- Beth sy’n digwydd rŵan…
- Sut mae hyn yn cymharu efo’r gorffennol…
- Beth rydym yn ei wybod neu’n ei ragweld ar gyfer y dyfodol...
- Beth mae pobl wedi ei ddweud….
- Bylchau mewn gwybodaeth...
Bydd yr Arolwg Cenedlaethol nesaf i Gymru yn casglu data am effaith y pandemig Covid-19 ar ffyrdd o fyw. Bydd y testun yn cael ei ddiweddaru yn unol â hynny.
Tlodi yw achos dewisiadau nad ydynt yn iach ac iechyd gwael ymhlith y rhai sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, o ganlyniad i’r diffyg opsiynau sydd ar gael iddynt yn sgil incwm isel a’r straen sydd ynghlwm â’r cyflyrau gwael. Mae diet gwael y rheiny sy’n byw mewn tlodi yn aml iawn yn deillio o dlodi, nid dewisiadau gwael. Mae pobl mewn tlodi parhaus yn wynebu risg uwch o iechyd meddwl a chorfforol gwael ac mae plant mewn tlodi parhaus yn wynebu risg uwch o broblemau iechyd meddwl, gordewdra, a salwch hirdymor. Er enghraifft, byddai’n rhaid i’r 10% tlotaf o aelwydydd Lloegr wario bron i dri-chwarter eu hincwm gwario ar fwyd i fodloni “Canllaw Bwyta’n Iach” y GIG, o’i gymharu â dim ond 6% o incwm yr aelwydydd cyfoethogaf. [1]
Mae annhegwch iechyd yn anghydraddoldebau iechyd rhwng gwahanol grwpiau o bobl y gellir eu hosgoi. Mae strategaeth iechyd y cyhoedd Llywodraeth Cymru, ‘Ein Dyfodol Iach’ yn nodi “pan y gellir osgoi gwahaniaethau o’r fath, mae’n annheg ac yn anfoesol ein bod yn eu goddef”. Mae hyrwyddo ffyrdd o fyw iach yn helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd, ac yn mynd i’r afael â phedwar o’r deg o flaenoriaethau a nodwyd yn ‘Ein Dyfodol Iach’ (lleihau ysmygu, cynyddu gweithgarwch corfforol, lleihau bwyta an-iach, rhwystro niwed cynyddol alcohol a chyffuriau).
O’i gymharu ag awdurdodau unedol eraill yng Nghymru, mae dinasyddion Bwrdeistref Sirol Conwy yn fwy tebygol yn ystadegol o wneud dewisiadau byw iach o’i gymharu â chyfartaledd Cymru, ond mae angen gwelliant sylweddol o hyd. Mae dangosyddion ffyrdd o fyw iach ar gyfer Sir Ddinbych yn agosach at gyfartaledd Cymru.
- Mae oddeutu 49.9% o oedolion ym Mwrdeistref Sirol Conwy a 52.2% yn Sir Ddinbych dros eu pwysau neu’n ordew – lefel Cymru yw 59.9%.
- Mae 25% o oedolion ym Mwrdeistref Sirol Conwy a 14.2% yn Sir Ddinbych yn ysmygwyr o’i gymharu ag 17.4% ar draws Cymru. (Nodwch os gwelwch yn dda: mae’n rhaid i ni gofio mai arolwg hunan-adrodd yw Arolwg Cenedlaethol Cymru, a gaiff ei hanfon at sampl eithaf bychan ar draws Cymru, a allai achosi amrywiadau o ran lefelau hunan-adrodd.)
- Nododd 62.7% o boblogaeth oedolion ym Mwrdeistref Sirol Conwy a 51.5% o’r rhai yn Sir Ddinbych eu bod wedi gwneud o leiaf 150 munud o ymarfer corff yr wythnos gynt. Mae 53.2% o boblogaeth Cymru yn nodi eu bod yn gwneud ymarfer corff. Mae’r ffigurau hyn yn uwch na blynyddoedd cynt yn sgil newidiadau i’r ffordd y gofynnir y cwestiwn.
