Conwy and Denbighshire Public Services Board

Building better communities

  • Cymraeg
  • English

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych

  • Cartref
  • Amdanom ni
    • Rhaglen a Cofnodion
    • Newyddlen
    • Datganiad Hygyrchedd
    • Hygyrchedd
  • Asesiad o Les Lleol
  • Cynllun Lles Lleol
    • Adroddiad Blynyddol
    • Cyngor Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
  • Addewid Gwyrdd i’r Gymuned
    • Ffurflen Addewid Hunanasesu
  • Ein Partneriaid
  • Cysylltu â Ni

Sector cyflogaeth allweddol – Gofal cymdeithasol ac iechyd

  • Beth sy’n digwydd rŵan…
  • Sut mae hyn yn cymharu efo’r gorffennol…
  • Beth rydym yn ei wybod neu’n ei ragweld ar gyfer y dyfodol...
  • Beth mae pobl wedi ei ddweud….

Mae’r sector iechyd a gofal cymdeithasol yn darparu dros 17,300 o swyddi ym Mwrdeistref Sirol Conwy a Sir Ddinbych. Ar y cyfan, mae hyn yn un o bob pum swydd yn yr ardal (un o bob pedair yn Sir Ddinbych, sy’n cynnwys ysbyty mawr, Ysbyty Glan Clwyd) a dyma’r sector cyflogaeth mwyaf yn yr ardal o bell ffordd.

O fewn y cyfanswm hwnnw, mae 6,450 o swyddi mewn ysbytai, 3,100 yn y sectorau gofal iechyd eraill, 3,750 yn y gweithgareddau gofal preswyl, a 3,950 yn y sector gofal cymdeithasol amhreswyl.

Mae newidiadau yn y sector yn cael eu cymell gan newid mewn demograffeg (cynnydd mewn galw am ofal), ffactorau cymdeithasol a gwleidyddol (gan gynnwys yr anogaeth ar gyfer defnyddio adnoddau’n effeithlon), technoleg ac arloesi (datblygiadau o ran triniaethau a chyfleoedd i gleifion reoli eu hiechyd eu hunain), a chynnydd o ran disgwyliadau cleifion a defnyddwyr gwasanaeth. Mae’r cymhellion hyn yn cynhyrchu heriau o ran sgiliau a pherfformiad yn holl swyddi allweddol iechyd a gofal cymdeithasol, wrth i’r sector ymateb i’r newid mewn galw.

Mae Gogledd Cymru yn wynebu anawsterau recriwtio parhaus a sylweddol ar gyfer Meddygon Teulu a nyrsys. Mae’r problemau hyn yn dwysau oherwydd natur wledig yr ardal, ond maent hefyd yn amlwg yn y trefi arfordirol dinesig gydag enghreifftiau diweddar o swyddi gwag sy’n anodd eu llenwi yng Ngogledd Sir Ddinbych. Mae hyn wedi’i nodi fel risg sylweddol byrdymor a hirdymor i ddarpariaeth gwasanaethau gofal sylfaenol.

 

Tabl: meddygon a gyflogwyd mewn meddygfeydd cyffredinol yng Ngogledd Cymru, Mai 2016

Ffynhonnell: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Yr holl feddygon teulu Meddygon Teulu cyflogedig 56+ oed 51-55 oed
Nifer % Nifer % Nifer %
Gorllewin 136 12 9% 25 18% 22 16%
Canolog 132 24 18% 22 17% 29 22%
Dwyrain 176 26 15% 39 22% 30 17%
Gogledd Cymru 444 62 14% 86 19% 81 18%

* Nid yw meddygon cyflogedig yn cynnwys Meddygon Teulu locwm, Meddygon Teulu ar y cynllun dychwelyd a Meddygon wrth gefn.

Mae problemau recriwtio yn peri mwy o bryder o ystyried proffil oedran y gweithlu presennol. Mae data a gasglwyd ym mis Mai 2016 yn dangos bod 19% o’r Meddygon Teulu yng Ngogledd Cymru a 17% yng Nghonwy a Sir Ddinbych (ardal ganolog BIPBC) dros 55 oed. Mae’r posibilrwydd y bydd y meddygon teulu hyn yn ymddeol yn gynnar wedi cynyddu yn dilyn y newidiadau i ddeddfwriaethau pensiwn, sy’n peri budd i unigolion ar gyflogau uchel i ymddeol yn gynnar.

