- Beth sy’n digwydd rŵan…
- Sut mae hyn yn cymharu efo’r gorffennol…
- Beth rydym yn ei wybod neu’n ei ragweld ar gyfer y dyfodol...
- Beth mae pobl wedi ei ddweud….
Yr economi amaethyddol yw conglfaen cymunedau gwledig ac mae’n bwysig wrth geisio gwella cynaliadwyedd lleol a chenedlaethol yng nghyd-destun newid hinsawdd, a pharhau i ddiogelu cefn gwlad agored er mwyn sicrhau diogelwch amgylcheddol, diogelwch bwyd, a mynediad at gefn gwlad agored er boddhad i bawb.
Mae dros 4,600 wedi’u cyflogi’n uniongyrchol ym myd amaeth yn yr ardal – 2,400 yng Nghonwy a 2,200 yn Sir Ddinbych[i]. Mae hyn yn cyfrif ar gyfer 20% o’r unigolion o oedran gwaith yng Nghonwy wledig a dros 15% yn ardaloedd gwledig Sir Ddinbych. Yn seiliedig ar ymchwil yn ardaloedd gwledig Lloegr, mae pob swydd ym myd ffermio yn creu swydd arall yn yr economi leol a allai awgrymu bod effaith ffermio ar yr economi wledig yn llawer uwch.
Mae amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota yn gyfwerth â 16% o’r holl fusnesau cofrestredig TAW a PAYE ym Mwrdeistref Sirol Conwy a Sir Ddinbych, y cyfrannau mwyaf (er nad oes ganddynt y nifer mwyaf o weithwyr) yn y ddwy ardal[ii].
Tabl: pobl wedi’u cyflogi mewn gwaith amaethyddol, 2013
Ffynhonnell: ystadegau cyfrifiad amaethyddiaeth ardal fechan, Llywodraeth Cymru
BS Conwy | Sir Ddinbych | Cyfanswm | |
Ffermwyr llawn amser | 906 | 728 | 1,634 |
Ffermwyr rhan amser | 869 | 866 | 1,735 |
Gweithwyr rheolaidd | 282 | 293 | 575 |
Achlysurol | 343 | 337 | 680 |
Yr holl weithwyr amaethyddol | 2,400 | 2,224 | 4,624 |
Mae ffermwyr yn tyfu’r cynhwysion crai sy’n tanategu cadwyn gyflenwi bwyd y DU, boed yn darparu cynnyrch ar gyfer y farchnad organig leol neu’r archfarchnadoedd mawr. Mae eu cnydau a’u da byw yn cyfrannu at ein diogelwch bwyd lleol a chenedlaethol, ynghyd â darparu nwyddau allforio. Mae cynnyrch sy’n cael ei ddarparu’n lleol yn cyflenwi nifer o’n cynhyrchwyr bwyd a bwytai sy’n bwysig ar gyfer yr economi ehangach. Mae economi fwyd leol sy’n ffynnu hefyd yn cynorthwyo i gefnogi a hyrwyddo mentrau bwyta’n iach.
Mae ffermwyr hefyd yn rheoli dros 75% o’r holl dir ym Mwrdeistref Sirol Conwy a Sir Ddinbych, gyda ffermwr cyfartalog yn treulio oddeutu pythefnos a hanner yn cynnal y gwrychoedd a’r waliau bob blwyddyn[iii]. Gall rheolaeth ffermwyr a gweithwyr amaethyddol o dir amaethyddol, tir cyffredin, coedwigoedd, cyrsiau dŵr a thirweddau eraill gyfrannu at nodau amgylcheddol, ac mae’n gymorth i gynnal cefn gwlad fel ysgyfaint y DU.
Mae’r cysylltiadau rhwng ffermio a thwristiaeth yn gryf iawn. Mae nifer o’n hardaloedd o harddwch naturiol eithriadol yn cael eu cynnal a’u rheoli gan ein ffermwyr, ac yn rhannol gyfrifol am ddenu dros 9 miliwn o ymwelwyr i Fwrdeistref Sirol Conwy a 6 miliwn o ymwelwyr i Sir Ddinbych bob blwyddyn[iv].
