sy’n atyniadol iawn i’r gweithwyr posibl. Fodd bynnag, byddai’n anghywir nodi gwahaniaeth syml rhwng yr is-sectorau digidol a chreadigol. Mae’r ffiniau rhwng digidol a chreadigol yn fwy a mwy amwys ac mae cyflogwyr yn ceisio cyfuniad o sgiliau technegol a chreadigol, wedi’u cyfuno gyda sgiliau busnes a sgiliau meddal. Bydd y tueddiadau technolegol sylweddol yn cynnwys: twf cryf mewn galw am dechnoleg ar draws yr economi; cynnydd mewn pwysigrwydd o ran diogelwch seibr; cydgyfeiriant cynnwys ar draws y llwyfannau; cyfrifiadura symudol ac ar gwmwl; data a dadansoddi ar lefel fawr, awtomatiaeth tasgau arferol; cymwysiadau newydd ar gyfryngau cymdeithasol; modelau busnes newydd a llwyfannau cyfunol. Gellir dylanwadu ar ddatblygiad y sector yn y dyfodol oherwydd newidiadau rheoleiddiol hefyd.
- Gweithgynhyrchu uwch – yn cael ei ddisgrifio’n eang fel gweithgynhyrchu sy’n gwneud defnydd mawr o gyfalaf a gwybodaeth ac angen defnydd lefel uchel o dechnoleg ac Ymchwil a Datblygu. Er y disgwylir i gyflogaeth gweithgynhyrchu ostwng ar y cyfan hyd at 2022, mae amcanestyniadau diweddar yn rhagweld y disgwylir i weithgynhyrchu uwch dyfu’n sylweddol dros y blynyddoedd sydd i ddod. Disgwylir i rôl y rheolwyr cynhyrchu weld cynnydd yn eu llwyth gwaith, a bydd angen sgiliau busnes uwch ynghyd â derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r technolegau cynhyrchu. Disgwylir cynnydd o ran rôl biocemegwyr a gwyddonwyr biolegol yn y diwydiant. Disgwylir i gynhyrchiant fod yn fwy cymhleth ac y bydd angen lefelau sgiliau uwch ar draws y cyfan. Bydd sgiliau meddalwedd yn ofynnol i gynnal peiriannau. Disgwylir i rolau llinell gydosod ostwng o ran nifer ond y bydd cynnydd o ran lefelau sgiliau – yn enwedig TG – sy’n ofynnol gan y gweithredwyr. Ar draws y DU disgwylir i’r sector fod angen 1.2 miliwn o weithwyr newydd rhwng 2012 a 2022, i gefnogi twf ac i ddisodli’r rhai sy’n gadael y sector.
Mae ymateb i’r twf yn y sector ynni, yn enwedig yr ymateb i’r cyfleuster ynni niwclear newydd ar Ynys Môn, o ddiddordeb penodol i’r ardal ar hyn o bryd. Mae angen i sgiliau yn y maes ddiwallu’r her o adeiladu, rhedeg a chynnal gorsaf bŵer newydd. Nid sgiliau peirianneg arbenigol yn unig sydd eu hangen, ond buddion gweithgynhyrchu ac adeiladu hefyd. Bydd y galw’n uchel ar gyfer staff cymwys a phrofiadol ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod y gweithlu lleol yn barod ar gyfer y galw hwnnw er mwyn gwireddu’r buddion economaidd yn lleol.
[i] https://www.gov.uk/government/collections/ukces-sector-insights-reports-2015
Roedd adborth y gymuned yn y maes hwn yn canolbwyntio’n bennaf ar wella sgiliau pobl iau sy’n gadael addysg. Efallai bod ganddynt sgiliau technegol a gwybodaeth, ond nid ydynt yn barod ar gyfer yr amgylchedd gwaith oherwydd diffyg sgiliau personol a chymdeithasol (e.e. prydlondeb, siarad yn gwrtais ar y ffôn, gweithio fel rhan o dîm ayyb).