- Mae 27.8% o oedolion ym Mwrdeistref Sirol Conwy ac 17.5% yn Sir Ddinbych yn nodi eu bod wedi bwyta o leiaf 5 dogn o ffrwythau a llysiau dyddiol a argymhellir y diwrnod cynt. Y cyfartaledd yng Nghymru yw 24.3%. Eto, mae’r ffigurau hyn yn wahanol iawn i’r blynyddoedd cynt yn sgil newidiadau i’r ffordd y gofynnir y cwestiwn.
- Mae 15.3% o oedolion ym Mwrdeistref Sirol Conwy ac 14.3% yn Sir Ddinbych wedi nodi eu bod wedi yn yfed mwy na’r canllaw wythnosol (sef 14 uned) yn yr wythnos gynt. Mae 2% o’r boblogaeth ym Mwrdeistref Sirol Conwy ac 1% yn Sir Ddinbych yn nodi bod eu defnydd alcohol yn niweidiol yn ystod yr wythnos gynt (ffigyrau Cymru = 16% a 2%)[2]. Eto, mae’r ffigurau hyn yn wahanol iawn i’r blynyddoedd cynt yn sgil newidiadau i’r ffordd y gofynnir y cwestiwn.
SYLWCH: Rydym yn dal i geisio canfod rhagor o ddata ac amcanestyniadau mwy diweddar ar y materion canlynol.
Ysmygu
Mae ysmygu’n parhau i fod yr achos marwolaeth mwyaf y mae modd ei osgoi yng Nghymru. Ymhlith pobl 35 oed a throsodd, ysmygu sy’n achosi bron i un ym mhob pump o farwolaethau ac oddeutu traean o’r anghysondeb mewn marwolaeth rhwng y llefydd mwyaf a lleiaf difreintiedig. Mae ysmygu yn ystod beichiogrwydd yn cael effaith negyddol sylweddol ar y fam a’r babi (gweler ein pwnc ‘Rhoi’r dechrau gorau’ i bob plentyn‘ am ragor o wybodaeth).
Mae ysmygwyr a gaiff eu hatgyfeirio at wasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu arbenigol y GIG i’w cefnogi i roi’r gorau iddi bedair gwaith yn fwy tebygol o lwyddo na’r rhai sy’n ceisio rhoi’r gorau iddi ar eu pennau eu hunain. Dylai 5% o ysmygwyr sy’n oedolion dderbyn triniaeth gan wasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu arbenigol y GIG ar unrhyw adeg.
Yn Sir Ddinbych, canran yr oedolion (16 oed neu’n hŷn) a ddywedodd eu bod wedi ysmygu rhwng 2018 a 2020 yw 14.2%. Mae hyn yn is na chyfartaledd Cymru o 17.4% a chyfartaledd Gogledd Cymru o 17.6%. Mae Conwy, fodd bynnag, wedi gweld cynnydd cyson yng nghanran yr oedolion sy’n ysmygu, gyda 25% o oedolion yn nodi eu bod wedi ysmygu rhwng 2018 a 2020. Mae hyn wedi cynyddu’n raddol ers 2016/17. Yn genedlaethol, sefydlwyd brand ar gyfer pob gwasanaeth sy’n helpu pobl i roi’r gorau i ysmygu o’r enw “Helpa fi i Stopio”. Mae’r gwasanaeth yn galluogi ysmygwyr i gael mynediad at gymorth yn y gymuned, mewn fferyllfeydd neu dros y ffôn. Mae gan Helpa fi i Stopio hefyd wasanaeth arbenigol ar gyfer merched beichiog a chleifion mewn ysbytai.
