- Beth sy’n digwydd rŵan…
- Sut mae hyn yn cymharu efo’r gorffennol…
- Beth rydym yn ei wybod neu’n ei ragweld ar gyfer y dyfodol...
- Beth mae pobl wedi ei ddweud….
Mae graddiant cymdeithasol o ran tlodi tanwydd: po isaf eich incwm y mwyaf tebygol y byddwch mewn perygl o dlodi tanwydd ac mae’n cael effaith sylweddol ar iechyd, lles cymdeithasol ac economaidd pobl sy’n byw mewn cartrefi oer. Y rhai sydd fwyaf diamddiffyn i dlodi tanwydd a chartrefi oer yw pobl hŷn, rhieni sengl gyda phlant dibynnol, teuluoedd sy’n ddi-waith neu ar incwm isel, plant a phobl ifanc, pobl anabl, pobl â salwch a chyflyrau hirdymor, a phobl sengl sy’n ddi-waith[i]. Mae clefydau anadlol yn waeth ar gyfer pobl sy’n byw mewn cartrefi oer, ac mae’n gwaethygu cyflyrau iechyd cronig, ochr yn ochr â risg uwch o strôc a thrawiad ar y galon. Mae byw mewn tai oer hefyd yn cael effaith negyddol ar les emosiynol a meddyliol holl aelodau’r aelwyd (gan gynnwys pryderu am filiau ac iechyd) a gall gael effaith ar berfformiad plant yn yr ysgol.
Mae anghydraddoldebau iechyd a lles a achosir oherwydd bod pobl yn byw mewn tlodi tanwydd yn gallu arwain at fwy o ddibyniaeth ar wasanaethau cyhoeddus ar gyfer cefnogaeth iechyd a lles arall. Drwy leihau’r risg bod pobl yn byw mewn tlodi tanwydd yng Nghymru gallwn gynorthwyo i leihau’r effaith negyddol ar fywydau pobl a’r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus.
Ystyrir bod aelwydydd yn dioddef o dlodi tanwydd os ydynt yn gorfod gwario mwy na 10% o incwm yr aelwyd ar danwydd i gadw eu cartref mewn cyflwr ‘boddhaol’[1]. Amcangyfrifodd Llywodraeth Cymru bod 364,000 o aelwydydd yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd yn 2012, sef 29% o’r holl aelwydydd [ii].
Gwnaethpwyd gwaith modelu pellach gan Lywodraeth Cymru i gynhyrchu data amcangyfrifon o dlodi tanwydd ar lefel ardaloedd lleol ar gyfer 2015. Canfuwyd lefelau tlodi tanwydd yn yr ystod 22.5% i 23.5% yn Sir Ddinbych, ac yn yr ystod 23.5% – 24.5% yng Nghonwy, sy’n adlewyrchu’r amcangyfrif cenedlaethol cyffredinol o 24% yn 2015.
Mae amcangyfrif diweddaraf Llywodraeth Cymru (2016) yn nodi bod 291,000 o aelwydydd yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd, sy’n cyfateb i 23% o holl aelwydydd Cymru.
Er bod costau tanwydd wedi parhau i gynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, mae nifer yr aelwydydd sydd mewn tlodi tanwydd yn gostwng oherwydd y cynlluniau effeithlonrwydd ynni cenedlaethol a lleol, megis NEST ac ARBED, sydd wedi targedu aelwydydd mewn tlodi tanwydd yn y blynyddoedd diwethaf – yr amcangyfrif o’r gostyngiad ar draws Cymru yw oddeutu 73,000 o aelwydydd ers 2012[iii].
Amcangyfrifwyd bod lefelau tlodi tanwydd difrifol (a ddiffinnir fel unrhyw aelwyd sy’n gorfod gwario dros 20% o’i incwm ar ei gostau tanwydd), yn 3% (43,000 o aelwydydd) ledled Cymru yn 2016.
Mae ymchwil cenedlaethol gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol wedi dangos mai’r rhai y mae tlodi tanwydd yn effeithio arnynt fwyaf yw aelwydydd rhieni sengl[iv]. Yn 2016, gwelwyd bod 26.4% o’r rheiny yn y categori rhieni sengl mewn tlodi tanwydd, dros ddeg y cant pwynt yn uwch nag unrhyw gyfansoddiad aelwyd arall. Mae aelwydydd rhiant sengl yn ffurfio 5.5% o’r holl aelwydydd ym Mwrdeistref Sirol Conwy a 6.2% yn Sir Ddinbych. [v].
Y tri prif beth sy’n llywio tlodi tanwydd yw incwm, defnyddio ynni’n effeithlon a phrisiau ynni.
