Conwy and Denbighshire Public Services Board

Building better communities

  • Cymraeg
  • English

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych

  • Cartref
  • Amdanom ni
    • Rhaglen a Cofnodion
    • Newyddlen
    • Datganiad Hygyrchedd
    • Hygyrchedd
  • Asesiad o Les Lleol
  • Cynllun Lles Lleol (2023-2028)
    • Adroddiad Blynyddol
    • Cyngor Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
    • Addewidion Gwyrdd Cymunedol
  • Ein Partneriaid
  • Cysylltu â Ni

Lleihau nifer y bobl ifanc sy’n mudo allan a phobl ifanc fel asedau

[:cy]

  • Beth sy’n digwydd rŵan…
  • Sut mae hyn yn cymharu efo’r gorffennol…
  • Beth rydym yn ei wybod neu’n ei ragweld ar gyfer y dyfodol...
  • Beth mae pobl wedi ei ddweud….
  • Bylchau o ran gwybodaeth...

Mae cadw pobl ifanc yn ein hardal yn broblem fawr, gydag amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer Bwrdeistref Sirol Conwy yn dangos bwlch mawr yn y strwythur oedran rhwng oedrannau o gwmpas 18 o 45, a bwlch llai, er amlwg o hyd, yn Sir Ddinbych. Dyma’r grŵp oedran sy’n fwyaf tebygol o fod yn economaidd a chymdeithasol symudol, yn chwilio am waith, addysg a chyfleoedd cymdeithasol eraill tu allan i’r ardal. Mae’n rhaid i nifer o bobl ifanc adael yr ardal ar gyfer addysg uwch, ac er nad yw hynny’n broblem, mae methiant i’w hatynnu’n ôl i’r ardal ar ôl iddynt raddio yn arwain at anghydbwysedd rhwng cenedlaethau.

Mae amrywiaeth o resymau posib ar gyfer y patrwm hwn, ond fe nododd ymgynghoriad gyda myfyrwyr Prifysgol Bangor ddiffyg cyfleoedd cyflogaeth lleol fel un o’r materion allweddol. Gall diffyg tai addas a fforddiadwy hefyd fod yn ffactor fawr sy’n effeithio ar hyn hefyd. Ac wrth benderfynu ar le i setlo, mae pobl ifanc fel arfer yn chwilio am fwy na swydd yn unig; maent yn dymuno byw yn rhywle sy’n cyd-fynd â’u ffordd o fyw, boed yn fynediad i gyfleoedd diwylliannol (bywyd nos, neu weithgareddau awyr agored er enghraifft) neu wasanaethau a chefnogaeth sydd ar waith i’w helpu i ddechrau a magu teulu.

Mae Pyramidiau poblogaeth, a gynhyrchwyd o amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn, Swyddfa Ystadegau Gwladol  yn dangos bylchau strwythur oedran y boblogaeth rhwng 18 a 45 oed.  O edrych ar y pyramidiau hyn, gallwn weld yn amlwg nad yw’r boblogaeth yn cymryd ffurf pyramid traddodiadol, a fyddai’n dangos fod llawer o blant a phobl ifanc ar y ‘gwaelod’, gan gefnogi ‘brig’ mwy cul o bobl hŷn. Mae ein poblogaeth yn bendrwm iawn gyda grwpiau oedran hŷn, yn enwedig y sawl dros 55 oed. Er hynny, mae gyrwyr demograffig eraill wedi cael effaith ar yr anghydbwysedd hwn yn y boblogaeth (disgwyliad oes gwell, gostyngiad mewn ffrwythlondeb, ac effaith y genhedlaeth a aned ar ôl yr ail ryfel byd yn symud i grwpiau oedran hŷn), mae allfudiad pobl ifanc yn ddylanwad allweddol hefyd, ac yn un sy’n effeithio ar les economaidd yr ardal, yn ogystal ag ar ei ffurf gymdeithasol a ddiwylliannol.

Mae buddion i gynnal poblogaeth â chydbwysedd o ran oedran ar gyfer cymdeithas gyfan. Mae cyfnewid gwybodaeth a rennir, profiad a diwylliant rhwng cenedlaethau yn helpu i ffurfio cymuned gryf, fywiog, arloesol ac integredig – mae symud gyda’r cyfnod a throsglwyddo doethineb yn hanfodol ar gyfer magu gwydnwch cymdeithasol. Mae Cefnogaeth Gymunedol a swyddi gofal yn cael eu meithrin drwy integreiddio rhyng-cenedlaethau hefyd, nid yn unig o fewn teuluoedd, ond gyda chymdogion, ffrindiau a thrwy gwirfoddoli hefyd. Gall hyn fod yn broses ddwy ffordd, gyda phreswylwyr hŷn yn helpu gyda gofal plant a datblygiad, yn ogystal â phobl ifanc yn darparu gofal ffurfiol ac anffurfiol i breswylwyr hŷn. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein pwnc ‘Byw mewn unigedd a mynediad at wasanaethau.’

