- Beth sy’n digwydd rŵan…
- Sut mae hyn yn cymharu efo’r gorffennol…
- Beth rydym yn ei wybod neu’n ei ragweld ar gyfer y dyfodol...
- Beth mae pobl wedi ei ddweud….
- Bylchau mewn gwybodaeth...
Ar hyn o bryd nid yw’r DU wedi symud yn gyfangwbl i mewn i gyfnod adfer ar ôl Covid-19 ac mae plant, pobl ifanc a theuluoedd yn parhau i wynebu amhariadau o ran cael mynediad at wasanaethau arferol ac addysg o ganlyniad i’r pandemig. Er enghraifft nid ydym yn gwbl sicr beth fydd effaith hirdymor y pandemig ar iechyd a lles pobl, o ganlyniad i oedi mewn cael gwasanaethau datblygu iaith a lleferydd er enghraifft. Rydym wedi wynebu rhai heriau am nad oedd modd i arbenigwyr allweddol roi mewnbwn i’r broses hon hyd y pwynt yma am amryw o resymau. Mae hefyd yn bwysig cydnabod bod rhai dangosyddion ac ymchwil yn dangos amharu, oherwydd Covid-19 yn enwedig, sy’n gwneud cynllunio ar adeg o ansicrwydd yn arbennig o heriol. Byddwn yn adolygu ein dadansoddiadau i sicrhau eu bod yn adlewyrchu tueddiadau cyfredol a rhai’r dyfodol pan ac os daw mwy o wybodaeth ddibynadwy i law.
Ym mlynyddoedd cynnar bywyd plentyn y gosodir y conglfeini a fydd yn cynnal iechyd, lles, dysgu a pherthnasoedd plentyn yn y dyfodol. Wrth gael eu magu mewn amgylchedd saff a diogel lle maent yn cael eu diogelu a’u caru, mae plant yn prifio ac yn ffynnu. Cyn iddynt gael eu geni a thrwy eu plentyndod mae plant yn cael budd o gartref sefydlog a chadarnhaol, lle maent yn cael profiad o berthnasoedd iach a chefnogol sy’n eu galluogi i dyfu’n oedolion iach a hapus. Pan fydd plant yn cael magwraeth sy’n rhoi profiadau cadarnhaol iddynt, maent yn fwy tebygol o fynd ymlaen i fod yn rhieni a fydd yn rhoi’r un profiadau i’w plant eu hunain.
Mae 1,000 diwrnod cyntaf bywyd plentyn yn dechrau pan fydd y babi’n cael ei genhedlu ac mae’n parhau tan iddo gyrraedd ei ddwy oed a dyma pryd mae’r ymennydd yn datblygu fwyaf ac yn dysgu fwyaf ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn golygu y bydd y pethau y mae plentyn yn cael profiad ohonynt yn y cyfnod hwn yn effeithio arno gydol ei fywyd. Pan mae plant yn cael eu magu mewn amgylchedd diogel lle maent yn cael eu hannog a’u cefnogi, maent yn tyfu i fod yn oedolion gwydn sy’n gallu ymdopi’n dda â phethau sy’n digwydd iddynt yn hwyrach ymlaen yn eu bywydau.
Weithiau mae plant yn profi digwyddiadau trawmatig yn ystod eu plentyndod, er enghraifft, camdriniaeth eiriol, feddyliol, rhywiol a chorfforol, neu gael eu magu mewn cartref lle mae trais domestig neu gamddefnyddio cyffuriau ac alcohol yn digwydd, rhieni’n gwahanu neu riant yn y carchar. Gelwir y rhain yn Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod ac maent yn niweidiol i ddatblygiad ymennydd plentyn ac yn gallu achosi llawer o broblemau yn ddiweddarach yn ei fywyd, er enghraifft, iechyd gwael ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Rydym yn gwybod bod plant sy’n cael Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yn fwy tebygol o brofi iechyd corfforol neu feddyliol gwael, dioddef o glefydau niweidiol, peidio â gwneud yn dda yn yr ysgol a’i chael yn anodd meithrin perthnasoedd da yn hwyrach ymlaen yn eu bywydau.
Mae astudiaeth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) Cymru yn tynnu sylw at y gydberthynas rhwng profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a chanlyniadau gwael o ran lles pan yn oedolion. Mae’r astudiaeth yn dangos, o gymharu â’r rhai na gafodd unrhyw brofiadau niweidiol, bod pobl a gafodd bedwar profiad niweidiol neu fwy yn ystod eu plentyndod:
- bedair gwaith yn fwy tebygol o brofi yfed risg uchel fel oedolion;
- chwe gwaith yn fwy tebygol o fod yn ysmygwyr;
- pum gwaith yn fwy tebygol o gael lles meddyliol isel[1].
Cam iechyd allweddol – cenhedliad i enedigaeth (diwrnod 1 i ddiwrnod 280)
Mae’n hollbwysig bod merched yn iach ar ddechrau eu beichiogrwydd. Bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar ganlyniad y beichiogrwydd ar gyfer y fam a’r plentyn. Mae nifer o ffactorau iechyd mewn beichiogrwydd yn anodd mynd i’r afael â nhw unwaith y bydd beichiogrwydd wedi dechrau, mae’n fwy effeithiol derbyn cyngor a newid ymddygiad cyn cenhedlu. Mae’r materion yn cynnwys:
- cyngor ynglŷn ag ychwanegion fitamin D ac asid ffolig cyn cenhedlu ac am 12 wythnos gyntaf y beichiogrwydd i atal nam ar y tiwb nerfol.
- pwysigrwydd peidio ag ysmygu, yfed alcohol a chamddefnyddio sylweddau wrth geisio cenhedlu ac yn ystod beichiogrwydd. Mae ysmygu yn ystod beichiogrwydd yn dangos graddfa dosbarth cymdeithasol cryf, gyda mamau o grwpiau economaidd cymdeithasol is bum gwaith yn fwy tebygol o ysmygu drwy’r beichiogrwydd, mae hyn yn cyfrannu at anghydraddoldebau iechyd ymysg mamau a phlant. Mae risgiau ysmygu yn ystod beichiogrwydd yn cynnwys camesgoriad, marwolaeth amenedigol, cynamseroldeb, pwysau geni isel ac anomaleddau cynhenid yn y baban yn enwedig y galon, yr wyneb a’r breichiau a’r coesau[2].