Gall tlodi tanwydd fod yn broblem benodol mewn ardaloedd gwledig, nad ydynt wedi’u cysylltu â’r brif rwydwaith nwy ac yn gorfod dibynnu ar danwydd solet neu gyflenwadau nwy/olew sy’n aml yn costio mwy na thrydan a nwy a dim ond mewn cyfansymiau mawr y gellir eu prynu, gan arwain at gostau mawr a delir ymlaen llaw.
Gall tai hŷn fod yn anoddach eu gwneud yn effeithlon o ran ynni hefyd gan y cawsant eu hadeiladu gan ddefnyddio dulliau a deunyddiau adeiladu nad ydynt yn hawdd eu haddasu ar gyfer safonau’r 21ain ganrif ar gyfer insiwleiddio a gosodiad gwres canolog. Mae eiddo wedi’i adeiladu â cherrig yn broblem penodol.
Gwelwyd cynnydd o £33 (5.6%) yn y bil trydan cyfartalog ar draws taliadau o bob math rhwng 2016 a 2017, gan adael cyfanswm bil cyfartalog o £619. Gwelwyd gostyngiad o £20 (3%) yn y bil nwy cyfartalog yn 2017 gan adael cyfanswm bil cyfartalog o £630.vi].
[1]Y diffiniad o ‘drefn wresogi foddhaol’ a argymhellir gan Sefydliad Iechyd y Byd yw 23⁰C yn yr ystafell fyw a 18⁰C mewn ystafelloedd eraill, a hynny am 16 o bob 24 awr I aelwydydd â phobl hŷn neu bobl ag anableddau neu salwch cronig a 21⁰C yn yrtsafell fyw a 18⁰C mewn ystafelloedd eraill am naw o bob 24 awr (neu 16 o bob 24 awr dros y penwythnos) I aelwydydd eraill
[i] Centre for Sustainable Energy (2013) Tackling Fuel Poverty
[ii] Strategaeth Tlodi Tanwydd 2010, Llywodraeth Cymru; Cynhyrchu Lefelau Amcanol o Dlodi Tanwydd yng Nghymru: 2012-2016, Llywodraeth Cymru
[iii] Cynllun tlodi tanwydd a arweinir gan alw yn y dyfodol i ddilyn Cartrefi Cynnes – Nyth, Llywodraeth Cymru, dogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru, Awst 2016
[iv] Cynhyrchu Amcangyfrifon o Lefelau Tlodi Tanwydd yng Nghymru: 2012-2016, Llywodraeth Cymru, Gorffennaf 2016
[v] Aelwydydd yn ôl Math a Blwyddyn 2016, StatsCymru
[vi] Biliau ynni domestig blynyddol, Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol
Siart: Indecsau prisiau tanwydd yn y sector domestig mewn gwirionedd (gan ystyried chwyddiant)
Ffynhonnell: Bwletin prisiau ynni chwarterol Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol
Mae prisiau nwy cyfanwerthu y DU wedi bod yn cynyddu ers dechrau’r 2000au, oherwydd y pwysau i gynyddu prisiau yn Ewrop a gostyngiad yn nghynhyrchiant nwy Sgafell Gyfandirol y DU, fodd bynnag mae prisiau nwy cyfanwerthu wedi gostwng eto ers dechrau 2014 ond yn 2017 gwelwyd cynnydd o 31 y cant mewn prisiau. Yn gyffredinol mae prisiau trydan wedi tueddu i gynyddu. Gan fod nwy yn rhan bwysig o gymysgedd cynhyrchiant y DU, ac hefyd o ganlyniad i brisiau glo uwch, mae prisiau trydan cyfanwerthu wedi bod yn codi o lefelau isel anghynaliadwy, a hefyd oherwydd Cynllun Masnachu Allyriadau yr UE a gyflwynwyd yn 2005.
Mae prisiau tanwydd hylif (olew gwresogi) fel arfer yn dilyn prisiau olew craidd. Ar wahân i ostyngiad amlwg yn 2009, rhwng 2003 a 2012 mae prisiau tanwydd hylif wedi cynyddu’n gadarn mewn termau real. Ers 2013 mae prisiau wedi gostwng yn enwedig rhwng 2014 a 2016. Yn 2017, gwelwyd cynnydd o 22 y cant mewn prisiau tanwydd hylif mewn termau real.
Mae mynd i’r afael â thlodi tanwydd yn flaenoriaeth datblygu gynaliadwy allweddol ar gyfer Llywodraeth Cymru gan ei bod yn canolbwyntio ar fater cymdeithasol allweddol drwy dargedu’r rhai sydd â’r anghenion mwyaf; yn ysgogi gweithgarwch economaidd drwy gynhyrchu cyfleoedd ar gyfer busnesau lleol ynghyd â chyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant; ac yn gwneud tai yn fwy effeithlon o ran ynni a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac yn cyfrannu at leihau ôl-troed ecolegol Cymru.
Dim adborth cymunedol.