Conwy and Denbighshire Public Services Board

Building better communities

  • Cymraeg
  • English

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych

  • Cartref
  • Amdanom ni
    • Rhaglen a Cofnodion
    • Newyddlen
    • Datganiad Hygyrchedd
    • Hygyrchedd
  • Asesiad o Les Lleol
  • Cynllun Lles Lleol
    • Adroddiad Blynyddol
    • Cyngor Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
  • Addewid Gwyrdd i’r Gymuned
    • Ffurflen Addewid Hunanasesu
  • Ein Partneriaid
  • Cysylltu â Ni

Ymwadiad

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gwneud pob ymdrech i sicrhau cywirdeb a dibynadwyaeth y wefan hon. Fodd bynnag, nid yw’n honni dim am gywirdeb, dibynadwyaeth, cyfanrwydd, neu addasrwydd y wybodaeth, cynhyrchion, gwasanaethau a graffigwaith perthnasol sy’n gynwysiedig yn y wefan hon ar gyfer unrhyw bwrpas. Ni fydd Cyngor Sir Ddinbych, ei weithwyr cyflog, ei gyflenwyr na chwmnïau eraill sydd â wnelo a chreu a chyflwyno’r wefan hon, yn gyfrifol am unrhyw niwed uniongyrchol, anuniongyrchol, achlysurol, arbennig nac ôl-ddilynol, colled nac anhwylustod achoswir wrth ddibynnu ar gynnwys y wefan hon, neu’n codi o ddefnyddio’r wefan hon.

Mae mynediad i, a defnydd o’r wefan hon, a ddarperir gan Gyngor Sir Ddinbych yn ddarostyngedig i’r amodau a thelerau canlynol:

1. Mae eich defnydd o’r wefan hon yn golygu eich bod yn derbyn yr amodau a thelerau hyn, a ddaw i rym o’r dyddiad cyntaf y defnyddiwch y wefan. Mae gan Gyngor Sir Ddinbych yr hawl i newid yr amodau a thelerau hyn ar unrhyw adeg, drwy osod newidiadau arlein. Mae parhau i ddefnyddio’r wefan hon ar ôl i newidiadau gael eu gwneud, yn golygu eich bod yn derbyn yr amodau a thelerau diwygiedig.

2. Ar gyfer eich defnydd personol anfasnachol eich hun mae’r wefan hon. Ni chaniateir copïo, atgynhyrchu, ailgyhoeddi, llwytho i lawr, gosod, darlledu na throsglwyddo deunyddiau mewn unrhyw fodd, ac eithrio ar gyfer eich defnydd personol, anfasnachol eich hun gartref. Bydd angen caniatâd ysgrifenedig y Cyngor ymlaen llaw ar gyfer unrhyw ddefnydd arall.

3. Rydych yn cytuno i ddefnyddio’r wefan hon ar gyfer dibenion cyfreithlon yn unig, ac mewn modd nad yw’n tresmasu ar hawliau, neu’n cyfyngu neu’n gwahardd defnydd a mwyniant o’r wefan hon gan drydydd parti, neu’n achosi niwsans, anghyfleustra, neu bryder diangen i drydydd parti.

Mae’r cyfyngiad neu’r gwaharddiad hwn yn cynnwys (heb derfynau), ymddygiad anghyfreithlon, difenwol, dilornus neu’r gallu i boeni neu achosi gofid, anghyfleustra, niwsans, neu fod yn fygythiad i unrhyw unigolyn, a throsglwyddo cynnwys anweddus, bygythiol, annymunol, neu amharu ar rediad arferol sgyrsiau a fewn y wefan.

4. Mae’r wefan hon yn cynnwys linciau i wefannau eraill nad ydynt o reidrwydd yn cael eu rheoli gan y Cyngor. Nid yw’r Cyngor yn gyfrifol am gynnwys y gwefannau hyn, ac nid yw’n derbyn cyfrifoldeb dros unrhyw beth a allai godi wrth ddefnyddio gwefannau fel hyn.

5. Mae’r Cyngor yn ymdrechu i sicrhau bod yr holl wybodaeth a’r deunyddiau ar y wefan hon yn briodol ac yn fanwl gywir, ond nid yw’n derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros wallau neu hepgoriadau ac nid yw’n gwarantu y bydd defnydd o’r wefan yn ddi-dor. Mae’r Cyngor yn darparu deunyddiau a gyhoeddir ar ei wefan ar sail ei fod yn gwadu’r holl warantau ynglyn â deunyddiau felly, p’un ai yr eglurir hynny neu yr awgrymir hynny. Nid yw’r Cyngor, ei weithwyr cyflog, ei gyflenwyr na darparwyr gwreiddiol y deunydd, yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros golled busnes, refeniw, nac elw uniongyrchol, anuniongyrchol, damweiniol, nac ôl-ddilynol, na dros niwed arbennig yn codi o gyhoeddi’r deunydd ar y wefan hon, neu o ddefnyddio’r wefan hon.