Ar gyfer gweithwyr a’r economi yn gyffredinol, mae recriwtio, cynnal a datblygu pobl ifanc o fewn y gweithlu yn helpu i fynd i’r afael â materion megis gweithlu’n heneiddio, bylchau a diffyg mewn sgiliau, datblygu talent, cynllunio ar gyfer olyniaeth a barn y cwsmer mewn marchnadoedd a phatrymau newydd.  I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein pwnc ‘Llewyrchus Llesiant.’

Mae’r grŵp oedran hwn wedi dod yn fwy symudol dros y blynyddoedd, felly mae maint ac effaith eu hallfudiad wedi cynyddu. Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae mudiad net cyfartalog yn y grŵp 15-29[1]:

  • wedi bod tua -300 y flwyddyn ym Mwrdeistref Sirol Conwy. Mae tua 1,850 o bobl yn y grwpiau oedran 15-29 yn gadael yr ardal bob blwyddyn, a 1,550 yn unig yn symud i mewn.
  • wedi bod tua -200 y flwyddyn yn Sir Ddinbych. Mae tua 1,650 o bobl yn y grwpiau oedran 15-29 yn gadael yr ardal bob blwyddyn, a 1,450 yn unig yn symud i mewn.

 

Ar yr un pryd, mae ymchwydd mewn mewnfudo yn y grwpiau cyn ymddeol (50 i 64 oed), sy’n creu anghydbwysedd pellach yn strwythur y boblogaeth. Yn y 10 mlynedd diwethaf, mae mudo net yn y grŵp oedran hwnnw wedi gweld cynnydd cyfartalog blynyddol o 350 person ym Mwrdeistref Sirol Conwy a 200 yn Sir Ddinbych. Mae cynnydd mewn mudo net yn y grŵp oedran 65-74 hefyd.

Er bod allfudiad pobl ifanc yn broblem benodol i Fwrdeistref Sirol Conwy a Sir Ddinbych, nid yw symudiad tuag at byramid poblogaeth pendrwm yn broblem leol yn unig. Mae cyfran oedolion ifanc yn y boblogaeth wedi dirywio ledled y byd datblygedig, dros y degawdau diwethaf. Roedd mewnfudo rhyngwladol – sy’n digwydd yn bennaf mewn grwpiau oedran iau, economaidd weithgar – wedi darparu ychydig o liniariad ar gyfer yr ardal yn y gorffennol diweddar, ond mae hyn hefyd wedi bod yn gostwng dros y blynyddoedd. Mae gostyngiadau mewn mudo economaidd rhyngwladol efallai o ganlyniad i Brexit, ond mae’n sicr yn arwydd o ostyngiad cyffredinol yn y nifer o oedolion ifanc yn y byd datblygedig.

Mae’r ffactorau gwthio/tynnu sy’n effeithio ar allfudiad pobl ifanc wedi dwysau hefyd, gyda gostyngiad yn argaeledd tai fforddiadwy (ar gyfer tai ar y farchnad a thai cymdeithasol), a chrynodiad parhaus o gyflogaeth a chyfleoedd addysg uwch mewn ardaloedd metropolitan mwy.

[1] Llif data mudo mewnol a chenedlaethol, Swyddfa Ystadegau Gwladol, (cyhoeddiad Mehefin 2020)

Mae allfudiad net oedolion ifanc yn cael effaith ganlyniadol ar yr holl strwythur poblogaeth. Yn ogystal â bod yn sail i boblogaeth oedran gweithio sy’n gyrru ein heconomi, maent yn bobl a fydd yn dod yn rieni hefyd. Mae llai o fabanod yn cael eu geni oherwydd mae cohort rhieniol ‘absennol’ yn golygu bod llai o oedolion ifanc yn y genhedlaeth nesaf, sy’n dod yn effaith gyfansawdd ar yr anghydbwysedd oedran yn y boblogaeth.

Os yw tueddiadau’r gorffennol yn parhau, rhagwelir erbyn 2039 y bydd y rhai dros 65 oed yn gwneud 33% o’r boblogaeth, lle bo’r sawl o dan 25 oed yn gwneud 23% o’r boblogaeth (ar hyn o bryd y rhai 65+ oed yn 23% o’r boblogaeth, a’r sawl o dan 25 oed = 27%)[1].

