Oeddech chi’n gwybod…
- Mae 1 o bob 14 rhywogaeth yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu’n llwyr
- Byddai peillio cnydau heb wenyn yn costio £1.8 biliwn y flwyddyn i ffermwyr y DU
- Disgwylir i 40% o rywogaethau pryfed y byd farw allan erbyn diwedd y ganrif – gan achosi trychineb wrth i ecosystem byd natur chwalu’n llwyr
Y Newidiadau Gwyrdd gallwch chi eu gwneud
- Newid Gwyrdd 15 – Rheoli mannau gwyrdd yn y gymuned er lles bywyd gwyllt ac i annog bioamrywiaeth
- Newid Gwyrdd 16 – Lleihau faint o blaleiddiaid a gwrtaith a ddefnyddir mewn mannau gwyrdd
- Newid Gwyrdd 17 – Ailgylchu dŵr glaw
- Newid Gwyrdd 18 – Trefnu diwrnodau glanhau a chodi sbwriel yn y gymuned
Pwy sy’n gwneud y newid yn barod?
- Mae amryw o brosiectau mannau gwyrdd cymunedol yn digwydd ar draws Conwy a Sir Ddinbych – mae prosiect anferth ar y gweill yn Sir Ddinbych i blannu dros 18,000 o goed dros y pum mlynedd nesaf!
- Mae ffermwyr a thirfeddianwyr yng Nghonwy wedi bod yn gweithio gyda Chonwy Cynhaliol i gael gwared ar gemegion dieisiau mewn ffordd gyfrifol
- Mae Gwobrau Cymunedol y Faner Werdd yn cydnabod gwirfoddolwyr sy’n rheoli parciau a mannau gwyrdd yng Nghymru
Syniadau i’ch rhoi ar ben ffordd
- Plannu planhigion sy’n denu gwenyn a chofrestru i fod yn Gymuned Denu Gwenyn
- Torri’r glaswellt yn llai aml er mwyn rhoi paill a neithdar i bryfed. Cofrestru fel No Mow Zone i weld beth sy’n tyfu yn eich glaswelltir
- Creu lle i osod blychau adar ac ystlumod, ac i greu pyllau dŵr bychain i ddenu pryfed
- Gwirfoddoli gyda grwpiau bywyd gwyllt lleol, pan fydd yn ddiogel gwneud hynny
- Plannu coed
- Pan fydd yn ddiogel gwneud hynny, gwahodd siaradwyr i siarad gyda phobl yn y gymuned am faterion amgylcheddol
Cyngor a Chyfarwyddyd
Dyma ychydig o ganllawiau ar sut i wella a rheoli mannau gwyrdd er budd y gymuned ac er lles natur….
- Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru – Yn darparu amryw o lawlyfrau ar ‘Sut i’ wneud rhywle’n fwy cyfeillgar i fywyd gwyllt
- RSPB – Gwybodaeth am blaleiddiaid a bywyd gwyllt
- Llais y Goedwig – gwybodaeth a chymorth i sefydlu coetiroedd cymunedol
- Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol yng Nghymru – yn helpu cymunedau i wella’r mannau gwyrdd yn eu hardal leol
Cyllid a Chymorth
Dyma rai ffynonellau cyllid posib a manylion am sut i ddod o hyd i gymorth arbenigol pellach…
- Groundforce – Yn helpu cymunedau i gael gafael ar gyllid posib i ddatblygu eu mannau gwyrdd cymunedol
- Mae Cymorth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych yn darparu cyngor a chymorth ar gyfleoedd cyllido
- Cronfa Gymunedol y Loteri – Yn darparu gwybodaeth ar grantiau cymunedol sydd ar gael yng Nghymru
- Cyllido Cymru – Porth Cyllido sy’n helpu elusennau, grwpiau cymunedol a sefydliadau cymdeithasol i ddod o hyd i gyfleoedd cyllido yn eu hardal leol