Oeddech chi’n gwybod…
- Daw 95% o’n ffrwythau o wledydd tramor
- Mae hanner ein llysiau’n cael eu mewnforio
- Yn 2019 fe wnaeth y DU fewnforio gwerth tua £6.6 biliwn o gynhyrchion cig, ac allforio gwerth tua £2.1 biliwn
- Mae’r DU yn cynhyrchu 60% o’r hyn sydd ei angen arni i fwydo ei hun
- Er mai dim ond 1% o fwyd a gludir ar awyren, mae’n cyfrif am 11% o’r allyriadau carbon
Y Newidiadau Gwyrdd gallwch chi eu gwneud
- Newid Gwyrdd 12 – sefydlu rhandiroedd neu berllannau cymunedol
- Newid Gwyrdd 13 – prynu a defnyddio cynnyrch tymhorol lleol
- Newid Gwyrdd 14 – wrth brynu cynnyrch a chynhyrchion, edrychwch i weld bod y darparwr yn ymdrechu i fod yn wyrdd
Pwy sy’n gwneud y newid yn barod?
- Mae Conwy a Sir Ddinbych yn cefnogi a hyrwyddo cynhyrchwyr lleol yn yr ardal drwy frand bwyd Conwy Naturiol a Llwybr Bwyd Bryniau Clwyd
- Mae digonedd o grwpiau cymunedol yn rhedeg perllannau ar draws Conwy a Sir Ddinbych – ewch i’r Rhwydwaith Perllannau i ddod o hyd i’ch grŵp lleol
- Dewch o hyd i’ch darparwyr bwyd a diod Cymreig lleol trwy chwilio yng nghyfeiriadur cynhyrchwyr Arloesi Bwyd Cymru
Syniadau i’ch rhoi ar ben ffordd
- Prynu cynhyrchion a ardystiwyd drwy gynlluniau fel FairTrade, pren FSC, bwyd môr MSC a chig ‘gwarant fferm’
- Pan fydd yn ddiogel gwneud hynny, rhannu unrhyw ffrwythau a llysiau dros ben y gallai pobl yn y gymuned fod yn eu tyfu drwy gael ardal gymunedol bwrpasol i ollwng a chodi’r cynnyrch
- Pan fydd yn ddiogel gwneud hynny, cofiwch fod oergelloedd cymunedol yn ffordd wych o gael pobl a chwmnïau i rannu bwyd dros ben yn lleol. Mae’n helpu pobl i gyd-dynnu a chyd-gysylltu, a lleihau gwastraff bwyd ar yr un pryd!
Cyngor a Chyfarwyddyd
Dyma ychydig o gyngor defnyddiol ar dyfu bwyd yn gymunedol, rhandiroedd a sut i leihau gwastraff (fel drwy gompostio ac ailgylchu)
- Llywodraeth Cymru – Canllawiau ar gyfer tyfwyr a grwpiau tyfu
- Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol – Llawer o wybodaeth, gan gynnwys pecyn gwybodaeth tyfu cymunedol defnyddiol sy’n nodi sut i sefydlu, datblygu a chynnal mannau tyfu
- Yr Incredible Edible Network – sydd â digonedd o syniadau, cyngor ac adnoddau i grwpiau cymunedol sydd am gychwyn eu prosiectau tyfu eu hunain
- Rhwydwaith Perllannau – yn rhoi awgrymiadau gwych ar gyfer sefydlu perllannau cymunedol
- Mae Cynghorau lleol yn gyfrifol am ddyrannu rhandiroedd, darganfyddwch fwy am randiroedd yng Nghonwy a rhandiroedd yn Sir Ddinbych trwy ymweld â’u gwefannau
Cyllid a Chymorth
Dyma rai ffynonellau cyllid posib a manylion am sut i ddod o hyd i gymorth arbenigol pellach – ond cofiwch, mae digon o ffynonellau eraill ar gael hefyd…
- Y National Allotment Society – Yn rhoi gwybodaeth am ffynonellau cyllid posib ar gyfer rhandiroedd
- Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol – yn rhoi gwybodaeth ar ffynonellau cyllido ar gyfer cynlluniau tyfu cymunedol yng Nghymru
- Mae Cymorth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych yn darparu cyngor a chymorth ar gyfleoedd cyllido
- Cronfa Gymunedol y Loteri – Yn darparu gwybodaeth ar grantiau cymunedol sydd ar gael yng Nghymru
- Cyllido Cymru – Porth Cyllido sy’n helpu elusennau, grwpiau cymunedol a sefydliadau cymdeithasol i ddod o hyd i gyfleoedd cyllido yn eu hardal leol