Ers 2009 mae cyflogaeth ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ym Mwrdeistref Sirol Conwy a Sir Ddinbych wedi cynyddu o oddeutu 600 swydd, yn bennaf yn y sector ‘iechyd arall’. Fodd bynnag, gostyngodd cyflogaeth ym maes gofal preswyl o oddeutu 350 o swyddi yn ystod y cyfnod.

Siart: cyflogaeth ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, 2009 a 2015

Ffynhonnell: Ymchwiliad busnes blynyddol ac arolwg cofrestrau busnes a chyflogaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol, (NOMIS)

Mae’r gostyngiad mewn cyflogaeth gofal preswyl yn peri pryder penodol. Rhwng 2012 a 2015 collwyd oddeutu 400 o leoliadau net mewn cartrefi nyrsio yng Ngogledd Cymru (gan ystyried rhai o’r cartrefi newydd a gafodd eu hadeiladu, ond fe gaeodd sawl un). Dengys ymchwil bod oddeutu 94% o’r cartrefi gofal preswyl yn yr ardal yn rhai annibynnol yn y sector preifat ac mae mwyafrif y cartrefi hyn yn cael eu gweithredu fel busnesau sengl annibynnol gyda dim ond nifer fechan ohonynt yn cael eu gweithredu fel grŵp o gartrefi. Mae hyn yn golygu eu bod yn fwy agored i niwed gan gyflyrau newidiol y farchnad. Mewn sawl achos roeddent yn cau am ei bod yn rhy anodd recriwtio nyrsys neu ei bod yn anghynaliadwy yn ariannol cynnig gofal nyrsio am y ffioedd a delir gan gomisiynwyr statudol.

Meddygon teulu a nyrsys

Dros y pump i ddeg mlynedd nesaf, mae’r sector yn wynebu cynnydd mewn galw a gostyngiad o ran argaeledd adnoddau, ynghyd â diwygiad strwythurol. Mae newidiadau o’r fath yn debygol o arwain at gyfres amrywiol o gyflogwyr yn gweithredu yn y sector a dull mwy cydlynol o ddarparu gwasanaeth gan staff iechyd a gofal cymdeithasol. Mae swyddi presennol yn debygol o ehangu y tu hwnt i’w ffiniau presennol, ac mae rolau newydd yn debygol o ddod i’r amlwg gan lenwi bylchau rhwng y proffesiynau iechyd a gofal cymdeithasol traddodiadol. Ni ellir tan-bwysleisio potensial twf economaidd yn y sector hwn.

Nid yw nifer y lleoedd hyfforddiant ar gyfer Meddygon teulu, nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn ddigonol i ddiwallu’r gofynion ar draws y DU, ynghyd ag yng Ngogledd Cymru. Mae system meddygon teulu dan hyfforddiant Cymru sy’n ceisio meddygon dan hyfforddiant o Ysgol Feddygol Caerdydd yn cael anhawster diwallu gofynion gweithlu economi gweithlu Gofal Sylfaenol Gogledd Cymru. Mae perthnasau da yn bodoli gyda’r Gogledd Orllewin, yn Ysgolion Meddygol Lerpwl a Manceinion, y gellir eu datblygu ymhellach. Gall datblygiad ysgol feddygol yng Nghaer fod yn fuddiol hefyd.

Yn ogystal â mentrau presennol i recriwtio a chadw Meddygon Teulu, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’n ddiweddar y cyflwynir cymhelliant ariannol ar gyfer Meddygon Teulu dan hyfforddiant, sy’n cynnwys cymorth ariannol ar gyfer costau asesu penodol a chynllun bwrsariaeth ar gyfer meddygon dan hyfforddiant sy’n cytuno i aros yn yr ardal yn ystod eu hyfforddiant ac am flwyddyn o weithio yn y maes wedi hynny.

