Mae amgylcheddaeth wedi’i ystyried yn draddodiadol fel cymunedau ac unigolion yn gweithredu i amddiffyn y byd o’u cwmpas. Mae gan Les Amgylcheddol ddiffiniad ehangach ac mae’n cydnabod bod;
- Ein hamgylchedd a’n teimladau tuag ato yn gallu cael effaith enfawr ar sut yr ydym yn teimlo’n gyffredinol.
- Mae ein hamgylchedd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer gwella ein lles corfforol
- Mae Lles Amgylcheddol yn cynnwys amddiffyn unigolion a chymunedau rhag peryglon amgylcheddol.
- Mae Lles Amgylcheddol yn ymwneud â galluogi dewisiadau ffordd o fyw ac arferion busnes sy’n lleihau unrhyw effaith negyddol ymddygiad dynol ar yr amgylchedd
- Effaith yr amgylchedd adeiledig, yn enwedig tai, ar les.
- Asedau a Heriau Diwylliannol Presennol
- Newid Diwylliannol a Ddisgwylir: Cyfleoedd a Risgiau
- Testunau yn y Thema hon
Mae cynefinoedd a thirweddau amrywiol ar draws y ddwy sir yn cynrychioli asedau lles sylweddol. Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Pharc Cenedlaethol Eryri. Mae’r rhain yn amgylcheddau dymunol ac yn darparu cyfleoedd ar gyfer hamdden egnïol gan wella lles meddyliol a chorfforol. Mae’r siroedd yn cynnwys bioamrywiaeth a daear-amrywiaeth sylweddol gan gynnwys sawl safle o bwysigrwydd gwyddonol lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Mae gan Sir Ddinbych dreftadaeth naturiol gyfoethog a chynefinoedd amrywiol iawn gan gynnwys twyni tywod, gweundiroedd grug ac afonydd byrlymog. Mae Sir Ddinbych yn gartref i nifer o gynefinoedd a rhywogaethau arbennig ac a ddiogelir; dim ond yn yr ardal hon y gellir canfod rhai o’r rhywogaethau hyn. Mae rhywogaethau a warchodir a’u cynefinoedd yn cynnwys yr ystlum pedol lleiaf, dyfrgwn, madfallod dŵr cribog, llyffant y twyni, madfallod tywod. Mae rhai rhywogaethau arbennig yn cynnwys: grugiar ddu a’r fôr-wennol fechan.
Mae’r ddwy sir hefyd yn eithriadol o ran cyfoeth yr asedau treftadaeth lleol, y mae nifer ohonynt yn cyfrannu’n sylweddol at les economaidd a diwylliannol yr ardal. Mae’r rhain yn cynnwys Safleoedd Treftadaeth y Byd yng Nghastell Conwy a Muriau’r Dref, a chamlas Llangollen a thraphont ddŵr Pontcysyllte sy’n pontio’r ffin rhwng Sir Ddinbych a Wrecsam. Mae ymgysylltiad cyhoeddus yn arddangos y gwerth y mae pobl yn ei roi ar amgylchedd naturiol a hanesyddol, gyda llawer yn adrodd ymdeimlad o les a hunaniaeth sy’n gysylltiedig â’r ffactorau hyn.
Mae ymdeimlad o gyfrifoldeb personol ar gyfer yr amgylchedd yn bwysig gan y bydd yn newid ymddygiad person, er enghraifft efallai y byddant yn taflu llai o sbwriel drwy ailgylchu mwy, efallai y byddant yn siopa’n lleol, teithio mewn cludiant cyhoeddus, rhannu ceir neu gerdded mwy. Mae tystiolaeth o’n hymgysylltiad cyhoeddus drwy ‘Sgwrs y Sir’ yn dangos fod pobl ifanc yn benodol yn cydnabod bod angen i ni amddiffyn ein hamgylchedd a buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy.
Mae’r amgylchedd hefyd yn cynnwys yr amgylchedd adeiledig a thai. Mae tai yn benodol wedi’i amlygu yn ein gwaith ymgysylltu a rhannau eraill o’r asesiad fel ffactor allweddol sy’n effeithio ar les. Codwyd pryderon ynglŷn ag anghenion tai a digartrefedd ac argaeledd tai fforddiadwy.
Mae effaith newid hinsawdd yn cynyddu, a disgwylir iddynt waethygu’n sylweddol, oni bai y cymerir camau pellach i fynd i’r afael â’r risgiau presennol ac yn y dyfodol.