Camddefnyddio Sylweddau
Mae alcohol ar gael yn eang, ac mae prisiau alcohol 60% yn rhatach o’i gymharu â 40 mlynedd yn ôl, ac mae’n rhan allweddol o bob agwedd o gymdeithas a’n diwylliant. Mae meddwi’n synhwyrol yn gallu bod yn brofiad dymunol i bawb. Fodd bynnag, mae camddefnyddio alcohol yn gallu cael effaith nodedig ar les corfforol a meddyliol yr unigolyn, eu teulu a’r gymdeithas ehangach. Mae camddefnyddio alcohol yn gysylltiedig â throsedd ac anrhefn, ymddygiad gwrthgymdeithasol, ymosodiadau, trais domestig ac yn brif achos salwch a marwolaeth (gweler ein crynodeb ‘Nod Llesiant Cymunedol Cydlynol’ am ragor o wybodaeth). [3]
Cyfanswm yr atgyfeiriadau i’r gwasanaethau iechyd ar gyfer camddefnyddio sylweddau (o bob math) yn yr ardal oedd 1,800 yn 2014-2015 (1,000 ar gyfer preswylwyr Bwrdeistref Sirol Conwy ac 800 yn Sir Ddinbych). O bob 100,000 o’r boblogaeth, roedd hyn yn rhoi cyfradd atgyfeirio o 864 ar gyfer Bwrdeistref Sirol Conwy a 857 ar gyfer Sir Ddinbych, o’i gymharu â chyfartaledd Cymru o 822 (cyfradd gyfunol Conwy a Sir Ddinbych=861). Mae Bwrdeistref Sirol Conwy wedi’i raddio’n 9fed uchaf yng Nghymru, gyda Sir Ddinbych yn 11eg, fodd bynnag, rydym yn cydnabod nad yw hyn yn adlewyrchu yr unigolion nad ydynt yn cysylltu â’r gwasanaethau iechyd.
Weithiau, mae camddefnyddio cyffuriau’n amlwg iawn mewn lleoedd cyhoeddus ac yn peri pryder i’r cyhoedd, ac yn cael effaith ar nifer y troseddau meddiangar sy’n cael eu hadrodd. Fodd bynnag, mae nifer y troseddau cyffuriau a gyflawnwyd a’r unigolion sy’n gysylltiedig â’r rhain yn eithaf isel (26% o’r cyhoedd yn ardal Heddlu Gogledd Cymru wedi adrodd lefel uchel o ddefnydd cyffuriau er gwaethaf cyfradd flynyddol o ddim ond 2.06 trosedd am bob mil o’r boblogaeth[4]). Yr hyn sy’n peri mwy o bryder ar gyfer iechyd a lles y gymuned ehangach yw sylweddau seicoweithredol a chyffuriau newydd, nad ydynt o reidrwydd yn anghyfreithlon). Mae bod yn gaeth i gyffuriau presgripsiwn hefyd yn broblem.
Mae’r pryderon mwyaf o ran camddefnyddio sylweddau yn gysylltiedig ag alcohol. Mae gan Fwrdeistref Sirol Conwy a Sir Ddinbych gyfraddau uchel o unigolion yn cael eu derbyn i’r ysbyty oherwydd alcohol gyda chyfraddau safonol o 389 a 383 o dderbyniadau o bob 100,000 o’r boblogaeth yn 2014/15[5] yn y drefn honno ac mae’n sylweddol uwch na chyfartaledd Cymru o 333. Mae hyn yn eu gosod yn drydydd a’r pedwerydd uchaf yng Nghymru. Dywedodd 38% o drigolion Bwrdeistref Sirol Conwy a 42% yn Sir Ddinbych eu bod wedi yfed mwy na’r hyn sy’n cael ei argymell o leiaf unwaith yr wythnos, a dywedodd 20% a 22% yn y drefn honno eu bod wedi yfed mewn pyliau o leiaf unwaith yn ystod yr wythnos ddiwethaf[6].
Mae camddefnyddio alcohol yn costio oddeutu £25 biliwn y flwyddyn mewn gofal iechyd, trosedd a chynhyrchiant a gollir.
Roedd 84 o farwolaethau’n gysylltiedig ag alcohol bob blwyddyn yng Nghymru dros gyfnod o dair blynedd rhwng 2015 a 2017. Yn ystod 2017-18, roedd oddeutu 11,682 o dderbyniadau i’r ysbyty yn gysylltiedig ag alcohol ar draws Gogledd Cymru (7,647 o ddynion a 4,035 o ferched).[7]
Yn rhyngwladol, amcangyfrifir bod alcohol yn achosi oddeutu 3.3. miliwn o farwolaethau bob blwyddyn, sy’n codi o dros 200 o afiechydon ac anafiadau sy’n cael eu hachosi’n gyfan gwbl neu’n rhannol gan alcohol.[8] Mae rhai astudiaethau hefyd yn awgrymu bod y tebygolrwydd gordewdra yn uwch ymysg rhai sy’n yfed mewn pyliau a phobl sy’n yfed yn drwm o’i gymharu â phobl eraill, ond gall hynny hefyd fod o ganlyniad i ymddygiad andwyol gan gynnwys diet gwael, diffyg rheolaeth pwysau, anfodlonrwydd gyda’r corff a ffyrdd o fyw llonydd yn ogystal â’r calorïau o’r alcohol.