Gofal preswyl neu nyrsio

Disgwylir i nifer yr unigolion 65 oed a hŷn sy’n derbyn gwasanaethau preswyl ddyblu erbyn 2035 fel y nodir isod. Mae hyn o ganlyniad i boblogaeth sy’n heneiddio a chynnydd yn nifer yr unigolion sydd ag anghenion gofal cymhleth megis dementia. Disgwylir i’r niferoedd sy’n derbyn gwasanaethau gofal preswyl safonol ostwng neu aros yr un fath, ond disgwylir i’r nifer sydd angen gofal nyrsio arbenigol gynyddu’n sylweddol.

Siart: nifer rhagfynegol o bobl 65+ oed sy’n derbyn gwasanaethau preswyl

Ffynhonnell: Amcanestyniadau poblogaeth yn seiliedig ar 2011, Llywodraeth Cymru, Cronfa Ddata Cennin Pedr, Sefydliad Gofal Cyhoeddus

Mae Rhwydwaith Dysgu a Gwybodaeth Tai wedi datblygu teclyn i gefnogi comisiynwyr a chynllunwyr i ragweld y galw ar gyfer y gwahanol fathau o lety â chefnogaeth. Mae teclyn SHOP@ yn rhagweld erbyn 2030, bydd gorgyflenwad o leoedd gofal preswyl yn Sir Ddinbych a thangyflenwad o gartrefi nyrsio, tai gwarchod a thai gyda gofal ar draws yr ardal. Mae hyn yn awgrymu bod posibilrwydd y bydd twf cyflogaeth yn y sector yn y dyfodol.

Tabl: diffyg a ddisgwylir mewn lleoedd preswyl a thai â chefnogaeth erbyn 2030

Ffynhonnell: Teclyn SHOP@

Cartref Gofal Preswyl Cartref gofal Nyrsio Tai gwarchod Tai gyda gofal
BS Conwy 130 275 170 370
Sir Ddinbych -204 359 467 384
Gogledd Cymru 392 2,154 2,185 2,774

Mae pobl yn dymuno gweld gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol mwy integredig sy’n cynnwys canolbwyntio ar ataliad a gwireddu potensial technoleg newydd. Mae’n bwysig fod gwasanaethau’n cael eu darparu’n lleol a bod annibyniaeth yn cael ei gynnal.

Yn benodol hoffai pobl weld:

  • gwell gwaith partneriaeth rhwng cyrff cyhoeddus a’r trydydd sector a chwalu’r rhwystrau rhyngddynt. Ar hyd o bryd nid yw’n wasanaeth di-dor.
  • darpariaeth mentrau iechyd yn y gymuned gyda chefnogaeth y gymuned. Mae gwasanaethau yn y gymuned yn hynod o bwysig i bobl.
  • mae technoleg newydd a datblygiadau gwyddonol yn arwain at well iechyd.
  • pwyslais ar gefnogaeth ataliol, creu’r gallu i bobl fynd i’r afael â mân broblemau drwy ddod o hyd i’w hachosion â’u datrys drostynt eu hunain.

Copyright © 2020 Conwy & Denbighshire Public Services Board. All rights reserved
This website uses cookies to improve your experience. We'll assume you're ok with this, but you can opt-out if you wish. Cookie settingsACCEPT
Privacy & Cookies Policy

Privacy Overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these cookies, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may have an effect on your browsing experience.
Necessary
Always Enabled

Necessary cookies are absolutely essential for the website to function properly. This category only includes cookies that ensures basic functionalities and security features of the website. These cookies do not store any personal information.

Non-necessary

Any cookies that may not be particularly necessary for the website to function and is used specifically to collect user personal data via analytics, ads, other embedded contents are termed as non-necessary cookies. It is mandatory to procure user consent prior to running these cookies on your website.

Conwy & Denbighshire PSB
  • Cartref
  • Amdanom ni
    • Rhaglen a Cofnodion
    • Newyddlen
    • Datganiad Hygyrchedd
    • Hygyrchedd
  • Asesiad o Les Lleol
  • Cynllun Lles Lleol
    • Adroddiad Blynyddol
    • Cyngor Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
  • Addewid Gwyrdd i’r Gymuned
    • Ffurflen Addewid Hunanasesu
  • Ein Partneriaid
  • Cysylltu â Ni