6. Rydych chi’n cydnabod bod holl hawliau eiddo deallusol, yn cynnwys hawlfraint a hawliau cronfa ddata ar wefan y Cyngor, a’i chynnwys, yn perthyn i, neu wedi cael ei drwyddedu i’r Cyngor, sydd â chaniatâd dan ddeddf berthnasol i’w defnyddio fel arall.

7. Mae gan y Cyngor yr hawl i olygu, gwrthod gosod neu ddileu unrhyw ddeunydd a gyflwynir neu a osodir ar y wefan hon. Nid yw’r Cyngor yn gyfrifol am, nac yn derbyn cyfrifoldeb dros unrhyw ddeunydd a osodir ar y wefan ar wahân i ddeunydd y Cyngor. Mae unrhyw farn, cyngor, gosodiad, cynnig neu wybodaeth arall a fynegir neu sydd ar gael gan drydydd parti ar wefan y Cyngor, yn perthyn i’r trydydd parti hwnnw. Nid yw’r Cyngor yn cymeradwyo nac yn gyfrifol am gywirdeb neu atebolrwydd unrhyw ddeunydd trydydd parti tebyg.

8. Mae’r amodau a thelerau hyn yn cael eu rheoli gan ddeddfau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod a gwyd o’r amodau a thelerau hyn yn ddarostyngedig i awdurdod Llysoedd Cymru a Lloegr yn unig.

9. Os dewch o hyd i unrhyw beth ar y wefan hon sy’n peri pryder i chi, gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda.

10. Os ydych yn anfodlon ag unrhyw ran o’r wefan hon, neu ag unrhyw un o’r amodau a thelerau hyn , rhowch y gorau i ddefnyddio’r wefan hon yn ddiymdroi os gwelwch yn dda.

11. Os penderfynir bod unrhyw un o’r amodau a’r telerau hyn yn anghyfreithlon, yn annilys, neu, fel arall, yn anghymelladwy, yna, yn ôl y graddau y bydd yr amodau neu’r telerau’n anghyfreithlon, yn annilys, neu’n anghymelladwy, caiff ei dorri allan a’i ddileu o’r cymal hwn, a bydd yr amodau a thelerau sy’n weddill yn sefyll, yn dal mewn grym ac yn parhau’n orfodol a chymelladwy.

Search

  • Facebook
  • Twitter
  • YouTube
  • Cartref
  • Amdanom ni
    • Rhaglen a Cofnodion
    • Newyddlen
    • Datganiad Hygyrchedd
    • Hygyrchedd
  • Asesiad o Les Lleol
  • Cynllun Lles Lleol
    • Adroddiad Blynyddol
    • Cyngor Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
  • Addewid Gwyrdd i’r Gymuned
    • Ffurflen Addewid Hunanasesu
  • Ein Partneriaid
  • Cysylltu â Ni
Copyright © 2020 Conwy & Denbighshire Public Services Board. All rights reserved
This website uses cookies to improve your experience. We'll assume you're ok with this, but you can opt-out if you wish. Cookie settingsACCEPT
Privacy & Cookies Policy

Privacy Overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these cookies, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may have an effect on your browsing experience.
Necessary
Always Enabled

Necessary cookies are absolutely essential for the website to function properly. This category only includes cookies that ensures basic functionalities and security features of the website. These cookies do not store any personal information.

Non-necessary

Any cookies that may not be particularly necessary for the website to function and is used specifically to collect user personal data via analytics, ads, other embedded contents are termed as non-necessary cookies. It is mandatory to procure user consent prior to running these cookies on your website.

Conwy & Denbighshire PSB
  • Cartref
  • Amdanom ni
    • Rhaglen a Cofnodion
    • Newyddlen
    • Datganiad Hygyrchedd
    • Hygyrchedd
  • Asesiad o Les Lleol
  • Cynllun Lles Lleol
    • Adroddiad Blynyddol
    • Cyngor Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
  • Addewid Gwyrdd i’r Gymuned
    • Ffurflen Addewid Hunanasesu
  • Ein Partneriaid
  • Cysylltu â Ni