- pwysau iach cyn dechrau beichiogrwydd Mae merched sy’n ordew fwy na dwywaith yn fwy tebygol o gael baban marw-anedig, ac mae’r risg yn cynyddu gyda mynegai màs y corff uwch. Mae babanod sy’n cael eu geni i famau gordew yn llai tebygol o gael eu bwydo o’r fron, yn fwy tebygol o gael anomaleddau cynhenid, yn enwedig nam i’r tiwb nerfol, ac yn fwy tebygol o fod angen eu derbyn i’r unedau newydd enedigol. Gall yr achosion o ordewdra fod yn rhyng-genhedlaeth, gan fod merched sy’n ordew yn ystod beichiogrwydd yn fwy tebygol o gael plant gordew.
- gwirio statws brechiad rwbela.
- cyngor ynglŷn â chyflyrau iechyd a genetig unigol; a chyngor cyffredinol ynglŷn â phryd a sut i gael cymorth cyn gynted ag y bydd beichiogrwydd yn dechrau.
Mae cyfraddau beichiogrwydd ymysg genethod yn eu harddegau’n gostwng ac wedi bod yn gostwng yn raddol ar draws Cymru a Lloegr ers peth amser. Mae’r rhesymau posibl am hyn yn cynnwys argaeledd dulliau atal cenhedlu hirdymor ac effeithiol dros ben a hefyd newid ym mhatrymau ymddygiad pobl ifanc gyda rhai yn mynd allan yn llai aml. Mae beichiogrwydd yn gallu bod yn ddewis bywyd cadarnhaol i lawer o bobl ifanc yn eu harddegau, ond os nad yw’r beichiogrwydd wedi’i gynllunio, mae’n gallu esgor ar ganlyniadau negyddol i iechyd y fam a’r babi. Teenage pregnancy is a risk factor contributing to low birth weight and many other poor long-term health and socio-economic outcomes for mother and baby. Mae mamau ifanc yn fwy tebygol o ddioddef iselder ôl-enedigol ac yn llai tebygol o gwblhau eu haddysg. Mae plant sy’n cael eu geni i rieni yn eu harddegau yn llai tebygol o gael eu bwydo ar y fron.
Ym mhob rhan o Ogledd Cymru mae cyfraddau beichiogiad ymysg marched yn eu harddegau wedi bod yn gostwng ers 2015. Yn 2019, yng Nghonwy y gyfradd genhedlu ymhlith merched rhwng 15-17 fesul 1,000 o ferched oedd 17.8, a’r gyfradd yn Sir Ddinbych oedd 23.5. Cyfartaledd Cymru oedd 17.3. Dros amser, ers 2011, bu gostyngiad yn y gyfradd o 34.2 (Conwy) a 36.6 (Sir Ddinbych). Fodd bynnag, dylid trin y ffigyrau hyn yn ofalus gan fod y niferoedd dan sylw yn isel iawn ar gyfer rhai awdurdodau lleol.
Mae pwysau geni isel, sef pan mae babi’n pwyso llai na 2,500g adeg ei eni, yn digwydd pan mae plentyn yn cael ei eni cyn ei amser neu oherwydd bod y plentyn wedi methu tyfu yn y groth (neu gyfuniad o’r ddau). Mae cysylltiad clir rhwng pwysau geni isel ac amddifadedd economaidd-gymdeithasol. Mae’r cysylltiad rhwng pwysau geni isel ac iechyd gwael ac amddifadedd mor gryf nes bod hyn weithiau yn cael ei ddefnyddio fel dull cyffredinol o fesur tlodi yn y gymuned. Y ffactor risg mwyaf yng nghyswllt pwysau geni isel yw dod i gysylltiad â mwg tybaco tra’n feichiog (oherwydd bod y fam yn ysmygu ac o ganlyniad i anadlu mwg ail-law). Mae risgiau eraill yn cynnwys camddefnyddio sylweddau ar ran y fam, diet, iechyd rhywiol a mynegai màs y corff isel.
Yn 2019, ganwyd 5.2% o fabanod â phwysau geni isel o dan 2500g yn Sir Ddinbych, a 5% yng Nghonwy. Y cyfartaledd ar gyfer Cymru oedd 5.9%.[3]
Cam iechyd allweddol – dwy flynedd bywyd (diwrnod 281 i ddiwrnod 1,000)
Y pryderon iechyd mawr yng nghyswllt dwy flynedd gyntaf bywyd yw bwydo ar y fron, imiwneiddio ac iechyd meddwl y fam.
Mae bwydo ar y fron yn diogelu iechyd mamau a babanod. Mae babanod sydd wedi cael eu bwydo ar y fron yn llai tebygol o orfod mynd i’r ysbyty oherwydd heintiau, ac yn fwy tebygol o dyfu â phwysau iach a heb alergeddau.
Rhwng 2019 a 2020, roedd 34.1% (618 o 1,814 o fabanod a anwyd yng Nghonwy a Sir Ddinbych), yn cael eu bwydo ar y fron yn gyfan gwbl am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu geni. Y cyfartaledd ar gyfer Cymru oedd 49%. Er bod nifer y babanod sy’n cael eu bwydo ar y fron yn unig ar ôl 10 diwrnod ar ôl genedigaeth wedi cynyddu ychydig ers y flwyddyn flaenorol, mae’r gyfran yn parhau i fod yn sylweddol is na’r cyfartaledd ledled Cymru.
