Mae ardaloedd sydd â lefelau uchel o amddifadedd lluosog yng Nghonwy a Sir Ddinbych. Mae’r bobl sy’n byw yn yr ardaloedd hyn yn profi canlyniadau gwaeth na grwpiau eraill o ran cyflogaeth, incwm, iechyd, tai, diogelwch cymunedol, mynediad at wasanaethau a’r amgylchedd. Nid yw tlodi, a thlodi incwm yn benodol, yn gyfyngedig i’r ardaloedd hyn ac mae achosion o dlodi incwm a thlodi plant ar aelwydydd ar draws yr ardal.
Ceir pobl a theuluoedd hefyd sydd o dan anfantais am eu bod yn profi amrywiaeth o broblemau sydd, gyda’i gilydd, yn eu gwneud yn agored i niwed ac yn debygol o fod ag angen amrywiaeth o wasanaethau os na ellir lleihau problemau drwy ymyriadau ataliol.
Mae ymchwil ar lefel ardaloedd lleol ac ar lefel Cymru yn dangos bod bylchau o ran canlyniadau rhwng y rheini sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig penodol ac eraill mewn perthynas â chyrhaeddiad addysgol, cyfleoedd economaidd, diogelwch personol, iechyd, urddas mewn gofal, dewis ffyrdd iach o fyw a mynediad at wasanaethau.
Mae’r chwyldro digidol hefyd yn creu heriau gan fod tystiolaeth yn dangos bod lefel y defnydd o’r Rhyngrwyd yn is ymysg nifer o grwpiau ac mewn ardaloedd lleol penodol lle mae’r mynediad yn wael.
Mae data proffiliau ar gyfer y nodweddion gwarchodedig hynny y mae ffynonellau dibynadwy ar eu cyfer yn y siart isod.
Bylchau data
- Nid oes data ar gael am bobl drawsryweddol ar lefel awdurdodau unedol na lefel genedlaethol.
- Nid oes ffynhonnell ddata gynhwysfawr am anabledd. Mae Cyfrifiad 2011 yn darparu gwybodaeth am salwch hirdymor cyfyngol a gofalwyr nad ydynt yn cael eu talu ar lefel awdurdodau unedol. Mae cofrestr o bobl sydd â nam corfforol a/neu synhwyraidd a phobl ag anableddau dysgu sy’n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol, ond dim ond gwybodaeth am bobl sy’n defnyddio gwasanaethau’r Cyngor sydd ar y gofrestr hon.
- Yr unig ffynhonnell data am ymlyniadau crefyddol ar lefel yr awdurdodau unedol yw Cyfrifiad 2011.
- Y data mwyaf dibynadwy ar gyfer ffigurau ethnigrwydd y boblogaeth gyfan ar lefel yr awdurdodau unedol yw Cyfrifiad 2011. Mae ffigurau mwy diweddar ar gael ar lefel Cymru gyfan. Mae’r Cyfrifiad Ysgolion yn darparu data mwy diweddar am ethnigrwydd ar gyfer disgyblion ysgol yn unig.
- Yr unig ffigurau sydd ar gael am hunaniaeth genedlaethol ar gyfer awdurdodau unedol yw’r rheini o Gyfrifiad 2011.
- Mae Cyfrifiad 2011 yn darparu data manwl am y Gymraeg mewn perthynas â sgiliau iaith Gymraeg a dadansoddiad o siaradwyr Cymraeg ar sail oed, cenedligrwydd a lleoliad daearyddol. Mae’r Cyfrifiad Ysgolion hefyd yn darparu data am ddisgyblion sy’n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg ac am ddisgyblion yn yr holl ysgolion sy’n siarad Cymraeg.
- Mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn cynhyrchu ffigurau ar gyfer awdurdodau unedol ond, am fod maint y sampl yn gyfyngedig, nid ydynt yn cael eu hystyried yn ffynhonnell ddata ddibynadwy ar y lefel hon. Felly nid ydynt wedi’u cymeradwyo i’w defnyddio ar lefel awdurdodau unedol ac nid ydynt wedi’u cynnwys yn y tabl uchod. Mae’r ffigurau ar gyfer Cymru wedi’u cynnwys am eu bod yn cael eu hystyried yn ddibynadwy.