Oeddech chi’n gwybod…
- Mae digon o blastig yn cael ei daflu bob blwyddyn i fynd o amgylch y ddaear 4 o weithiau
- Mae 1.6m tunnell o eitemau gwastraff swmpus yn cael eu taflu bob blwyddyn yn y DU – byddai’n bosib ailddefnyddio eu hanner
- Anfonir gwerth £140 miliwn o ddillad i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn
- Gall ailgylchu 1 potel wydr arbed digon o bŵer ar gyfer cyfrifiadur am 25 munud
Y Newidiadau Gwyrdd gallwch chi eu gwneud
- Newid Gwyrdd 7 – Dod yn gymuned ddi-blastig neu lai-o-blastig
- Newid Gwyrdd 8 – Ailgylchu mwy yn eich cymuned
- Newid Gwyrdd 9 – Ailgylchu gwastraff bwyd
- Newid Gwyrdd 10 – Cyflwyno / gweithredu cynllun atgyweirio neu rannu cymunedol lleol
- Newid Gwyrdd 11 – Defnyddio elusennau ailddefnyddio lleol ac ymuno â rhwydweithiau Freecycle ac ailddefnyddio lleol
Pwy sy’n gwneud y newid yn barod?
- Mae rhai cymunedau yng Nghymru’n lambastio plastig – darganfyddwch fwy am gymunedau di-blastig yma
- Mae mwy o siopau ar draws Gogledd Cymru’n rhoi’r gorau i ddefnyddio pecynnau – cliciwch yma i weld pa siopau sy’n lleol i chi
- Mae canolfannau ailgylchu symudol ar gael i helpu cymunedau gwledig Conwy i ailgylchu mwy
- Mae sefydliadau yng Nghonwy a Sir Ddinbych sy’n darparu gwasanaethau cefnogi ailgylchu, megis Crest yng Nghonwy a Resources Recycling yn Sir Ddinbych
Syniadau i’ch rhoi ar ben ffordd
- Ystyried sut i ddefnyddio llai o eitemau plastig ‘untro’ yn eich cymuned – drwy weithio gyda siopau lleol i ymuno â Refill Wales a dod yn orsaf ail-lenwi, gallech hefyd feddwl am osod ffynnon ddŵr
- Gellir defnyddio cynlluniau ailddefnyddio neu rannu ar gyfer amryw o bethau – i rannu tŵls neu hyd yn oed baent dros ben
- Pan fydd yn ddiogel gwneud hynny, beth am redeg Caffi Trwsio – ffordd wych o roi bywyd newydd i nwyddau trydan, o uwch-gylchu dodrefn, a chwrdd â phobl a dysgu sgiliau newydd ar yr un pryd
- Pan fydd yn ddiogel gwneud hynny, cynnal ffair sborion neu ddigwyddiad cyfnewid – i anfon llai o ddillad diangen i safleoedd tirlenwi
- Mae compostio cymunedol yn ffordd ardderchog o drawsnewid gwastraff garddio a bwyd a’i droi’n gompost i’w ddefnyddio yn y gymuned.
Cyngor a Chyfarwyddyd
Dyma rai canllawiau a chyngor defnyddiol ar gyfer annog ailgylchu a lleihau gwastraff –
- Surfers Against Sewage – Gwybodaeth i helpu cymunedau i ddod yn ddi-blastig
- Ailgylchu dros Gymru – Gwybodaeth a chymorth ar ailgylchu ac ailddefnyddio yn y gymuned
- Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff – Llawer o wybodaeth ar sut i leihau gwastraff bwyd
- Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol – Pecyn adnoddau compostio cymunedol
Cyllid a Chymorth
Dyma rai ffynonellau cyllid posib a manylion am sut i ddod o hyd i gymorth arbenigol pellach – ond cofiwch, mae digon o ffynonellau eraill ar gael hefyd…
- Cronfa Gymunedol y Loteri – Yn darparu gwybodaeth ar grantiau cymunedol sydd ar gael yng Nghymru
- Cyllido Cymru – Porth Cyllido sy’n helpu elusennau, grwpiau cymunedol a sefydliadau cymdeithasol i ddod o hyd i gyfleoedd cyllido yn eu hardal leol
- Mae Cymorth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych yn darparu cyngor a chymorth ar gyfleoedd cyllido