Imiwneiddio – ymyriad sydd wedi cael ei brofi i reoli a dileu clefydau heintus sy’n gallu peryglu bywyd – yw un o’r ymyriadau iechyd mwyaf cost effeithiol. Mae’n un o’r prif ystyriaethau iechyd ym 1000 diwrnod cyntaf bywyd plentyn. Mae’r cyfraddau imiwneiddio ychydig yn isel yn yr ardal o’i gymharu â’r ffigur ar gyfer Cymru gyfan, ond, serch hynny, maent yn uwch na’r targed o 95% (y lefel y mae imiwneiddio yn gweithredu fel rhwystr effeithiol i’r clefyd).[4]
Yn 2020, roedd 88% o blant yng Nghonwy ac 89.4% o blant yn Sir Ddinbych wedi cael eu brechiadau arferol erbyn iddynt gyrraedd eu 4 oed, (y pigiad atgyfnerthu cyn ysgol pedwar mewn un ar gyfer difftheria, tetanws, pertussis [y pas] a pholio), pigiad atgyfnerthu ar gyfer Hib/men C a dwy ddos o MMR (y Frech Goch, clwy’r pennau a rwbela). Y cyfartaledd ar gyfer Cymru oedd 88%. Nid yw’r rhain yn sylweddol well na’r cyfraddau a gyflawnwyd rhwng 2016 a 2017 (87.6% ar gyfer Conwy ac 86.4% ar gyfer Sir Ddinbych. Y cyfartaledd ar gyfer Cymru oedd 84.6%).
Mae iechyd meddwl y fam yn effeithio ar y plentyn yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl hynny. Os bydd y fam yn teimlo dan straen neu’n bryderus yn ystod ei beichiogrwydd, mae’r plentyn yn fwy tebygol o fod yn bryderus[5] . Mae salwch meddwl yn effeithio ar y gallu i fagu plant mewn modd cadarnhaol ac mae hyn yn arbennig o bwysig yn nwy flynedd gyntaf bywyd y plentyn pan mae patrymau ymlyniad yn cael eu ffurfio a phan mae’r ymennydd yn datblygu gyflymaf.
Mae ffactorau tebyg i wrthdaro o fewn y teulu neu â phartner, allgau cymdeithasol, hunanhyder a hunan-dyb isel yn gallu effeithio ar allu rhieni yn eu harddegau i fagu plant. Mae’r ffactorau hyn yn gallu effeithio ar les meddyliol y person ifanc. Mae’r fam a’r tad yn gallu teimlo effeithiau bod yn rhieni yn eu harddegau.
Cam iechyd allweddol – tyfu i fyny (1,000 a thu hwnt)
Mae derbyniadau brys i’r ysbyty oherwydd anaf yn cael eu defnyddio fel dangosydd cyffredinol ar gyfer iechyd ac anghydraddoldeb iechyd. Anafiadau yw un o’r prif bethau sy’n achosi marwolaeth ac anabledd ymysg plant ac maent yn rhoi baich sylweddol ar unigolion, teuluoedd, gwasanaethau iechyd a’r gymdeithas ehangach. Mae plant yn y grŵp oedran 0-4 yn eithriadol o agored i anafiadau o fewn amgylchedd y cartref.
- Ym Mwrdeistref Sirol Conwy a Sir Ddinbych, 142 fesul 10,000 a 177 fesul 10,000, yn y drefn honno, yw nifer y derbyniadau brys i ysbytai oherwydd anafiadau yng nghyswllt plant rhwng 0 a 4 oed. Y cyfartaledd ar gyfer Cymru yw 171 ym mhob 10,000.[6]
Mae cysylltiad cryf rhwng amddifadedd a phydredd dannedd ymysg plant ifanc ac mae’n aml yn achosi poen a haint sy’n arwain at gyfnod mewn ysbyty ac at anaesthesia cyffredinol er mwyn tynnu dannedd. Ar ben yr anghysur sy’n cael ei achosi gan boen a haint, gall plant ifanc golli cwsg, colli ysgol a chael profiad o hunan-dyb isel..
Y data sydd ar gael ar gyfer pydredd dannedd yw data 2017 o hyd; ac ar yr adeg honno, roedd 1.2% o blant pump oed yng Nghonwy yn dioddef o bydredd dannedd, ac mae’r ganran yn codi i 1.5% yn Sir Ddinbych (yn Sir Ddinbych ac Ynys Môn y ceir y cyfraddau uchaf yng Ngogledd Cymru). Y cyfartaledd ar gyfer Cymru oedd 1.2%. [7]
Mae Dechrau’n deg – rhaglen gan Lywodraeth Cymru i leihau tlodi plant – wedi cael llwyddiant i sicrhau bod plant 0-4 i oed sy’n byw mewn ardaloedd o amddifadedd yn barod ar gyfer ysgol drwy gefnogi rhieni drwy wasanaeth ymwelydd iechyd dwys, gofal plant a rhaglenni rhianta. Yn 2017/18 roedd dros 1,000 o blant wedi elwa o wasanaethau Dechrau’n Deg ym Mwrdeistref Sirol Conwy a 700 yn Sir Ddinbych.[8]
Mae gwybodaeth ynglŷn â cham-drin domestig ar gael yn ‘Mynd i’r afael ag achosion o gam-drin domestig’.
Mae dioddef trosedd yn brofiad niweidiol mewn plentyndod ar gyfer unrhyw unigolyn ifanc sy’n gallu cael effaith hirdymor. Mae nifer y plant a’r bobl ifanc sy’n cael eu hadrodd fel dioddefwyr trosedd wedi cynyddu’n raddol flwyddyn ar ôl blwyddyn ar draws awdurdodau lleol Gogledd Cymru. Gall hyn fod o ganlyniad i nifer o resymau gan gynnwys cynnydd mewn gallu/ parodrwydd i adrodd; cynnydd yn nifer y troseddau a gyflawnir; cynnydd yn y mathau penodol o drosedd megis troseddau seiber.
Mae gwybodaeth ynglŷn â dod i gysylltiad â chamddefnyddio sylweddau ac alcohol yn ystod plentyndod ar gael yn ‘Mae pobl yn gwneud dewisiadau iach ar gyfer eu ffordd o fyw’.
Darparu addysg blynyddoedd cynnar ac addysg gynradd o ansawdd uchel
Dwy thema allweddol strategaeth blynyddoedd cynnar Llywodraeth Cymru yw darparu addysg gynnar a gofal plant o ansawdd uchel, a darparu addysg gynradd effeithiol.[9]
Diffinnir blynyddoedd cynnar gan Lywodraeth Cymru fel y cyfnod o fywyd o’r cyfnod cyn-geni hyd at ddiwedd y Cyfnod Sylfaen neu o 0 i 7 oed. Mae’r blynyddoedd hyn yn gyfnod pwysig iawn ar gyfer plant. Mae plant yn tyfu’n gyflym ac mae’r amgylchedd y maent ynddo yn effeithio ar eu datblygiad corfforol a meddyliol. Mae tair blynedd gyntaf bywyd yn bwysig iawn ar gyfer datblygiad iach oherwydd cyfradd gyflym y twf niwrolegol sy’n digwydd yn ystod y cyfnod hwn.