Tan yn ddiweddar, mae’r ymchwil i faich alcohol wedi canolbwyntio’n bennaf ar y niwed y mae yfwyr yn ei brofi eu hunain. Fodd bynnag, mae cydnabyddiaeth gynyddol o’r niwed y gall yfed alcohol ei gael ar y rhai o amgylch yr unigolyn, gan gynnwys aelodau’r teulu, cyfeillion, cydweithwyr a dieithriaid. [9]
- Mae’r niwed hwn yn cynnwys trais sy’n gysylltiedig ag alcohol ac ymddygiad ymosodol (gan gynnwys trais domestig a bywyd nos); esgeulustod, cam-drin neu gam-fanteisio (gan gynnwys plant); ymddygiad troseddol (difrod i eiddo a dwyn i gefnogi arferion yfed); anaf anfwriadol (e.e. damweiniau ffyrdd); ac anhwylder syndrom alcohol y ffoetws.
- Gall pobl hefyd brofi niwed i’w hiechyd meddwl a’u lles, drwy orbryder ynglŷn ag ymddygiad rhai sy’n yfed, gan gynnwys bod ofn ymosodiad ac amharu ar eu cwsg. Pwysau gofal a phryderon ynglŷn â sefyllfa ariannol y teulu/aelwyd yn deillio o fod yn gaeth i alcohol.
- Mae chwech o bob deg oedolyn (59.7%) yng Nghymru wedi profi niwed oherwydd arferion yfed rhywun arall yn y 12 mis diwethaf. Yn genedlaethol, amcangyfrifir bod hyn yn gyfwerth â 1,460,151 o bobl 18 oed a hŷn.
- Amcangyfrifodd Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr bod ychydig dros hanner (53%) o’r holl achosion o drais yn 2013/14 wedi’i gyflawni gan rywun oedd o dan ddylanwad alcohol
- Yng Nghymru, mae nifer yr unigolion a gaiff eu derbyn i’r ysbyty oherwydd cyflyrau sy’n gysylltiedig ag alcohol 2.4 gwaith yn uwch na derbyniadau yn sgil defnydd anghyfreithlon o gyffuriau
- Fel y nodwyd eisoes, yn 2017-18, roedd dros 11,682 o dderbyniadau i’r ysbyty yn gysylltiedig â chyffuriau ac alcohol yng Ngogledd Cymru[10]
- Roedd 4,404 o droseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus ar draws Gogledd Cymru yn 2017/18, roedd y mwyafrif o’r rhain yn gysylltiedig ag alcohol.
- Mewn un sir yng ngogledd Cymru, roedd adolygiad yn nodi mai gŵr/gwraig neu bartner y dioddefwr oedd y troseddwr mewn 41.7% o’r achosion o drais sy’n gysylltiedig ag alcohol.
Gall rhieni sy’n camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys alcohol, achosi niwed sylweddol. Mae plant mewn perygl o gael eu hesgeuluso’n emosiynol ac yn gorfforol wrth iddynt dyfu i fyny, gan gynnwys yr hanfodion sylfaenol megis darparu diet cytbwys. Mae llawer o blant yn y pen draw yn darparu gofal ymarferol ac emosiynol ar gyfer eu rhieni (a brodyr a chwiorydd o bosib), yn aml o oedran ifanc iawn. Mae hyn yn cynnwys amddiffyn eu rhieni rhag niwed, a gofalu am y cartref. Maent hefyd yn wynebu perygl o ddatblygu problemau emosiynol a chymdeithasol yn y dyfodol, gan gynnwys tebygolrwydd uwch na’r cyfartaledd o ddatblygu problemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau eu hunain (gweler ein pwnc ‘Rhoi’r dechrau gorau’ i bob plentyn‘ am ragor o wybodaeth)[11].