Mae Asesiad Risg Newid Hinsawdd y DU 2017 a gynhyrchwyd gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd ac a gyhoeddwyd yn 2016, wedi canfod bod hinsawdd y byd yn newid, yn bennaf oherwydd allyriadau nwyon tŷ gwydr o ganlyniad i weithgarwch dynol, gyda gaeafau mwynach a hafau poethach a chynnydd yn lefelau’r môr [1]. Mae digwyddiadau tywydd eithafol yn cael eu derbyn yn awr fel canlyniad newid hinsawdd a chynhesu byd-eang. Rydym wedi’n cynghori i baratoi ar gyfer cynhesu pellach tra’n gweithio i leihau allyriadau ar yr un pryd. Canfu’r asesiad fylchau mewn cynlluniau ac ymrwymiadau gwario i fynd i’r afael â pherygl llifogydd, i reoli adnoddau naturiol ac effaith newid hinsawdd ar iechyd a lles.
Mae ystyr hyn ar gyfer Cymru yn sylweddol. Mae’n debyg y byddwn yn profi cyfnodau o ormodedd neu ddim digon o ddŵr, cynnydd mewn tymereddau a chynnydd yn lefel y môr. Gallai gael effaith sylweddol ar ardaloedd arfordirol ac mae’r peryglon i seilwaith (rheilffyrdd, ffyrdd, tai) yn ddifrifol. Mae’r adroddiad hefyd yn dyfynnu peryglon penodol i adeiladau a thirweddau â gwerth diwylliannol oherwydd cyfuniad o dymereddau uwch a dwysedd glaw. Dywedodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ar gyfer Cymru fod yr adroddiad yn amlygu rhai cyfleoedd posibl y gall newid hinsawdd ei ddarparu, megis: “tymhorau tyfu hirach a chyfleoedd economaidd ar gyfer busnesau megis twristiaeth, ac rwyf eisiau i Gymru weithredu yn awr”.
Mae llifogydd eisoes yn peri risg difrifol i bobl, yr economi ac amgylchedd Conwy a Sir Ddinbych, ac mae’n debygol y bydd newidiadau yn ein hinsawdd, megis cynnydd yn nifrifoldeb stormydd a gaeafau gwlypach, yn cynyddu’r risg, ynghyd â chyfradd erydu arfordirol, yn y degawdau sydd i ddod [i]. Gall cymunedau y mae perygl iddynt ddioddef llifogydd ac erydu arfordirol ddisgwyl gweld y risgiau hynny’n cael eu gwireddu’n amlach a gweld cynnydd ym maint yr effaith y byddant yn ei gael.
Dywedodd Cadeirydd Is-Bwyllgor Addasu’r Pwyllgor ar Newid Hinsawdd fod y risgiau a amlygwyd yn yr adroddiad yn debyg ar gyfer holl genhedloedd y DU ond bod Cymru, gyda “seilwaith o ansawdd gwael” yn wynebu heriau penodol. Er enghraifft, oherwydd y stoc tai. [2]
Nid yw effaith y bleidlais ddiweddar i adael yr Undeb Ewropeaidd yn newid casgliadau cyffredinol yr asesiad risg. Fodd bynnag, mae’r CCC wedi nodi efallai y bydd rhai risgiau unigol yn newid os yw polisïau a deddfwriaethau’r UE yn cael eu tynnu’n ôl ac nad ydynt yn cael eu disodli gan fesurau cyfwerth neu well gan y DU. Bydd yr Is-Bwyllgor Addasu yn asesu goblygiadau refferendwm yr UE yn ei adroddiad statudol nesaf i Senedd y DU ar Raglen Addasu Cenedlaethol y DU, a gyhoeddir ym mis Mehefin 2017.
Mae’r bygythiadau ar gyfer bioamrywiaeth, oherwydd newid hinsawdd yn rhannol, yn ddifrifol. Mae un mewn 14 rhywogaeth yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu’n gyfan gwbl yn ôl y ffigurau a gasglwyd fel rhan o adroddiad Sefyllfa Byd Natur Cymru 2016. Mae pwysau a bygythiadau i natur yng Nghymru yn cynnwys:
- colli cynefinoedd a diraddiad, megis colli gorgors
- gwahanu ac ynysu cynefinoedd am sawl rheswm, megis datblygiad amhriodol
- cynnydd ym mhoblogaeth ddynol
- newid hinsawdd
- mewnbwn maeth gormodol a mathau eraill o lygredd
- gor-fanteisio a defnydd anghynaladwy, gan gynnwys pwysau amaethyddol.