Mae darparu gofal plant priodol yn chwarae rhan allweddol i gyflawni amcanion Llywodraeth Cymru, yn enwedig yn ystod y blynyddoedd cyn-ysgol. Mae hefyd yn cynorthwyo rhieni, drwy ddarparu cyngor a chanllawiau, drwy ddangos sgiliau gofal plant ymarferol a thrwy gynnig cefnogaeth gofal plant sydd ei angen er mwyn caniatáu rhieni i dderbyn cyfleoedd gwaith.
Mae gan Awdurdodau Lleol gyfrifoldeb i sicrhau bod digon o ofal plant yn eu hardal leol i ddiwallu anghenion rhieni sy’n gweithio.
Mae ‘gofal plant digonol’ yn golygu gofal plant sy’n bodloni anghenion rhieni yn yr ardal sydd angen gofal plant fel eu bod yn gallu:
- dechrau neu barhau yn y Gwaith.
- ymgymryd ag addysg neu hyfforddiant a fydd yn eu helpu i gael Gwaith.
Yn Siroedd Conwy a Dinbych, cynhaliwyd Asesiadau Digonolrwydd Gofal Plant yn 2017 [10]. Mae’r Asesiadau Digonolrwydd Chwarae a Gofal Plant yn awr yn cael eu hadolygu’n llwyr (Mawrth 2022), a byddant yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2022. Byddwn yn ystyried casgliadau’r ddau asesiad ar ôl iddynt gael eu cyhoedd.
Mae lefelau cyrhaeddiad ysgol ar gyfer plant sydd wedi dioddef profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn tueddu i fod yn sylweddol is na chyfartaledd y boblogaeth. Nid yw data ar lefel leol yn ddigon cadarn yn ystadegol oherwydd y niferoedd bach dan sylw, ond ar lefel Cymru gyfan:
- mae oddeutu 54% o blant mewn angen yng Nghymru yn cyflawni dangosydd cyfnod sylfaen o gymharu â 87% o’r holl blant.
- mae oddeutu 55% o blant mewn angen yng Nghymru yn cyflawni dangosydd pwnc craidd yng Nghyfnod Allweddol 2 (11 oed) o gymharu â 88% o’r holl blant.
- mae oddeutu 13% o blant mewn angen yng Nghymru yn cyflawni dangosydd pwnc craidd yng Nghyfnod Allweddol 4 (15/16 oed) o gymharu â 55% o’r holl blant.
Gwella sgiliau rhianta
Fel arfer mae sgiliau rhianta yn sgiliau a ddysgir o’n profiadau ni ein hunain wrth i ni dyfu i fyny. Os yw’r elfennau craidd o fagu plant mewn amgylchedd diogel a chefnogol yn ddiffygiol y profiadau hyn, gall gael effaith andwyol ar blentyn wrth iddynt dyfu a bydd y gylched o rianta amhriodol yn parhau pan fydd y plentyn ei hun yn dod yn rhiant. Mae’r rhai sy’n darparu rhianta yn cynnwys mamau, tadau, gofalwyr maeth, rhieni mabwysiedig, llys rieni a neiniau a theidiau.
Mae angen darparu cefnogaeth i rianta er mwyn torri cylchedau rhianta amhriodol a datblygu hyder rhieni yn eu sgiliau i fagu eu plant mewn amgylchedd cadarnhaol a chefnogol. Gall darparu gwasanaethau a chefnogaeth wella perthnasoedd rhwng y rhieni a’r plant; gwella dealltwriaeth, ymddygiad ac agwedd a chynyddu hyder rhieni er mwyn hyrwyddo lles cymdeithasol, corfforol ac emosiynol y plant.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu mentrau sgiliau rhianta o dan yr agenda tlodi plant megis Teuluoedd yn Gyntaf, Dechrau’n Deg a Chymunedau yn Gyntaf. Tra bo Dechrau’n Deg a Chymunedau yn Gyntaf wedi canolbwyntio ar yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a bod cyfyngiadau eraill megis oedran ar gyfer Dechrau’n Deg, mae Teuluoedd yn Gyntaf wedi bod yn agored i unrhyw deulu sydd angen cefnogaeth gynnar i atal atgyfeirio at wasanaethau statudol.
Mae Dechrau’n Deg yn darparu cyrsiau rhianta i deuluoedd sy’n byw o fewn ardaloedd cod post sydd wedi’u pennu fel y rhai mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Niferoedd cynyddol o blant ag anableddau
Amcangyfrifir bod 11,500 o blant a phobl ifanc â salwch cyfyngus hirdymor yng Nghymru. Caiff hyn ei amcangyfrif drwy arolwg. Mae’n cynnwys y rhai hynny o dan 16 oed neu’r rhai hynny rhwng 16 ac 17 sy’n ddibynyddion. Rhagamcanir gostyngiad bach o rhwng 110-120 o blant ar draws y ddwy sir dros y cyfnod 10 mlynedd rhwng 2020 q 2040.
Rhwng 2020 a 2021, roedd gan 9.3% o holl ddysgwyr Bwrdeistref Sirol Conwy anghenion addysgol arbennig (yr ysgol yn gweithredu) yn codi I 12.7% gyda’r ysgol yn gweithredu a mwy (yr uchaf yng Nghymru) 8.9% ag anghenion addysgol arbennig gyda’r ysgol yn gweithredu yn codi I 1.2% gyda’r ysgol yn gweithredu a mwy.
Roedd gan 0.6% o ddysgwyr Bwrdeistref Sirol Conwy ac 1% o ddysgwyr Sir Ddinbych ddatganiad o anghenion addysgol arbennig, sy’n cymharu â 2% yng Nghymru (a 2.8% yn Wrecsam, yr uchaf yng Ngogledd Cymru, Conwy oedd yr isaf).
