Rydym yn gwybod bod dechrau iach mewn bywyd yn gallu effeithio ar iechyd rhywun yn y tymor hir. Oherwydd hyn, mae nifer uchel yr achosion o bwysau geni isel mewn rhai o’r ardaloedd mwy difreintiedig yn ardaloedd y ddau awdurdod lleol yn peri pryder. Mae beichiogrwydd yn yr arddegau, lle gwelsom y duedd yn gwella, yn parhau’n destun pryder oherwydd y cysylltiad â chanlyniadau iechyd gwaeth ar gyfer y fam a’r baban.
O blentyndod a thrwy gydol bywyd yr oedolyn, mae dewis personol a ffactorau mewn ffyrdd o fyw hefyd yn allweddol o ran iechyd. Rydym yn gweld lefelau uchel o ordewdra, defnyddio alcohol ac ysmygu sy’n gyffredin yn y byd gorllewinol. Mae tystiolaeth o niferoedd uchel o ganlyniadau gwael iawn ar gyfer disgwyliad oes mewn cymunedau daearyddol penodol ac ymysg pobl sydd o gefndiroedd penodol neu â nodweddion penodol er bod angen rhagor o waith i feithrin dealltwriaeth gadarnach o hyn. Mae rhagor o wybodaeth yn y Cyfeiriadur Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Gogledd Cymru ac ar dudalennau pwnc y wefan hon.
Rydym hefyd yn gwybod bod amgylchedd yr unigolyn yn chwarae rhan allweddol a bod iechyd gwael yn gysylltiedig â digartrefedd, llety o ansawdd gwael a thlodi tanwydd. Yn yr un modd, mae diweithdra a diogelwch personol yn effeithio ar iechyd corfforol a meddyliol yr unigolyn.
Mae arwahanrwydd cymdeithasol yn gallu lleihau annibyniaeth ac amharu ar iechyd meddwl yn benodol, a gall arwain hefyd at broblemau iechyd corfforol os na ellir cyrraedd gwasanaethau fel meddygon teulu, deintyddion a chyfleoedd ar gyfer cymdeithasu a hamdden egnïol. Mae pryderon penodol ynghylch arwahanrwydd cymdeithasol pobl hŷn ledled y ddwy Sir. Oherwydd natur wledig ardaloedd y ddau awdurdod lleol, ceir ardaloedd yn y ddwy Sir lle mae mynediad gwael at wasanaethau o safbwynt teithio a chludiant. Rydym hefyd yn gweld ardaloedd a grwpiau sydd â lefelau mynediad gwael at dechnoleg ddigidol a gall hyn gyfrannu at arwahanrwydd cymdeithasol hefyd.
Ceir poblogaethau mawr yng Nghonwy a Sir Ddinbych o bobl sy’n hŷn na 65 oed ac mae amcanestyniadau poblogaeth yn awgrymu y bydd twf sylweddol a pharhaus yn nifer y bobl hŷn a chanran y bobl hŷn ym mhoblogaeth y ddwy Sir. Mae’r cynnydd yn niferoedd y bobl hŷn yn debygol o arwain at gynnydd yn nifer y bobl sy’n profi problemau cysylltiedig ag oed, fel clefydau corfforol a synhwyraidd cronig, dementia a syrthio. Gall pob un o’r rhain gael effaith negyddol ar les cyffredinol yr unigolyn.
Rydym yn rhag-weld y bydd y cynnydd yn y galw am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau, yn ogystal â’r problemau o ran recriwtio i’r sectorau allweddol hyn.
Yn y cyd-destun hwn, mae angen ystyried hefyd yr anghenion am gymorth sydd gan ofalwyr. Mae data o’r Cyfrifiad yn dangos bod niferoedd mawr o bobl yng Nghonwy a Sir Ddinbych yn darparu gofal heb dâl a’i bod yn ymddangos bod y niferoedd yn fwy o lawer na’r hyn sy’n hysbys i ddarparwyr gwasanaethau iechyd a gofal.