Mae’r ffigur am Werth Ychwanegol Gros y pen yn arwydd o’r bywiogrwydd economaidd cyffredinol mewn ardal. Yn ardal Conwy a Sir Ddinbych mae’r Gwerth Ychwanegol Gros y pen yn is na’r lefelau ar gyfer Cymru a’r DU ac mae’r bwlch rhyngddi a’r DU wedi cynyddu dros y blynyddoedd. Yn y pen draw, rydym yn disgwyl y bydd economi gryf yn arwain at greu aelwydydd ac unigolion llewyrchus ac y bydd hynny yn ei dro yn lleihau tlodi.
Mae’r ffigurau ddiweddaraf yn dangos ei bod yn bosibl bod yr adferiad hirddisgwyliedig mewn incymau ar ôl y dirwasgiad diweddar wedi dechrau ar lefel y DU, ond mae’r sefyllfa’n fwy ansicr ar lefel leol. Mae lefelau incwm yn ffactor allweddol yn y farchnad dai sy’n effeithio ar fforddiadwyedd tai yn lleol a hefyd ar y galw am eiddo newydd. Rydym wedi gweld gwendid yn y farchnad perchen-feddianwyr yn ddiweddar a mwy o ddibyniaeth ar lety rhent preifat.
Ceir sectorau cyhoeddus mawr yn ardaloedd y ddau awdurdod lleol sy’n chwarae rhan bwysig yn yr economi leol. Mae’r gostyngiad yng nghyllideb y sector cyhoeddus yn cynnig her a allai gael effaith negyddol ar lefelau cyflogaeth a’r galw am nwyddau a gwasanaethau. Yn benodol, mae’r sectorau Gofal Cymdeithasol ac Iechyd o dan bwysau mawr. Mae’r pwysau cynyddol ar recriwtio a’r heneiddio yng ngweithlu’r sector iechyd ynghyd â phryderon am weithrediad y marchnadoedd gofal cymdeithasol yn faterion sydd wedi’u codi yn yr asesiad. Mae Twristiaeth ac Amaethyddiaeth hefyd yn sectorau strategol bwysig yn y ddwy Sir.
Yn ystod y dirywiad economaidd diweddar, roedd diweithdra wedi cynyddu’n sylweddol yn ardaloedd y ddau awdurdod lleol. Fodd bynnag, mae’r data diweddaraf yn awgrymu bod y farchnad lafur yn ardaloedd y ddau awdurdod lleol yn dechrau ymadfer yn yr un modd â’r farchnad lafur ym Mhrydain. Er hynny, ceir lefelau cymharol uchel o ddiweithdra ymysg pobl ifanc ac allfudiad o bobl ifanc o’r ardal yng Nghonwy a Sir Ddinbych.
Yn ardaloedd y ddau awdurdod lleol mae tueddiadau o ran sgiliau ymysg y boblogaeth o oedran gweithio wedi gwella. Mae hyn yn cynnwys niferoedd cynyddol sydd â chymhwyster ar lefel NVQ4 neu’n uwch a gostyngiad yn y nifer sydd heb gymwysterau.
Rydym hefyd wedi gweld gwelliant mewn nifer o wahanol ddangosyddion cyrhaeddiad ac mae’r bylchau cyrhaeddiad hanesyddol yng Nghonwy a Sir Ddinbych wedi lleihau, rhyngddynt a’i gilydd a hefyd â Chymru. Er hynny, mae tystiolaeth o gymaryddion rhyngwladol yn awgrymu bod angen gwella’n sylweddol ar y lefelau presennol o berfformiad addysgol ar gyfer Cymru er mwyn cystadlu â’r goreuon ar lefel fyd-eang.
Nid yw Conwy na Sir Ddinbych yn gymunedau unffurf. Yn hytrach maent yn cynnwys amrywiaeth o gymunedau lle ceir amrywiadau sylweddol o ran incwm, addysg, cyfleoedd cyflogaeth a thai. Yn y cyd-destun amrywiol hwn ceir cymunedau yn ardaloedd y ddau awdurdod lleol lle mae llawer o amddifadedd lluosog, yn cynnwys rhannau o’r Rhyl a Dinbych Uchaf yn Sir Ddinbych, a rhannau o Bensarn, Bae Colwyn, Llandudno a Llysfaen yng Nghonwy.