Mae Galw Amser Newid: Strategaeth Lleihau Niwed Alcohol 2020-24 yn nodi bod, ar draws Gogledd Cymru:
- amcangyfrif o 865 o blant sy’n derbyn gofal gyda rhieni’n camddefnyddio sylweddau neu alcohol.
- amcangyfrif o 120 o blant dros 10 oed yn derbyn gofal gyda phroblem wedi’i nodi o gamddefnyddio sylweddau ac alcohol (7.4% o’r holl rai sy’n derbyn gofal).
- 3 o ddisgyblion i bob 1,000 o ddisgyblion wedi’u gwahardd yn barhaol o’r ysgol oherwydd defnydd o gyffuriau ac alcohol yn 2016/2017.
- 68% o blant oed ysgol yng Ngogledd Cymru wedi yfed alcohol am y tro cyntaf pan yn llai na 15 mlwydd oed
- 25 o ferched beichiog wedi cael eu hatgyfeirio at Fydwraig Camddefnyddio Sylweddau’r Bwrdd Iechyd yn 2018/19.
Gall yfed alcohol a defnyddio cyffuriau fod yn ffactorau sy’n cyfrannu at y tebygolrwydd y bydd anaf neu farwolaeth oherwydd tân yn y cartref. Mae llawer o sylweddau yn effeithio ar allu pobl i farnu ac ymateb i berygl – gall coginio ar ôl yfed alcohol yn arbennig beri risg, er enghraifft. Mae alcohol yn cael effaith ar ymateb arferol, ac amharu ar y gallu i farnu, lleihau canfyddiad a gall arwain at fod yn anymwybodol, mewn symiau eithafol. Gall meddyginiaethau neu gyffuriau anghyfreithlon gael effeithiau tebyg, ac mae cyfuniad o gyffuriau ac alcohol yn gallu gwneud pobl yn hynod o ddiamddiffyn.
Weithiau mae camddefnyddio sylweddau yn ymateb hunanfeddyginiaeth i faterion iechyd meddwl ac yn aml yn gysylltiedig ag iselder neu anhwylderau gorbryder. Gall diffyg cydlyniad rhwng darparwyr iechyd, gofal cymdeithasol a darparwyr lles eraill (e.e. tai cymdeithasol) achosi problemau cyfansawdd ar gyfer y dioddefwyr, eu teulu, ffrindiau a’r gymuned y maent yn byw ynddi, ac ar gyfer y darparwyr gwasanaeth.
[1] Cydraddoldeb Iechyd yn Lloegr: Adolygiad Marmot 10 mlynedd (2020)
[2] Arolwg Cenedlaethol Cymru 2019/20
[3] Galw Amser Newid: Strategaeth Lleihau Niwed Alcohol 2020-2024
[4] Arolwg Troseddau Prydaun; Ystadegau Trosedd yn Lloegr a Chymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 06/16, ONS
[5] Cronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru, Llywodraeth Cymru
[6] Arolwg Iechyd Cymru, 2013-14
[8] Jones L, Bellis MA. 2014. Updating England-specific alcohol-attributable fractions. Lerpwl: Sefydliad Iechyd Cyhoeddus, Prifysgol John Moores Lerpwl. http://www.cph.org.uk/publication/updating-england-specific-alcohol-attributable-fractions/ a Sefydliad Iechyd y Byd. 2014. Global status report on alcohol and health 2014. Geneva: World Health
[9] Alcohol’s harms to others, Sefydliad Iechyd Cyhoeddus, Cyfadran Addysg, Iechyd a Chymuned, Prifysgol John Moores Lerpwl, Medi 2016
10 Galw Amser Newid: Strategaeth Lleihau Niwed Alcohol 2020-2024, Bwrdd Cynllunio Ardal Gogledd Cymru
[11] Alcohol’s harms to others, Sefydliad Iechyd Cyhoeddus, Cyfadran Addysg, Iechyd a Chymuned, Prifysgol John Moores Lerpwl, Medi 2016 a Silent voices: supporting children and young people affected by parental alcohol misuse, Comisiynydd Plant Lloegr, Medi 2012.
