- Beth sy’n digwydd rŵan…
- Sut mae hyn yn cymharu efo’r gorffennol…
- Beth rydym yn ei wybod neu’n ei ragweld ar gyfer y dyfodol...
- Beth mae pobl wedi ei ddweud….
Gellir disgrifio gwirfoddoli fel rhoi eich amser a’ch egni’n rhydd ac yn ôl eich dewis heb bryderu am enillion ariannol. Gall ddisgrifio cannoedd o wahanol weithgareddau y mae pobl yn dewis eu gwneud er lles neu i gefnogi eraill yn y gymuned. Defnyddir y gair gwirfoddoli ar gyfer ystod o weithgareddau megis gwasanaeth cymunedol, hunangymorth, elusen, bod yn gymydog, dinasyddiaeth, gwasanaeth cyhoeddus, gweithredu yn y gymuned, ymgysylltu â’r gymuned, ymddiriedolwr, aelod, cymhorthydd.
Mae cyfleoedd gwirfoddoli mewn llawer o wahanol feysydd megis iechyd; gofal cymdeithasol; celfyddydau a diwylliant; ymddiriedolaeth; ymarferol a DIY; rheoli ac yn yr amgylchedd naturiol. Mae gwirfoddolwyr yn achub bywydau (Y Samariaid, Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub); cynorthwyo i gynnal digwyddiadau chwaraeon a chymdeithasol (stiwardiaid, codi arian, Ambiwlans Sant Ioan); gofalu am ein bywyd gwyllt a’r amgylchedd naturiol, codi arian, cefnogi pobl ddiamddiffyn.
Mae gwirfoddoli yn cynyddu cyfalaf cymdeithasol cymuned a lles unigol ar gyfer y gwirfoddolwyr eu hunain a’r unigolion y maent yn eu cefnogi. Gall gynorthwyo i gynyddu capasiti cymunedol a chreu gwydnwch cymdeithasol.
Mae gan y sector gwirfoddol rôl bwysig i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ar draws y DU. Yn 2012/13 derbyniodd y sector £13.3biliwn gan gyrff y llywodraeth, ac roedd 83% ohono wedi’i dderbyn drwy gontractau neu ffioedd. Daw mwyafrif yr incwm, £6.8biliwn, o berthnasau gyda llywodraeth leol[i]. Gall elusennau lenwi bylchau mewn darpariaeth gwasanaeth nad yw’r sector cyhoeddus neu’r sector preifat yn gallu eu llenwi neu nad ydynt yn fodlon eu llenwi. Gan eu bod yn agos at eu defnyddwyr, mae gan elusennau safbwynt unigryw o’u hanghenion a sut y dylid gwella gwasanaethau. Mae lefelau uchel o ymddiriedaeth gan y cyhoedd mewn elusennau – dyma’r trydydd grŵp y ceir yr ymddiriedaeth fwyaf ynddynt ar ôl y meddygon a’r heddlu. Mae nifer o elusennau hefyd yn ymgyrchu neu’n eirioli ar gyfer yr un materion ag y maent yn darparu gwasanaethau ar eu cyfer.
Manteision ar gyfer y gwirfoddolwr:
- Mae pobl sy’n ymgysylltu â gweithgareddau allgarol (e.e. gwirfoddoli) yn nodi mwy o ymdeimlad o bwrpas ac ystyr yn eu bywydau. Mae nifer o’r deg cynhwysyn allweddol ar gyfer bywyd hapus a chyflawn sy’n cael eu nodi gan y symudiad ‘Action for Happiness’[ii] yn cael eu nodi mewn gweithgareddau gwirfoddol: rhoi, cysylltu, ymarfer, ymwybyddiaeth, rhoi cynnig arni, cyfeiriad, gwydnwch, emosiynau, derbyn ac ystyr.
- Mae nifer o fuddion iechyd yn gysylltiedig â gwirfoddoli wedi’u nodi. Mae’r rhain yn cynnwys ansawdd bywyd gwell, gwella hunanbarch, gwella cyfleoedd cymdeithasu a gwella’r gallu i ymdopi gyda iechyd gwael[iii].
- Gall gwirfoddoli gynorthwyo pobl i oresgyn salwch meddwl a dibyniaeth.
- Mae gwirfoddoli yn gyfle i ddysgu sgiliau ymarferol a chymdeithasol newydd, a gall wella cyfleoedd cyflogaeth.
Buddion ar gyfer y buddiolwyr a’r gymdeithas:
- Mae gwirfoddoli yn galluogi pobl i chwarae rôl weithgar yn eu cymdeithas a chyfrannu at newid cymdeithasol cadarnhaol.
- Mae gwirfoddoli yn cynorthwyo i ddymchwel rhwystrau cymdeithasol a chynnig cyfle i bobl gymdeithasu gyda phobl o wahanol gefndiroedd cymdeithasol a diwylliannol.