- rhywogaethau goresgynnol, er enghraifft, rhododendron yn Eryri a rhywogaethau nad ydynt yn frodorol.
Gallai’r cynnydd mewn argaeledd gwasanaethau digidol gynorthwyo i ddatrys rhai o’r heriau amgylcheddol gan fod posibilrwydd iddynt leihau anghenraid teithio. Mae gan hyn y potensial i leddfu’r pwysau ar y seilwaith cludiant presennol a lleihau allyriadau carbon drwy ostwng y defnydd o danwyddau ffosil a’r cynnyrch tanwydd-cemegol a ddefnyddir i adeiladu a chynnal a chadw ffyrdd a seilwaith eraill.
Rhagwelir y bydd newid hinsawdd yn y DU gan gynnwys Conwy a Sir Ddinbych yn arwain at gynnydd yn lefelau’r môr, cynnydd mewn tymereddau cyfartalog a thymereddau eithafol ynghyd â chyfnodau o lifogydd a chyfnodau o sychder. Mae effeithiau newid hinsawdd yn creu nifer o risgiau amgylcheddol:
- Peryglon llifogydd a newidiadau arfordirol i gymunedau, busnesau a seilwaith.
- Peryglon ar gyfer iechyd, lles a chynhyrchiant oherwydd tymereddau uchel.
- Peryglon oherwydd diffyg yn y cyflenwad dŵr cyhoeddus, a dŵr ar gyfer amaethyddiaeth, cynhyrchu ynni a diwydiant, gydag effeithiau ar ecoleg dŵr croyw.
- Peryglon i gyfalaf natur, gan gynnwys ecosystemau daearol, arfordirol, morol a dŵr croyw, priddoedd a bioamrywiaeth.
- Peryglon i gynhyrchiant bwyd a masnach ddomestig a rhyngwladol.
- Peryglon plâu ac afiechydon newydd ac sy’n dod i’r amlwg, a rhywogaethau estron goresgynnol, sy’n effeithio ar bobl, planhigion ac anifeiliaid.
Mae ymrwymiadau presennol mewn arferion gwastraff ac ailgylchu wedi’u dylunio i gyfrannu at ostyngiad cyffredinol mewn allyriadau carbon ac allyriadau ‘tŷ gwydr’ eraill. Mae risgiau o ran darparu’r ymrwymiadau hyn oherwydd ansicrwydd ariannol. Gall lleihau cyllid y sector cyhoeddus ac ansicrwydd yn y farchnad ar gyfer deunydd eildro fod yn fygythiad i gynaliadwyedd y modelau darparu presennol.
Nid yw Conwy a Sir Ddinbych wedi’u diogelu rhag yr argyfwng tai cenedlaethol. Mae’r amodau dirwasgedig parhaus yn y diwydiant adeiladu yn golygu nad yw’r cyflenwad o dai newydd wedi dal i fyny â’r galw fel y rhagwelwyd yng Nghynlluniau Datblygu Lleol y ddwy sir. Mae ein gwaith ymgysylltu wedi tynnu sylw at bryder cyhoeddus cynyddol ynglŷn ag argaeledd tai fforddiadwy ac rydym yn dechrau gweld cynnydd yn y galw am gymorth tai.
[1] Adroddiad Tystiolaeth Asesiad Risg Newid Hinsawdd y DU https://www.theccc.org.uk/uk-climate-change-risk-assessment-2017
- Ased allweddol – diogelu’r amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth
- Ased allweddol – hyrwyddo ac amddiffyn treftadaeth leol
- Newid hinsawdd a lleihau allyriadau carbon
- Amddiffyn rhag llifogydd (gan gynnwys amddiffyn yr arfordir)
- Hyrwyddo ailgylchu a lleihau gwastraff
- Darparu tai, gan gynnwys tai fforddiadwy
- Gallu i gefnogi’r rhai ag anghenion tai
- Cynyddu dibyniaeth ar rentu yn y sector preifat
- Mynd i’r afael â thlodi tanwydd
- Cludiant a diogelwch ar y ffyrdd
- Twf technoleg newydd (gan gynnwys mynediad i’r rhyngrwyd a heriau cymdeithasol)