Mae Arolwg Iechyd Cymru bellach yn cael ei chynnal fel Arolwg Cenedlaethol Cymru, ac mae’r dulliau caglu data yn wahanol. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd i gymharu data â’r gorffennol. Fodd bynnag, yn fras:
- Mae lefelau gordewdra wedi cynyddu ers 2003/4
- Mae cyfran yr oedolion sy’n ysmygu yn amrywio rhwng 2016 a 2020, gyda chynnydd yng Nghonwy
- Mae’r rheiny sy’n nodi eu bod wedi gwneud ymarfer corff am 150 munud yn yr wythnos gynt yn amrywio ers 2016.
- Mae cyfran yr oedolion sy’n nodi eu bod wedi bwyta o leiaf 5 dogn o ffrwythau a llysiau y diwrnod cynt yn wedi amrywio ers 2016
- Mae nifer y bobl sy’n nodi eu bod yn yfed mwy na’r canllaw wythnosol wedi parhau i ostwng bob blwyddyn ers 2016.
Mae atal ymddygiad sy’n niweidio iechyd a hyrwyddo ymddygiad iach yn flaenoriaeth. Fodd bynnag, mae’n rhaid darparu cefnogaeth ar gyfer unigolion gyda ffyrdd o fyw nad ydynt yn iach, yn enwedig gordewdra a chamddefnyddio alcohol.
Y defnydd o dybaco yw’r prif achos unigol o farwolaeth gynamserol yng Nghymru o hyd ac mae’n cyfrannu’n sylweddol at anghydraddoldebau iechyd. Er bod marwolaethau y gellir eu priodoli i ysmygu wedi gostwng yng Nghymru, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amcangyfrif bod ysmygu yn parhau i fod yn gyfrifol am dros 5,000 o farwolaethau bob blwyddyn (oddeutu un ym mhob chwech o farwolaethau ymhlith pobl sy’n 35 oed neu’n hŷn). Mae’r rheiny mewn ardaloedd difreintiedig ddwywaith yn fwy tebygol o ysmygu, gwneud llai o ymarfer corff a bwyta llai o ffrwythau a llysiau.[1]
Mae anweithgarwch corfforol, diet a lefelau gordewdra hefyd yn ffactorau risg ar gyfer afiechydon. Os bydd y duedd o anweithgarwch a bwyta llai o ffrwythau a llysiau yn parhau, erbyn 2025, bydd dau draean o’r boblogaeth oedolion yng Nghymru dros eu pwysau neu’n ordew. Fodd bynnag, mae’r rheiny yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn llai tebygol na’r rheiny yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig i yfed mwy na’r canllawiau a argymhellir.[2] Amcangyfrifir bod y costau sydd ynghlwm ag anweithgarwch corfforol yng Nghymru yn oddeutu £650 miliwn y flwyddyn.[3] Yn ogystal â helpu i leihau lefelau gordewdra, mae cynyddu lefelau gweithgarwch corfforol yn arwain at fanteision gan gynnwys cynyddu disgwyliad oes iach pobl. Mae’n cael ei gydnabod yn eang bod nifer o’r materion iechyd allweddol yng Nghymru (a gwledydd eraill) yn rhai sy’n cael eu hystyried fel rhai y gellir eu hatal (Adroddiad Blynyddol 2013-14 a 2014-15 y Prif Swyddog Meddygol). Mae’r rhain yn cynnwys cyflyrau cronig y mae gweithgarwch corfforol annigonol yn cyfrannu atynt megis clefyd cardiofasgwlaidd, diabetes math 2, clefyd cronig yn yr arenau, rhai mathau o gancr, osteoporosis ac arthritis. Oherwydd difrifoldeb y sefyllfa a’r niweidiau sydd ynghlwm â gordewdra, mae pwnc arbennig ar gael yma.
Gall defnyddio’r amgylchedd naturiol i gynorthwyo i wella ffitrwydd corfforol a lleihau gordewdra gefnogi gwydnwch cymdeithasol drwy ddarparu cyfleoedd i ryngweithio ac ymgysylltu. Mae hyn yn helpu i ddatblygu cydlyniant cymdeithasol, ynghyd â gwella lles meddyliol a chynyddu gweithgarwch corfforol, mae’r ddau ohonynt o fudd penodol mewn ardaloedd o amddifadedd, lle bo gwydnwch cymdeithasol ar lefel is yn aml.