Mae magu plentyn anabl yn cael effaith sylweddol ar les y rhieni neu’r gwarcheidwaid yn ychwanegol at y gwasanaeth cyhoeddus a gwirfoddol sy’n darparu cefnogaeth iddynt. Cwmpesir hyn yn fanylach yn ‘Cefnogi gofalwyr.’
Plant ag anghenion gofal a chymorth
Mae Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru yn cynnwys data a dadansoddiadau am blant sydd ag anghenion gofal a chymorth. Mae’r niferoedd yn amrywio ar draws Gogledd Cymru a thros amser heb unrhyw dueddiad clir. Mae’r gyfran fwyaf o blant sydd angen gofal yn disgyn i’r amrediad oedran 5 -15. Mae’r materion pennaf sy’n effeithio ar y ddau grŵp yn debygol o amrywio. Er enghraifft i blant 0-5 mae’n bosib mai esgeulustod yw’r broblem fwyaf ond i blant yn eu harddegau fe allai eu hymddygiad fod yn symptom o bethau sy’n mynd ymlaen yn y cartref.
Y categorïau o angen mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal a chymorth yng Ngogledd Cymru yw:
- ychydig dros hanner o ganlyniad i gamdriniaeth neu esgeulustod (56.5%).
- y categori mwyaf wedyn yw anabledd neu salwch plentyn (17.2%), teulu camweithredol (11.1%) neu bwysau aciwt ar y teulu (8.3%).
- gellid atgyfeiro teuluoedd am fwy nag un rheswm felly mae’r rhestr hon yn adlewyrchu’r prif resymau a gofnodwyd.
Mae cyfran y plant sydd wedi cael pob imiwneiddiad y byddai disgwyl i blentyn o’u hoed fod wedi’i gael ac sy’n mynd at y deintydd yn rheolaidd yn is yng Ngogledd Cymru na’r cyfartaledd cenedlaethol. Mae canran y plant 10+ ag anawsterau iechyd meddwl yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol, 19% o gymharu â 14%. Mae gwiriadau gwyliadwriaeth cyfredol o iechyd plant ychydig bach dros gyfartaledd Cymru. Mae cyfran y plant ag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistiaeth yn uwch yng Ngogledd Cymri, sef 16% o gymharu â 12% ar gyfer Cymru.
Casglwyd data hefyd ar gyfer canran y plant 10+ a chanddynt broblemau camddefnyddio sylweddau. Cafodd hwn ei atal fel rhan o’r data a ryddhawyd ar gyfer Wrecsam oherwydd bod y niferoedd bach yn golygu y byddai modd adnabod y rhai dan sylw. Y cyfartaledd ar gyfer Cymru oedd 7%. Roedd cyfrannau’n amrywio o 12% yn Sir y Fflint i 3% yng Nghonwy.
Mae nifer y plant sy’n derbyn gofal yng Ngogledd Cymru wedi codi 350 rhwng 2017 to 2021. Mae gan Ogledd Cymru nifer is o blant sy’n derbyn gofal fesul 100,000 o’r boblogaeth na gweddill Cymru, fodd bynnag mae amrywiadau arwyddocaol ar draws y rhanbarth, o 795 yn Sir y Fflint i 1,304 yn Wrecsam. Yn 2021 y niferoedd ym Mwrdeistref Sirol Conwy oedd 1,015 a 923 yn Sir Ddinbych yn 2021.
Roedd tua 945 o blant yn mewn gofal maeth yng Ngogledd Cymru yn 2020. Mae’r niferoedd wedi cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn ers 2015. Mae’r cynnydd hwn hefyd yn digwydd yn genedlaethol, gyda niferoedd wedi codi ar draws Cymru gyfan. Mae niferoedd ym Mwrdeistref Sirol Conwy a Sir Ddinbych wedi amrywio ac nid oes unrhyw dueddiad amlwg i’w weld. I gael rhagor o wybodaeth gweler yr Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru llawn yma.
Mae bwlch mawr rhwng cyrhaeddiad addysgol disgyblion sy’n derbyn gofal a phob disgybl yng Nghymru ac mae’r bwlch hwn wedi cynyddu dros amser. Ar 31 Mawrth 2019, roedd cyfran y disgyblion Cyfnod Allweddol 2 a oedd yn derbyn gofal a gafodd y canlyniadau disgwyliedig 18 pwynt canran yn is o gymharu â phob disgybl, roedd hyn wedi cynyddu i fwlch o 27% yng Nghyfnod Allweddol 3 a 37% yng Nghyfnod Allweddol 4.
Mae plant sy’n derbyn gofal hefyd yn fwy tebygol o adrodd materion lles. Nid oes digon o ddata penodol i Gymru ar faterion iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc sydd, neu sydd wedi derbyn gofal. Fodd bynnag mae dadansoddiad o blant Prydain rhwng 5 – 7 oed yn dangos bod plant sy’n derbyn gofal dros bum gwaith yn fwy o gael diagnosis o anhwylder iechyd meddwl o gymharu â phlant heb fod dan anfantais. Mae cyfraddau anhwylderau ymddygiad ymysg pobl ifanc sy’n derbyn gofal yn arbennig o uchel, sef bron dwy ran o bump (39%). [11]
Mae’r rhesymau pam bod pobl ifanc yn dod yn rhai sy’n derbyn gofal yn gymhleth: mae’r berthynas rhwng eu profiadau cyn ac yn ystod gofal, a’u canlyniadau lles dilynol, hefyd yn gymhleth. Mae’r llenyddiaeth yn awgrymu bod iechyd meddwl a chanlyniadau lles gwaeth ar gyfer pobl ifanc sydd, neu sydd wedi bod mewn gofal, yn gallu bod yn seiliedig ar brofiadau’r gorffennol o gamdriniaeth, esgeulustod neu berthnasoedd teuluol, yn ogystal â thrawma posibl cysylltiedig â’r broses o gael eu cymryd i ofal a rhai profiadau yn ystod eu hamser mewn gofal, megis symudiadau aml neu fyr-rybudd rhwng gwahanol leoliadau. [12]
Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant
Diffinnir cam-fanteisio’n rhywiol ar blant fel ‘gorfodi neu ddenu plentyn neu unigolyn ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol’. Efallai na fyddant o reidrwydd yn cynnwys lefel uchel o drais ac efallai na fydd y plentyn yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd. Gall y gweithgareddau gynnwys cyswllt corfforol, fel ymosodiad drwy dreiddiad neu weithredoedd nad ydynt yn dreiddiol. Gallant hefyd gynnwys gweithgareddau digyswllt, er enghraifft:
- cynnwys plant wrth edrych ar, neu wrth gynhyrchu, delweddau rhywiol
- cynnwys plant wrth wylio gweithgareddau rhywiol
- annog plant i ymddwyn mewn ffyrdd rhywiol amhriodol
- meithrin perthynas amhriodol â phlentyn i baratoi ar gyfer cam-drin (gan gynnwys dros y rhyngrwyd)
Mae’n drosedd gymhleth sydd wedi’i chuddio i raddau helaeth. Mae cyflawnwyr fel arfer yn gweithredu ar eu pen eu hunain, neu mewn grwpiau agos iawn, ac nid yw’r dioddefwyr o reidrwydd yn gweld eu hunain fel dioddefwyr ar adeg y trosedd. Nid dynion sy’n oedolion yn unig sy’n cyflawni achosion o gam-drin rhywiol. Gall merched hefyd gyflawni gweithredoedd o gam-drin rhywiol, yn ogystal â phlant eraill.
