- Beth sy’n digwydd rŵan…
- Sut mae hyn yn cymharu efo’r gorffennol…
- Beth rydym yn ei wybod neu’n ei ragweld ar gyfer y dyfodol...
- Beth mae pobl wedi ei ddweud….
Mae rheoli gwastraff yn elfen bwysig wrth geisio lleihau ein hôl-troed ecolegol. Er mwyn byw mewn Cymru gynhaliol lle mae digon o adnoddau, am bris fforddiadwy, i gynnal ein heconomi a ffordd o fyw mae’n rhaid i ni leihau faint o adnoddau’r byd yr ydym yn eu defnyddio. Amcangyfrifir bod gwastraff yn gyfrifol am oddeutu 15% o ôl-troed ecolegol y wlad[i].
Mae pryderon gwyddonol a llawer o ymwybyddiaeth cyhoeddus ar hyn o bryd ynghylch yr effaith y mae pecynnau plastig yn arbennig yn eu cael ar yr amgylchedd ac iechyd; mae gwaith ymchwil wedi nodi bod lefelau cynyddol o sbwriel plastig yn moroedd y byd.
Mae’r pryderon yn canolbwyntio’n arbennig ar faint y plastig tafladwy a gynhyrchir yn ein bywydau bob dydd, er enghraifft eitemau fel poteli diodydd, cwpanau tafladwy, gwellt plastig a ffyn cotwm, ac mae pob un o’r rhain yn cael eu taflu i ffwrdd yn aml.
Ynghyd â chynorthwyo i gadw adnoddau gwerthfawr, mae ailgylchu, ac ailddefnyddio a chompostio ein gwastraff yn gymorth i leihau cynhyrchiant methan ac allyriadau eraill sy’n deillio o sbwriel bioddiraddiadwy sy’n pydru. Mae gwastraff yn cyfrannu oddeutu 4.7% o allyriadau nwyon tŷ gwydr uniongyrchol yng Nghymru, sy’n cael effaith fawr ar newid hinsawdd.
Mae oddeutu 64,000 tunnell o wastraff trefol yn cael ei gynhyrchu ym Mwrdeistref Sirol Conwy bob blwyddyn, a 43,000 yn Sir Ddinbych. Ym Mwrdeistref Sirol Conwy roedd 62.6% o’r gwastraff yn cael ei ailddefnyddio, ei gompostio neu ei ailgylchu yn 2016/17 a’r ffigur ar gyfer Sir Ddinbych oedd 64.7%.
Mae cyfraddau ailgylchu Sir Ddinbych yn gydnaws â’r cyfartaledd cenedlaethol ar hyn o bryd, tra bo cyfradd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ychydig yn is na’r cyfartaledd, fodd bynnag, gan fod cyfraddau ailgylchu wedi gwella ar draws Cymru dros y degawd diwethaf, mae’r gwahaniaeth rhwng cyfraddau ailgylchu awdurdodau Cymru wedi culhau.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn darparu gwasanaeth ailgylchu wrth ymyl y ffordd ac mae’n casglu gwastraff bwyd, plastig, cardbord, cartonau, batris, papur, caniau a gwydr bob wythnos. Caiff gwastraff gerddi, tecstilau, teclynnau electroneg bach a sbwriel ei gasglu bob pythefnos. Mae’r Cyngor hefyd yn darparu dwy ganolfan ailgylchu deunyddiau’r cartref sy’n darparu cyfleusterau i ailgylchu amryw o eitemau eraill gan gynnwys dodrefn a bric-a-brac, gwastraff peryglus, olew, offer trydanol a rwbel adeiladu.
Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Ddinbych yn darparu gwasanaeth ailgylchu wrth ymyl y ffordd ac mae’n casglu gwastraff bwyd bob wythnos. Mae plastig, cardbord, cartonau, batris, papur, caniau a gwydr, gwastraff gerddi, tecstilau a sbwriel yn cael eu casglu bob pythefnos. Mae’r Cyngor hefyd yn darparu pump o barciau ailgylchu a gwastraff sy’n darparu cyfleusterau i ailgylchu amryw o eitemau eraill gan gynnwys dodrefn a bric-a-brac, gwastraff peryglus, olew ac offer trydanol.
Ar hyn o bryd mae Sir Ddinbych yn casglu deunyddiau ailgylchadwy cymysg ar y cyd tra bod Conwy wedi mabwysiadu dull didoli ar ymyl y ffordd. Fodd bynnag, mae Sir Ddinbych yn adolygu ei fodel gwasanaeth ailgylchu gyda’r nod o ailgylchu mwy o wastraff a lleihau costau gwaredu di-angen.
Er bod lleihau gwastraff a defnyddio adnoddau’n fwy effeithlon yn amcanion polisi sefydledig gan Lywodraeth Cymru, mae adroddiad diweddar gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol[ii], wedi canfod bod y system bresennol sy’n seiliedig ar y farchnad o ran rhwymedigaethau ailgylchu pecynnau i gwmnïau sy’n ymdrin â phecynnau (a chyrraedd trothwyon penodol), a sefydlwyd i gymell cwmnïau i ailgylchu pecynnau gwastraff, yn gallu arwain at allforio deunyddiau gwastraff i’w hailgylchu dramor. Oherwydd diffyg gwelededd a rheolaeth dros wastraff a werthir i’w ailgylchu dramor, y perygl yw nad yw’r holl wastraff yn cael ei ailgylchu o dan safonau cyfatebol i safonau’r DU, ac yn hytrach ei fod yn cael ei anfon i safleoedd tirlenwi neu’n cyfrannu at lygredd.