[i] Cyfrifiad Amaethyddol 2013, Llywodraeth Cymru
[ii] Busnes y DU: gweithgarwch, maint a lleoliad, Swyddfa Ystadegau Gwladol
[iii] What agriculture and horticulture mean to Britain, Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr
[iv] Adroddiadau STEAM ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych, 2015
Er mai dim ond gostyngiad bach a fu o ran y niferoedd sy’n gweithio ym myd amaeth rhwng 2003 a 2014 (o 4,655 i 4,624), mae nifer y ffermwyr llawn amser wedi gostwng o bron i 270. Mae hyn yn cael ei gydbwyso gan lefel gymharol y cynnydd mewn nifer y gweithwyr amaethyddol achlysurol, gan awgrymu newid sylweddol yn niogelwch cyflogaeth yn y sector amaethyddol, a newid posibl yn nhenantiaeth/perchnogaeth tir amaethyddol.
Mae cynllunio olyniaeth yn parhau i fod yn fater allweddol ar gyfer y sector. Yn draddodiadol, byddai ffermydd a chyflogaeth cysylltiedig yn y sector yn cael ei basio ymlaen o’r rhieni i’r plant, ond yn ddiweddar mae’r genhedlaeth iau wedi tueddu i ddewis gyrfaoedd gwahanol. Mae hyn yn rhannol o ganlyniad i newid mewn disgwyliadau, ond hefyd mewn ymateb i newid yn yr economi cenedlaethol, sy’n golygu bod ffermio yn llai proffidiol nag ydoedd ar gyfer y cenedlaethau blaenorol. Nid yw ffermydd teuluol yn sicr o ddarparu cyflogaeth ar gyfer holl blant y ffermwyr bellach, a hyd yn oed pan fo gwaith ar gael, nid yw’r incwm y mae’n ei ddarparu yn ddigonol er mwyn dal i fyny â’r costau byw presennol (gan gynnwys tai). Mae pwysau ariannol yn y sector amaethyddol hefyd yn golygu bod nifer o ffermwyr yn gorfod parhau i weithio’n hŷn, gan leihau cyfleoedd ar gyfer ffermwyr iau i ddechrau yn y diwydiant.
Mae diboblogaeth wledig, yn enwedig ymysg pobl o oedran gwaith yn bryder, sy’n effeithio ar hyfywedd gwasanaethau’r sector cyhoeddus a phreifat megis ysgolion gwledig, cludiant cyhoeddus, siopau pentref a grwpiau cymunedol. Yn ei dro gall hyn arwain at ostyngiad mewn cyflogaeth a chyfleoedd cymdeithasol, sy’n cymell diboblogaeth pellach.
Mae pobl ifanc yn gadael yr ardal ar gyfer addysg a chyflogaeth, ac nid ydynt yn derbyn swyddi ffermio. Mae hyn yn golygu bod y boblogaeth wledig yn ei chyfanrwydd ac yn enwedig y gweithlu amaethyddol, yn heneiddio.
Mae posibilrwydd y bydd effaith pleidlais Brexit ar yr economi wledig yn sylweddol iawn. Ar hyn o bryd mae sector amaethyddol Bwrdeistref Sirol Conwy a Sir Ddinbych yn derbyn degau o filiynau o bunnoedd bob blwyddyn mewn taliadau uniongyrchol fel rhan o Bolisi Amaethyddol Cyffredin yr Undeb Ewropeaidd, ac mae ardaloedd gwledig yn elwa o raglenni a mentrau cyllid amrywiol eraill yr UE. Nid yw’n hysbys sut y bydd y gefnogaeth yn cael ei disodli ar hyn o bryd.
Mae pobl mewn ardaloedd gwledig yn cydnabod pwysigrwydd amaeth i gyflogaeth leol ac awgrymwyd fod angen mwy o gymorth i gefnogi’r diwydiant hwn.