Y dioddefwyr yn bennaf yw merched rhwng 14 a 17 oed. Mae cyfran fawr o ddioddefwyr hysbys wedi bod yn dyst i achosion o gam-drin domestig hirfaith ac mae llawer wedi dioddef trais domestig eu hunain. Gwyddys nad adroddir am gam-fanteisio’n rhywiol ar blant yn ddigonol, ac felly mae digwyddiadau’n debygol o fod yn sylweddol uwch nag y mae ffigurau troseddau a gofnodwyd yn awgrymu. Mae dros hanner y dioddefwyr hysbys wedi bod yn rhan o un trosedd rhywiol o leiaf yn flaenorol. Mae cydberthynas rhwng caledi ariannol a dod yn ddioddefwr achosion o gam-fanteisio’n rhywiol. Mae’n hysbys bod ffactorau cymdeithasol a demograffig cymhleth yn cyfuno ac yn cynyddu bregusrwydd. Mae cam-drin plant yn rhywiol yn gymharol unigryw gan fod yr ymddygiad troseddol wedi bodoli erioed ond efallai na chafodd ei gydnabod felly. Mae’r gydnabyddiaeth hon wedi cyd-daro â nifer o ffactorau galluogi sydd wedi cynyddu gallu troseddwyr i gyflawni troseddau yn fawr.
Cytunodd yr holl asiantaethau sy’n ymwneud ag amddiffyn plant y bu cynnydd mewn achosion o gam-fanteisio’n rhywiol ar blant ar-lein ac all-lein dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae hyn yn rhannol oherwydd gwell ymwybyddiaeth, ond mae asesiad yn dangos ei bod yn debygol iawn bod cynnydd gwirioneddol mewn troseddu.
Mae’r twf parhaus yn argaeledd a fforddiadwyedd technolegau a alluogir ar y rhyngrwyd, fel ffonau clyfar a thabledi yn alluogwyr hanfodol, ynghyd â’r cynnydd mewn hygyrchedd at gyfryngau cymdeithasol. Mae’r cynnydd cenedlaethol mewn delweddau anweddus a hunangynhyrchir yn dangos y llinell niwlog rhwng yr hyn a allai fod wedi’i ystyried yn flaenorol yn ymddygiad rhywiol niweidiol a cham-drin plant yn rhywiol. Mae’r ffiniau rhwng rhyngweithio cymdeithasol a chyfathrebu yn aneglur yn y gofod ar-lein ac mae gweithgareddau fel meithrin perthynas amhriodol yn cynyddu o ran cwmpas a graddfa drwy hygyrchedd ar-lein i ddioddefwyr. Nododd Swyddfa’r Comisiynydd Plant yn 2012 fod “…defnyddio technoleg symudol a systemau negeseuon yn arwyddocaol o ran hwyluso, ysgogi, cynnal ac ymgysylltu â chyflawnwyr camdriniaeth.”[13] Yn seiliedig ar ddadansoddiad lleol, gwyddom fod y dyfarniad hwn yn gywir ar gyfer Gogledd Cymru.
Canfyddiad ymarferwyr diogelu yw bod plant yn cael mynediad at ddyfeisiau clyfar yn iau, sy’n golygu y gall carfan iau o blant fod yn weithredol ac yn hygyrch ar-lein.
Mae dadansoddiad yr heddlu o droseddau all-lein (y rhai sy’n digwydd mewn lleoliad go iawn) yn dangos bod hanner yn gysylltiedig â mannau cyhoeddus, megis ar y stryd, tafarndai, gwestai, ysgolion, mewn ceir ac mewn parciau. Mae cyfran sylweddol o’r troseddau sy’n weddill yn digwydd o fewn annedd. Nid oes tystiolaeth o ddiwylliant gangiau stryd camfanteisio’n rhywiol ar blant yng Ngogledd Cymru, er bod is-ddiwylliannau peryglus o fewn ysgolion a gweithgareddau ieuenctid eraill yn peri risg. Mae mwyafrif y troseddwyr yn ddynion unigol nad ydynt yn dangos unrhyw dystiolaeth o fod yn rhan o sefydliad neu gyfranogiad eraill.
Mae’r niwed a achosir i blant gan gam-fanteisio rhywiol yn eang iawn, o’r effaith gorfforol a seicolegol i effeithiau llai cydnabyddedig dibyniaeth ar alcohol a sylweddau yn dilyn achos o gam-drin. Mae bregusrwydd dioddefwyr yn cynyddu’n sylweddol pan fydd problemau iechyd meddwl yn bresennol.