- Mae gwirfoddolwyr yn cefnogi pobl ddiamddiffyn yn y gymdeithas ac yn eu galluogi i fyw bywyd iach a gwerthfawr. Gallai hyn olygu cefnogaeth gyda phethau yr ydym yn eu cymryd yn ganiataol, megis cymorth ymarferol yn y cartref ar gyfer pobl anabl neu bobl hŷn, mentora ar gyfer rhywun sy’n gadael gofal a’u cynorthwyo i sefyll ar eu traed eu hunain fel oedolyn, neu gefnogi mam ifanc sy’n cael trafferthion darparu ar gyfer ei phlant.
- Gall sefydliadau gwirfoddol gynorthwyo i ddarparu cefnogaeth barhaus i bobl mewn angen pan fyddant yn gadael gwasanaethau cefnogi swyddogol ond nad ydynt yn barod i ymdopi ar eu pennau eu hunain, gan gynorthwyo i bontio’r bylchau mewn darpariaeth gwasanaeth ac o bosibl yn atal ail achos ac ail-atgyfeirio sy’n gallu digwydd gyda rhai pobl ddiamddiffyn.
- Mae ymchwil meddygol yn dangos y gall cefnogaeth gan wirfoddolwyr: leihau gorbryder ar gyfer cleifion sy’n wynebu gweithred feddygol; cynyddu amser goroesi cleifion hosbis; cynyddu cyfraddau bwydo o’r fron ac imiwneiddio plant; gwella presenoldeb clinigol a chymryd meddyginiaethau; cynyddu hunan-barch y cleifion gyda chyflyrau hir dymor.
- Mae gwirfoddolwyr yn hanfodol er mwyn cynorthwyo i leihau’r pwysau ar ofalwyr a’u cynorthwyo i barhau â’u dyletswyddau gofal yn effeithiol.
- Gall gwirfoddolwyr weithredu fel cyfryngwyr rhwng y darparwyr gwasanaeth ffurfiol a’r defnyddwyr gwasanaeth – gellir eu hystyried yn gyfoedion yn hytrach nag unigolion o awdurdod, ac mae’n debygol y bydd ganddynt fwy o amser i wrando a sgwrsio gyda’r unigolion y maent yn eu cefnogi.
- Nododd Adroddiad Hapusrwydd y Byd 2016 fod cefnogaeth gymdeithasol a haelioni yn benderfynyddion allweddol o les cenedlaethol (a chymunedol).
Y sefydliadau ymbarél ar gyfer y sector gwirfoddol ym Mwrdeistref Sirol Conwy a Sir Ddinbych yw Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych. Maent yn cynorthwyo i hyrwyddo, cefnogi, galluogi a datblygu sector gwirfoddol cynaliadwy yn yr ardal, drwy ddarparu cyngor ar godi arian, arfer gorau mewn gwirfoddoli, llywodraethu da, hyfforddiant a thrwy gynrychioli safbwyntiau’r sefydliadau trydydd sector i gyrff statudol. Er nad oes ystadegau manwl ar gael ar hyn o bryd ynglŷn â lefelau gwirfoddoli lleol, yn 2014/15 mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych wedi:
- lleoli 480 o wirfoddolwyr a darparu cyrsiau hyfforddiant ar gyfer bron i 950 o gyfranogwyr
- rerbyn ac ymateb i dros 16,500 o ymholiadau cyffredinol; derbyn ac ymateb i 1,120 o ymholiadau i gael cyngor am gyllid
- cynorthwyo grwpiau gwirfoddol lleol i dderbyn bron i £1.2m o gyllid; darparu bron i £350,200 o gyllid drwy grantiau a chynlluniau benthyca.
Mae mwy na 22 miliwn o bobl yn gwirfoddoli yn y DU o leiaf unwaith y flwyddyn. Mae hyn oddeutu dau o bob pum person 16 oed a hŷn. Mae oddeutu 14 miliwn o bobl yn gwirfoddoli o leiaf unwaith y mis am gyfartaledd o 11-12 awr y mis[iv].
Yn 2012/13, amcangyfrifodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod gwirfoddoli yn cyfrannu oddeutu £24biliwn i economi’r DU bob blwyddyn.
[i] https://www.ncvo.org.uk/practical-support/public-services
[ii] http://www.actionforhappiness.org/10-keys-to-happier-living
[iii] http://www.nhs.uk/Livewell/volunteering/Pages/Whyvolunteer.aspx
[iv] UK Civil Society Almanac 2016, Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol
Ers 2001, mae cyfraddau’r oedolion sy’n gwirfoddoli’n ffurfiol o leiaf unwaith yn y flwyddyn ddiwethaf yn parhau i fod o fewn pum pwynt canran o’i gilydd. Mae hyn yn awgrymu bod cyfraddau gwirfoddoli yn aros yn eithaf sefydlog.