Er ei bod yn rhy gynnar ar hyn o bryd i wybod beth fydd effeithiau tymor hir pandemig Covid-19, gallwn ddyfalu efallai bydd newidiadau yn rhai o’r strwythurau cymdeithasol a’r ymddygiadau sy’n effeithio ar y mater hwn. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • efallai bydd newidiadau posib i’r ffordd bydd addysg uwch yn cael ei darparu yn effeithio ar lle mae pobl ifanc yn dewis byw
  • gall newidiadau mewn cyfleoedd ac arferion cyfleoedd olygu nad oes angen i rai swyddi gael eu lleoli mewn dinasoedd (er efallai nad cyflogaeth fydd yr unig ffactor tynnu).
  • yr effaith ar gostau tai os yw cyfleoedd gweithio o gartref yn annog adsefydlu o du allan i’r ardal (efallai bydd cynnydd yn y galw yn gyrru prisiau i gynyddu)

[1] Amcangyfrifon is-genedlaethol 2018 Llywodraeth Cymru, prif amcangyfrifon

Yn nhermau ein heconomi leol, mae pobl yn teimlo y dylai cefnogaeth addysg, hyfforddiant a chyflogadwyedd fod ar waith i bobl o bob lefel gweithgarwch economaidd, gan gynnwys pobl ifanc. Byddant yn dymuno gweld cyflogaeth mwy cynaliadwy (nid gwaith tymhorol yn unig), gan gynnwys gwahanol fathau o gyflogwyr preifat sydd wedi cael eu hatynnu i’r ardal. Maent yn dymuno gweld materion o ran recriwtio mewn rhai sectorau penodol yn cael eu taclo e.e. gofal cymdeithasol a lletygarwch, lle efallai bod cyfleoedd deniadol i bobl ifanc.

Trafodwyd Cymorth Tai i bobl ifanc yn drylwyr gan bobl; gyda sawl un yn teimlo bod llety i’w rentu yn gynyddol ddrud. Maent eisiau gweld mynediad gwell i dai fforddiadwy o safon, gan gynnwys tai cymdeithasol. Gallai ailddatblygiad eiddo gwag, gan gynnwys ailbwrpasu gofodau nad ydynt yn cael eu defnyddio mwyach (e.e. gofodau swyddfa, anheddau uwchben siopau) yn lle adeiladu cartrefi newydd fod yn gyfle. Gall hyn liniaru pryderon pobl bod y gofod rhwng trefi a phentrefi yn lleihau wrth i ddatblygiadau tai newydd gael eu hadeiladu.

Roeddent yn pryderu am gost cludiant cyhoeddus, ei hargaeledd a chysylltedd gyda llwybrau rhwng siroedd a llwybrau cenedlaethol. Prin iawn yw’r cymhelliad, os o gwbl, i ddefnyddio cludiant cyhoeddus oherwydd y gost uchel, amseroedd anghyfleus a diffyg llwybrau ledled y sir a chysylltiadau cenedlaethol gwael. Cafodd hyn ei nodi fel mater penodol ar gyfer pobl ifanc a phobl sy’n gweithio.

Mae pobl eisiau gweld rhagor o bobl ifanc wedi’u cynnwys yn y broses gwneud penderfyniadau. Mae pobl wedi dweud wrthym eu bod yn gwerthfawrogi asedau cymunedol megis siopau sy’n cael eu rhedeg gan y gymuned, ac maent eisiau annog pobl, gan gynnwys pobl ifanc i gymryd rhan yn eu cymunedau. Roeddent yn teimlo bod angen cyfleoedd hamdden a gweithgareddau mwy deniadol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, a bod angen buddsoddi ynddynt. Roedd dymuniad i gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc hefyd, sy’n cael ei ystyried i fod wedi gwaethygu yn dilyn mesurau cadw pellter cymdeithasol yn ystod pandemig Covid-19.

Conwy & Denbighshire Public Services Board © 2026

This website uses cookies to improve your experience. We'll assume you're ok with this, but you can opt-out if you wish. Cookie settingsACCEPT
Privacy & Cookies Policy

Privacy Overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these cookies, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may have an effect on your browsing experience.
Necessary
Always Enabled
Necessary cookies are absolutely essential for the website to function properly. This category only includes cookies that ensures basic functionalities and security features of the website. These cookies do not store any personal information.
Non-necessary
Any cookies that may not be particularly necessary for the website to function and is used specifically to collect user personal data via analytics, ads, other embedded contents are termed as non-necessary cookies. It is mandatory to procure user consent prior to running these cookies on your website.
SAVE & ACCEPT
Conwy & Denbighshire PSB
  • Cartref
  • Amdanom ni
    • Rhaglen a Cofnodion
    • Newyddlen
    • Datganiad Hygyrchedd
    • Hygyrchedd
  • Asesiad o Les Lleol
  • Cynllun Lles Lleol (2023-2028)
    • Adroddiad Blynyddol
    • Cyngor Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
    • Addewidion Gwyrdd Cymunedol
  • Ein Partneriaid
  • Cysylltu â Ni