Yn aml mae gan ddioddefwyr cam-fanteisio’n rhywiol ar blant wendid sy’n bodoli eisoes sydd, mewn llawer o achosion, eisoes wedi’i nodi gan un neu fwy o asiantaethau. Mae’r gwaith llenyddol presennol yn cyfeirio’n gyson at blant mewn gofal fel rhai sy’n benodol o ddiamddiffyn (Pearce and Pitts, 2011, Pearce 2009, Creegan 2005, Scott and Skidmore 2006, Coy 2008, Brodie et al, 2011). Mae amcangyfrifon cenedlaethol o ddioddefwyr sydd hefyd yn blant mewn gofal yn amrywio rhwng 20% a 35%. O gyflwyniadau i’r Ymchwiliad Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant mewn Gangiau a Grwpiau – a ddarparodd ddata’n benodol ar statws gofal plant unigol – nodwyd bod 21% o blant y cam-fanteisiwyd yn rhywiol arnynt yn y system ofal.
Cyfryngau cymdeithasol
I lawer o bobl, gan gynnwys rhai plant, mae’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol fel Facebook, Instagram, Twitter, Whatsapp a Snapchat wedi dod yn fodd o ryngweithio a chysylltu cymdeithasol. Ar gyfer pobl ifanc ac oedolion, mae hefyd yn cael ei ddefnyddio fwyfwy fel modd o gael gafael ar newyddion a gwybodaeth, ar gyfer siopa ac fel cymorth i wneud penderfyniadau.
Mae tystiolaeth am effaith cyfryngau cymdeithasol, a all fod yn gadarnhaol a negyddol wedi’i wrthdaro. Mae effeithiau cadarnhaol yn gysylltiedig â chyfeillgarwch a chysylltedd, cefnogaeth a gwybodaeth, ond mae pryderon hefyd ynghylch cam-fanteisio, hunan-effaith, seibr-fwlio a’r effeithiau ar les personol.[14]
Yn ddiweddar, mae camwybodaeth neu ‘newyddion ffug’ a chyfryngau cymdeithasol wedi cyflwyno heriau difrifol i lywodraethau, busnesau a phobl eu hunain. Mae enghreifftiau yn cynnwys ymgyrchoedd gwrth frechlyn, ymyrraeth etholiadol, ymgyrchoedd ‘Covid yn dwyll’. Mae newyddion ffug wedi’i ddylunio i danseilio ymddiriedaeth a hyder mewn democratiaeth a sefydliadau cyhoeddus. Mae Sefydliad Iechyd Y Byd wedi dechrau cyfeirio at hyn fel ‘gwybodemig’, ble mae yna ormod o wybodaeth gan gynnwys gwybodaeth anwir neu gamarweiniol mewn amgylchedd digidol a chorfforol yn ystod achos clefyd.” Mewn perthynas â’r pandemig Covid-19, mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi datblygu canllawiau i sicrhau ‘rheolaeth gwybodemig’ llwyddiannus, sy’n cynnwys sicrhau bod gwybodaeth gyson a ffeithiol yn cael eu dosbarthu’n briodol[15]. Nid oes gennym dystiolaeth ar hyn o bryd i ddeall i ba raddau mae camwybodaeth yn achosi gorbryder i bobl neu’n effeithio ar y nifer sy’n derbyn Brechlyn Covid-19 er enghraifft. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein pwnc ‘Bygythiadau i iechyd a lles sy’n dod i’r amlwg.’
Efallai y bydd yn haws deall y testun hwn yn y tymor canolig.
[1] Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (2021). Briff Llesiant a Chydraddoldeb.
[2] Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus 2011
[3] Pwysau geni isel, canran pwysau geni o dan 2500g, Wales, BIP Betsi Cadwaladr a’r awdurdodau unedol, 2015 to 2019 Ffynhonnel Arsyllfa ICC PHOF ac Ystadegau Cymru (LlC).
[4] Iechyd Cyhoeddus Cymru, Fframwaith Deilliannau Iechyd Cyhoeddus 20 Mehefin 2018
[5] O’Connor TG, Heron J, Golding J, Beveridge M, Glover (2002) Maternal antenatal anxiety and behavioural problems in early childhood Brit J Psychiatry 180, 502-508
[6] Iechyd Cyhoeddus Cymru, Fframwaith Deilliannau Iechyd Cyhoeddus 20 Mehefin 2018
[7] Iechyd Cyhoeddus Cymru, Fframwaith Deilliannau Iechyd Cyhoeddus 20 Mehefin 2018
[8]Ystadegau Cryno Dechrau’n Deg 2017/18, Llywodraeth Cymru
[9] Adeiladu Dyfodol Mwy Disglair: cynllun blynyddoedd cynnar a gofal plant Llywodraeth Cymru
[10] Asesiad Digonoldrwydd Gofal Plant Sir Ddinbych, Asesiad Digonoldeb Gofal Plant Conwy
[11] Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (2021). Briff Llesiant a Chydraddoldeb.
[12] Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (2021). Briff Llesiant a Chydraddoldeb.
[13] Swyddfa’r Comisiynydd Plant: Briff ar gyfer y Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS, Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg, ar ganfyddiadau ymchwiliad y Comisiynydd Plant i Gamfanteisio’n Rhywiol ar Blant mewn Gangiau a Grwpiau, gyda ffocws arbennig ar blant mewn gofal, Gorffennaf 2012
[14] Canofan Polisi Cyhoeddus Cymru (2021). Briff Llesiant a Chydraddoldeb
[15] https://www.who.int/health-topics/infodemic#tab=tab_1. Cafwyd 26 Gorffennaf 2020
Mae cyfraddau cenhedliad ymhleth genethod yn eu harddegau, er yn uwch na chyfartaledd Cymru ar hyn o bryd, wedi gostwng yn arwyddocaol dros yr 20 mlynedd diwethaf.
Nid yw nifer a chanran y genedigaethau isel wedi amrywio fawr ddim dros y deng mlynedd diwethaf ym Mwrdeistrefi Sirol Conwy. Mae niferoedd yn Sir Ddinbych ychydig yn fwy newidiol ond yn awgrymu bod gwelliant yn digwydd.
Mae cyfraddau imiwneiddio a oedd wedi bod ar i fyny ers peth amser wedi gostwng dros y blynyddoedd diweddar. Mae’r gyfradd ar gyfer yr imiwneiddiad 5 mewn 1 sylfaenol (erbyn 1 oed) wedi disgyn ychydig ers 2013/14 (o 96.8% i 96% ) ym Mwrdeistref Sirol Conwy ac o 96.6% i 96% yn Sir Ddinbych.