Er bod lefelau diddordeb mewn gwirfoddoli mor uchel ag erioed ar hyn o bryd, mae cyllid ar gyfer gwirfoddoli yn wynebu cyfnodau anodd yn yr un modd â’r sector cyhoeddus. Mae gostyngiadau mewn gwasanaethau sector cyhoeddus hefyd wedi cynyddu’r ddibyniaeth ar y sector gwirfoddol i gynorthwyo i gefnogi pobl, cymunedau a seilwaith. Mewn nifer o achosion, nid yw’r galw ar gefnogaeth wirfoddol erioed wedi bod yn uwch. Mae technoleg newydd yn agor llwybrau mynediad newydd a chyfleoedd ar gyfer pobl er mwyn iddynt gymryd rhan, ond nid yw gwerth gwirfoddoli wyneb yn wyneb erioed wedi bod mor amlwg.
Mae’r heriau canlynol i ddyfodol gwirfoddoli wedi’u nodi gan Gyngor Cenedlaethol Sefydliadau Gwirfoddol[i].
- Sut y gallwn ategu ac atgyfnerthu’r seilwaith gwirfoddoli sy’n tanategu cymaint o’r gweithredoedd cymdeithasol sy’n cael eu cyflawni yn ein cymunedau?
- Sut y gallwn ddatblygu partneriaethau ystyrlon rhwng y mudiad gwirfoddoli a’r sectorau statudol a busnes, yn seiliedig ar yr egwyddor o gydgynhyrchu?
- Pa rôl sydd i wirfoddoli er mwyn darparu gwasanaethau cyhoeddus? Beth yw’r cyfleoedd a’r peryglon? Sut y gallwn ddiwygio’r amgylchedd comisiynu er mwyn iddo roi ystyriaeth briodol i’r cyfraniad y gall gwirfoddolwyr ei wneud?
- Pa gyfraniad y gall gwirfoddoli ei wneud i gynorthwyo cyflogadwyedd? Sut y gallwn ddiogelu uniondeb gwirfoddoli fel gweithred a roddir am ddim?
- Sut y gallwn gynyddu gwerth, effaith a chydnabyddiaeth rheoli gwirfoddolwyr?
- Sut y gallwn ail-lunio’r sector gwirfoddol i ystyried dyheadau a dymuniadau pobl ifanc?
- Sut y gallwn harneisio buddion technoleg ddigidol a chael gwell cyfuniad o weithredoedd cymdeithasol ar-lein ac wyneb yn wyneb?
Mae Llywodraeth San Steffan eisiau symud oddi wrth y rhagdybiaeth mai’r wladwriaeth yw darparwr diofyn y gwasanaethau. Felly mae’n debygol y bydd y sector gwirfoddol yn parhau i ehangu. Mae’r llywodraeth eisiau gweld:
- lefelau gwell o ddarpariaeth gwasanaeth gan y sector preifat a’r sector gwirfoddol.
- modelau darparu cymysg newydd – gan gynnwys deilliannau o’r sector cyhoeddus a mentrau cymdeithasol.
Fodd bynnag, nid yw’r sector gwirfoddol wedi’i ddiogelu rhag mesurau caledi llywodraeth y DU dros y chwe blynedd diwethaf – mae oddeutu traean o holl incwm y sector gwirfoddol a chymunedol yn dod gan y wladwriaeth. Mae Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol wedi nodi bod maint, cyflymder a gweithrediad y toriadau yn llym ar y sefydliadau gwirfoddol[ii]. Mae tystiolaeth nad yw’r toriadau yn cael eu cymhwyso’n gyson, yn gymesur nac yn strategol. Maent hefyd yn teimlo y gallai’r toriadau achosi mwy o gostau i’r economi yn hirdymor gan fod gan y sector rôl allweddol mewn perthynas â gwasanaethau ataliol.
[i] http://blogs.ncvo.org.uk/2014/05/29/top-seven-issues-facing-volunteering/
[ii] https://www.ncvo.org.uk/about-us/media-centre/briefings/220-the-charity-sector-and-public-services
Roedd pobl yn teimlo y gall gwirfoddoli fod yn ffordd o feithrin cysylltiadau rhwng y cenedlaethau wrth i bobl iau wirfoddoli i gefnogi pobl hŷn. Gallai hyn hefyd fod yn ffordd i bobl ifanc ennill profiad gwaith. Roedd pobl hefyd yn teimlo y gallai gwirfoddoli yn y gymuned ddod â phobl at ei gilydd a helpu i fynd i’r afael â materion fel sesiynau glanhau amgylcheddol a rheoli asedau diwylliannol lleol ayyb. Crybwyllwyd gwirfoddoli fel rhywbeth hollbwysig o ran mynd i’r afael â sawl agwedd ar ofal iechyd a chymdeithasol trigolion a bod angen rheoli recriwtio gwirfoddolwyr yn well yn y dyfodol.