Oeddech chi’n gwybod…
- Mae 38.2 miliwn o gerbydau wedi eu trwyddedu i’w gyrru ar hyd ffyrdd y DU
- Trafnidiaeth yw’r ffynhonnell fwyaf o allyriadau carbon yn Ewrop, gan gyfrannu 27% at holl allyriadau CO2 yr Undeb Ewropeaidd
- Mae dwy ran o dair o weithwyr yn dibynnu ar gar i gyrraedd y gwaith, naill ai fel gyrrwr neu deithiwr
- Mae 48% o bobl yn y DU yn defnyddio eu ceir ar gyfer siwrneiau y gallent fod wedi’u cwblhau mewn ffordd fwy cynaliadwy, o leiaf unwaith yr wythnos
Y Newidiadau Gwyrdd gallwch chi eu gwneud
- Newid Gwyrdd 4 – Rhedeg cynllun trafnidiaeth gymunedol
- Newid Gwyrdd 5 – Defnyddio llai ar y car
- Newid Gwyrdd 6 – Gosod pwyntiau gwefru car/ beic trydan
Pwy sy’n gwneud y newid yn barod?
- Mae mwy o bobl o hyd yn newid at geir trydan – dysgwch fwy am sut y mae Corwen wedi sefydlu clwb rhannu ceir trydan cymunedol
- Mae cymunedau yng nghefn gwlad Conwy wedi elwa o gynllun e-feics a lwyddodd i leihau defnydd car ac arwain at effeithiau iechyd cadarnhaol
- Gallwch ddod o hyd i fap o bwyntiau gwefru trydan yn www.zap-map.com
- Cynlluniwch eich siwrnai ar gludiant cyhoeddus gan ddefnyddio Traveline Cymru
- Mae gan y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol 1,700 milltir o lwybrau beicio a cherdded diogel a golygfaol drwy Gymru
Syniadau i’ch rhoi ar ben ffordd
- Annog aelodau’r gymuned i ddefnyddio cludiant cyhoeddus a chymryd rhan mewn teithio llesol lle y bo’n bosibl
- Beth am hwyluso cynllun benthyg beics gyda phobl eraill yn y gymuned – beth am ystyried e-feics hefyd
- Dynodi mannau parcio penodol yn eich ardal leol i bobl rannu car, pan fydd yn ddiogel gwneud hynny
- Edrych ar yr opsiynau o osod pwyntiau gwefru car trydan yn eich cymuned
Cyngor a Chyfarwyddyd
Dyma rai canllawiau a chyfarwyddyd defnyddiol ar gyfer annog teithio llesol a chynaliadwy a lleihau allyriadau
- Senedd Cymru – Canllawiau i Drafnidiaeth Gymunedol yng Nghymru
- Cymdeithas Cludiant Cymunedol Cymru – Pecyn ar gyfer sefydlu gwasanaeth Trafnidiaeth Gymunedol
- Ymddiriedolaeth Arbed Ynni – Canllaw i gerbydau trydan
- We are Cycling UK – Canllaw i gynlluniau rhannu beics cyhoeddus
Cyllid a Chymorth
Dyma rai ffynonellau cyllid posib a manylion am sut i ddod o hyd i gymorth arbenigol pellach – ond cofiwch, mae digon o ffynonellau eraill ar gael hefyd…
- Mae Cymorth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych yn darparu cyngor a chymorth ar gyfleoedd cyllido
- Cynllun Gwefru yn y Gweithle – cynllun talebau sy’n rhoi cymorth ariannol tuag at y gost o brynu a gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan
- Cronfa Gymunedol y Loteri – Yn darparu gwybodaeth ar grantiau cymunedol sydd ar gael yng Nghymru
- Cyllido Cymru – Porth Cyllido sy’n helpu elusennau, grwpiau cymunedol a sefydliadau cymdeithasol i ddod o hyd i gyfleoedd cyllido yn eu hardal leol