Mae sylfaen dystiolaeth gref o ran pwysigrwydd 1,000 diwrnod cyntaf bywyd plentyn; gall mynd i’r afael ag anghydraddoldebau ac ymyrryd yn gynnar i atal problemau iechyd gynorthwyo pobl i wneud y dewisiadau iechyd gorau ar gyfer eu hunain yn awr ac ar gyfer eu plant yn y dyfodol.
Mae achos economaidd cryf ar gyfer buddsoddi ym mlynyddoedd cynnar bywyd hefyd. Mae cyfradd enillion economaidd ar fuddsoddiad yn sylweddol uwch yn y cam cyn-ysgol nag unrhyw gam arall yn y system addysg. Er gwaethaf hyn, yn aml mae’r buddsoddiad mewn gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc yn aml ar ei isaf yn y blynyddoedd cynnar a’r rhain yw’r blynyddoedd mwyaf hanfodol o ran datblygiad yr ymennydd. Mae buddsoddiad yn cynyddu ar y pwynt pan fo datblygiad yn arafu.
Mae ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos manteision iechyd a chymdeithasol posibl pe bai profiadau plentyndod yn cael eu gwella. O ran y boblogaeth, pe na bai profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, gall olygu bod 125,000 yn llai yn ysmygu ar draws Cymru a 55,000 yn llai o bobl wedi defnyddio heroin a chocên. Mae hyn yn gost effeithlon; mae tystiolaeth yn dangos y bydd ychydig dros £100 a fuddsoddwyd i atal Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yn arwain at dros £6000 o arbedion pan fesurir ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus dros y pum mlynedd nesaf.
Mae nifer o ddulliau o atal neu leihau effaith Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, gan gynnwys codi ymwybyddiaeth o’u pwysigrwydd, darparu gwasanaethau priodol ar gyfer yr holl deuluoedd a mynediad dibynadwy at gefnogaeth ychwanegol ar gyfer y rhai sydd fwyaf ei angen. Mae manteision y gwaith hwn yn adlewyrchu gwerth buddsoddiadau ar y cyd a phartneriaethau rhwng y GIG, awdurdodau lleol a gwasanaethau ac asiantaethau eraill i atal Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod yn effeithiol yn y dyfodol.
Gweler y tab ‘Bylchau gwybodaeth mewn perthynas â’r testun hwn’.
Mae pob plentyn ac unigolyn ifanc, pa un a oes ganddynt anghenion gofal a chymorth ai peidio, wedi cael eu heffeithio gan y pandemig Covid-19. Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru yn yr adroddiiad ‘Dim Drws Anghywir’ yn 2020:
“nid yw’n hawdd dweud yn union sut y mae’r argyfwng hwn wedi effeithio ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Yr hyn yr ydym yn ei wybod yw bod y pandemig coronafeirws wedi effeithio mewn rhyw ffordd ar fywyd pob plentyn ac unigolyn ifanc”.[1]
Ym mis Mawrth 2021, cyheddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg adroddiad am effaith Covid-19 ar blant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae canfyddiadau allweddol yr adroddiad yn adnabod materion y credir y dylid eu blaenoriaethu ar gyfer plant a phobl ifanc wrth i adferiad ar ôl y pandemig ddechrau. Mae’r meysydd a ddynodwyd yn cynnwys
- Addysg statudol
- Iechyd meddyliol a chorfforol plant a phobl ifanc
- Addysg bellach ac uwch
- Plant a phobl ifanc ddiamddiffyn
Mae ffocws penodol ar ddiogelu, cefnogi teuluoedd, rhianta corfforaethol, profiadau o ofal a phobl ifanc sy’n gadael gofal a’r blynyddoedd cynnar. Mae’n debygol y bydd cynnydd yn nifery plant a’r bobl ifanc sydd angen cefnogaeth na fyddent o reidrwydd wedi bod yn hysbys oni bai am effaith y pandemig.
[1] Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru.
Mae pobl yn poeni am dlodi plant ac i ba raddau mae’r sector cyhoeddus yn gweithio i wella ansawdd bywyd pobl a phlant mewn tlodi. Mae newyn ymhlith plant yn bryder benodol i bobl ac mae arnynt eisiau deall yr hyn sydd wrth wraidd newyn. Mae ar bobl hefyd eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni’n gofyn i’r rheiny sy’n byw mewn ardaloedd o amddifadedd beth yn eu barn nhw all wella eu bywydau.
Caiff digartrefedd ei ystyried yn ffactor mewn amddifadedd ac ansawdd tai. Mae tai gwael wedi’i amlygu gan bobl fel rhywbeth sydd â pherthynas achlysurol gyda disgwyliad oes is.
Mae ar bobl eisiau gweld mwy yn cael ei fuddsoddi mewn ffactorau sy’n cefnogi lles pobl ifanc.
- Buddsoddiadau mewn gweithgareddau i bobl ifanc e.e. prosiectau cymunedol, dosbarthiadau ymarfer corff i bobl ifanc, clybiau ieuenctid (fel bod gan bobl ifanc rywle i fynd e.e. eu gwneud yn fwy deniadol gyda gweithgareddau gwell, mwy o gyhoeddusrwydd fel bod pobl ifanc yn gwybod amdanyn nhw)
- Cymorth i wella iechyd meddwl pobl ifanc, yn enwedig ar ôl pandemig Covid-19
- cynnwys pobl ifanc ym mhenderfyniadau’r cyngor
- Gwella canolfannau a chyfleusterau hamdden i ddenu pobl ifanc e.e. clybiau gwell, dosbarthiadau sy’n cael eu hysbysebu’n dda ac yn targedu pobl ifanc
Nodwyd y rhai ag anableddau, gan gynnwys anawsterau dysgu, a phobl hŷn fel rhai y dylid eu cefnogi, er mwyn lleihau unigedd. Roeddent yn meddwl y gellid meithrin cysylltiadau rhwng y cenedlaethau pe bai pobl ifanc yn gwirfoddoli i gefnogi pobl hŷn.
Codwyd hefyd yr angen i gefnogi ffyrdd iach o fyw, yn enwedig o ran taclo’r argyfwng gordewdra drwy fwy o gyfleoedd hamdden, gwaith partneriaeth a thrwy adeiladu ar ein rhwydwaith teithio egnïol.