Mae adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn archwilio esgeulustod llywodraeth y DU o ran y system hon. Mae ei gwmpas yn cynnwys Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, sy’n gyfrifol am fonitro cynnydd cyffredinol yn erbyn targedau ailgylchu pecynnau ledled y DU.
Daw’r adroddiad i’r casgliad bod perygl i’r ‘system ymddangos fel pe bai wedi esblygu i fod yn ffordd gyfforddus i’r llywodraeth gyrraedd targedau heb wynebu’r materion ailgylchu sylfaenol.’ Argymhellir diwygio’r system bresennol ar gyfer ailgylchu pecynnau.
[i] Tuag at ddyfodol diwastraff; Cymru’n un, Cenedl Un Blaned, Llywodraeth Cymru
[ii] The packaging recycling obligations, National Audit Office, 2018
Mae cyfraddau ailddefnyddio/ailgylchu/compostio wedi gwella ers 2004/05, pan yr oeddent yn 20% ym Mwrdeistref Sirol Conwy a Sir Ddinbych. Mae angen buddsoddiad sylweddol i ddiwallu’r targed Ewropeaidd o 70% erbyn 2025[iii], yn enwedig ym Mwrdeistref Sirol Conwy.
Siart: Canran y gwastraff trefol sy’n cael ei ailddefnyddio / ailgylchu / compostio (diffiniad LART)
Ffynhonnell: StatsCymru
Rhwng 2004/05 a 2014/15 gostyngwyd cyfaint blynyddol y gwastraff trefol o oddeutu 22,000 tunnell ym Mwrdeistref Sirol Conwy (-27%) a 15,000 tunnell yn Sir Ddinbych (-25%). Y cyfartaledd ar gyfer Cymru gyfan oedd -20% ar gyfer yr un cyfnod.
[iii] Gwasanaethau Amgylcheddol a Thechnegol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Mae’r elusen amgylcheddol, WRAP (Rhaglen Weithredu’r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau) wedi nodi pedwar prif rwystr sydd angen eu goresgyn er mwyn gwella cyfraddau ailgylchu a lleihau gwastraff gweddilliol[iv]. Er bod rhywfaint o hyn yn ymwneud â gwella’r gwasanaethau y mae’r sector cyhoeddus yn eu darparu, mae’r prif heriau yn ymwneud â newid ymddygiad ac ymagwedd yn ein cymunedau.
- Rhwystrau sefyllfa, gan gynnwys cynwysyddion annigonol, diffyg lle, casgliadau annibynadwy, dim mynediad i safleoedd dod â gwastraff.
- Rhwystrau ymddygiad, gan gynnwys anhrefn aelwydydd, rhy brysur gyda phethau eraill, dim trefn aelwyd wedi’i sefydlu ac anghofio didoli’r gwastraff neu ei roi allan i’w gasglu.
- Rhwystrau gwybodaeth, megis ddim yn gwybod beth i’w roi ym mhob cynhwysydd, a deall mecanwaith sylfaenol sut y mae’r cynllun yn gweithio.
- Rhwystrau agwedd, megis peidio credu bod budd amgylcheddol, ei weld fel swydd i’r cyngor nid iddyn nhw, a pheidio derbyn gwobr neu gydnabyddiaeth bersonol am eu hymdrechion.
Mae dros 60 o sefydliadau, gan gynnwys cadwyni archfarchnadoedd a chynhyrchwyr bwyd mawr, wedi llofnodi Cytundeb Plastigion y DU gan WRAP[v], sy’n dod â busnesau o bob rhan o’r gadwyn gwerth plastigion a llywodraethau a sefydliadau anllywodraethol y DU at ei gilydd.
Nod y Cytundeb yw cyflawni’r targedau canlynol erbyn 2025:
- Bydd modd ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio 100% o becynnau plastig
- Bydd 70% o becynnau plastig yn cael eu hailgylchu neu eu compostio yn effeithiol
- Bydd camau yn cael eu cymryd i gael gwared ar becynnau tafladwy problemus neu ddi-angen trwy ail-ddylunio, arloesi neu trwy fodelau darparu amgen (ailddefnyddio)
- Bydd cyfartaledd o 30% o gynnwys wedi’i ailgylchu ar draws pecynnau plastig
Mae lleihau gwastraff yn gymhelliant gwleidyddol allweddol gan Lywodraeth Cymru a gyhoeddodd eu strategaeth ‘Dim Gwastraff’ ym mis Mehefin 2010 gyda’r nod o gynyddu ailgylchu i 70% erbyn 2025, ac yn gosod nod uchelgeisiol y bydd Cymru yn genedl ‘dim gwastraff’ erbyn 2050. Bydd ‘dim gwastraff’ yn cael ei gyflawni drwy waredu’r holl wastraff gweddilliol ac ailddefnyddio neu ailgylchu’r holl wastraff sy’n cael ei gynhyrchu.
[iv] http://www.wrap.org.uk/content/barriers-recycling-home
[v] http://www.wrap.org.uk/content/the-uk-plastics-pact
Mae pobl yn gefnogol o’r angen i ailgylchu ac ailddefnyddio gwastraff ond mae angen gwneud mwy gyda busnesau i fynd i’r afael ag achos sylfaenol y gwastraff. Yn benodol mae angen gwneud rhywbeth ynglŷn â’r holl ddeunydd pacio ayyb, yn enwedig deunydd na ellir ei ailgylchu.