Drwy gymharu ein cefnogaeth ar gyfer mynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau gyda dulliau a dderbynnir, rydym wedi dod i ddeall ein bod wedi llwyddo o ran triniaeth a chefnogaeth, ond mae angen cydnabyddedig i wella ymyrraeth gynnar, atal ac adfer.
Mae adferiad yn ymwneud â helpu pobl i fod yn hunan-ddibynnol a pheidio â dibynnu ar y gwasanaethau cyhoeddus mwyach. Mae cefnogaeth barhaus wrth wella a thu hwnt – efallai gan y sector gwirfoddol – yn hanfodol i gynorthwyo i osgoi syndrom drws troi o driniaeth-adfer-ailddechrau, ac i gynorthwyo pobl i fod yn aelodau gweithredol yn y gymuned.
Mae Galw Amser Newid: Strategaeth Lleihau Niwed Alcohol Gogledd Cymru, 2020-24 wedi’i alinio â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) Cymru, ac wedi cael ei gynhyrchu i leihau’r niwed sydd ynghlwm ag alcohol i’r unigolyn a’r gymuned ehangach. Ei uchelgais yw sicrhau diwylliant yng Ngogledd Cymru sy’n hyrwyddo ac yn mwynhau perthynas gadarnhaol gydag alcohol, lle mae peidio ag yfed neu lefel isel o alcohol yn cael ei werthfawrogi a’i ystyried yn norm.
[1] Galw Amser Newid: Strategaeth Lleihau Niwed Alcohol 2020-2024, Bwrdd Cynllunio Ardal Gogledd Cymru
[2] Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog Meddygol 2018/19
[3] Dringo’n uwch: creu Cymru egnïol, Llywodraeth Cymru 2009
Amlygwyd bod yr angen i gefnogi ffyrdd o fyw iach yn peri pryder i bobl leol, yn arbennig mewn perthynas â mynd i’r afael â’r argyfwng gordewdra, drwy gynyddu cyfleoedd hamdden, gwaith partneriaeth a thrwy ddatblygu ein rhwydwaith teithio llesol.
Mae pobl yn bryderus am dlodi ymysg plant, a’r gwaith y mae’r sector cyhoeddus yn ei wneud i wella ansawdd bywyd ar gyfer pobl a phlant mewn tlodi. Mae newyn ymysg plant yn peri pryder arbennig i bobl ac mae arnynt eisiau deall yr achosion sydd wrth wraidd newyn. Mae pobl hefyd yn awyddus i sicrhau ein bod yn gofyn i bobl sy’n byw mewn ardaloedd o amddifadedd beth, yn eu barn nhw, fyddai’n gwella eu bywydau.
Ystyrir bod digartrefedd yn ffactor mewn amddifadedd ac ansawdd tai hefyd. Amlygodd pobl bod cyflwr tai gwael hefyd yn gysylltiedig â disgwyliadau oes is.
Hoffai pobl weld rhagor o fuddsoddiad mewn ffactorau sy’n cefnogi lles pobl ifanc:
- buddsoddiad mewn gweithgareddau i bobl ifanc e.e. prosiectau cymunedol, dosbarthiadau ymarfer corff i bobl ifanc, clybiau ieuenctid (er mwyn cynnig rhywle i bobl ifanc fynd e.e. eu gwneud nhw’n fwy deniadol gyda gweithgareddau gwell, rhagor o gyhoeddusrwydd fel bod pobl yn gwybod amdanynt)
- cefnogaeth i wella iechyd meddwl pobl ifanc, yn arbennig yn dilyn y pandemig Covid-19
- cynnwys pobl ifanc ym mhenderfyniadau’r cyngor
- gwelliannau i ganolfannau a chyfleusterau hamdden i ddenu pobl ifanc e.e. clybiau, dosbarthiadau gwell sy’n cael eu hysbysebu’n dda ac yn targedu pobl ifanc.
Nodwyd y rhai ag anableddau, gan gynnwys anawsterau dysgu, a phobl hŷn fel rhai y dylid eu cefnogi, er mwyn lleihau unigedd. Roeddent yn credu bod modd datblygu cysylltiadau rhwng y cenedlaethau drwy annog pobl iau i wirfoddoli i gefnogi pobl hŷn.
Dim cynnwys ar hyn o bryd.